Skip to main content

Anrhydedd y brodyr Davies Bryan Y mynachty yn Ale_andria. Yn gynnar yn yr wyth degau o'r ganrif ddiwethaf llenwid swydd uchel yn Hen Wlad yr Aifft gan un o fechgyn y Rhos, Sir Ddinbych Samuel Evans oedd ei enw, neu Sami fel y mynnai ei fam weddw alw'i hunig blentyn. Y mae hanes hir a rhamantus i'r Cymro hwn. o'r adeg y gwasanaethai fel negesydd bychan yn swyddfa argraffu Hughesa'i Fab, Wrecsam, — yndysgu llaw fer Gymraeg o ddalennau rhyddion Phonograffia," a argreffid yno ar y pryd, — i'r sajle a leinw heddiw yn Ne Affrig, fel Cadeirydd a Phrif Arolygydd Mwngloddiau'r Goron,-y Dr. Samuel Evans, Johannesburg. Oni buasai am y gúr llygadog hwn, y tebyg ydyw na fuasai'r brodyr Bryan erioed wedi gadael tir eu gwlad. YN haf 1886 daeth Samuel Evans adref ar ei wyliau, newydd ei benodi'n bennaeth yr Egyptian Coast Gµard Sercice, ac yn Gyfarwyddwr Ariannol i'r Llywodraeth. Galwodd gyda'i gefndryd- John Davies Bryan ac Edward, yn eu bychain ydoedd. Llwyddodd y tuhwnt i'w ddisgwyliadau. Gadawodd Joseff goleg Aberystwyth ac aeth allan i ymuno â'i frawd yn y fasnach. Penderfynwyd agor siop arall yn Alecsandria. Dychwelodd John i Gymru yr haf wedyn, gwerthwyd y siop yng Nghaernarfon ac aeth Edward yn ôl gydag ef. Yr oedd gobeithion y tri brawd wedi codi'n uchel a'r rhagolygon yn ddisglair. Ond mor agos i'w gilydd ydyw gobaith a siom, llaw- enydd a thristwch, heulwen a chwmwl Agor canghennau. Cyn pen pythefnos wedi cyrraedd yn ôl i Gairo, clafychodd John o'r dwymyn fraenol, a syrthiodd yn aberth iddi. Dodwyd ei weddillion i orffwys yn y fynwent newydd Brydeinig ger Nil. Er gwaethaf y siom, ymwrolodd y ddau frawd ifanc, gan ymdaflu o ddifrif i'w masnach; a llwyddo a wnaethant ar hyd y ffordd. Helaethwyd y ddwy siop dro ar ôl tro ac agorwyd canghennau yn Port Said ac yn Khartoum. Davies Bryan a'i Gwmni ydoedd y dilladwyr mwyaf yn y Dwyrain i gyd. Codasant adeilad helaeth yng Nghairo,-yr adeilad mwyaf yn yr Aifft ar y pryd. Heblaw eu masnach hwy eu Gan y Parchedig W. A. Lewis Lerpwl masnachdy yng Nghaer- narfon-dilladwyr oeddynt. Cafodd nad oedd John yn gryf ei iechyd ers tro a mynnai iddo fynd gydag ef i'r Aifft, fod yno iechyd a ffortun yn ei aros. Yr oedd hen wlad y caethiwed newydd ddyfod yn rhannol o dan reolaeth Prydain, yr hualau wedi'u dryllio, a'r drysau wedi'u hagor i farchnadoedd y Gorllewin. Y cyntaf i'r felin gaiff falu," a'r cyntaf i agor masnach ar ddulliau Prydeinig yn yr Aifft, gwenai ffawd yn sicr arno. Yr oedd John am weled drosto'i hun a oedd y pethau hyn felly, ac nis siomwyd. Dychwelodd iechyd a hoen i'w gorff, ac agorodd y siop gyntaf yn yr Aifft i fasnachu fel Inglisee," chwedl y brod- orion. Yng Nghairo y bu hyn, a dydd y pethau hunain, cynhwysai'r adeilad ystafelloedd i Undeb Cristnogol y Gwyr Ieuainc, a sefydliadau eraill. Yno hefyd am gyfnod y bu Llysgenhadaeth America. Ni bu atal na phall ar ymdaith lwyddiannus y fasnach hyd nes y torrodd y Rhyfel Mawr yn 1914 i ddyrysu masnach a thrafnid holl wledydd y byd. Disgynnodd y ddyrnod yn drom ar fasnach yr Aifft. Bechgyn o sir Ddinbych ydoedd y pedwar brawd,-John Davies, Robert, Edward a Joseff-plant i Edwart ac Elinor Bryan. Goruchwyliwr gwaith mwyn plwm ydoedd y tad ac yn ôl arfer ardaloedd y mŵnau, gelwid ef yn Capten Bryan. Yr oedd y fam yn chwaer i John Parry, Llanarmon, a'i henwogodd ei hun fel areithiwr hyawdl yn rhyfeloedd y degwm ers llawer dydd. O ddyffryn Maelor. Yng Nghamddwr, Llanarmon-yn-Iâl, y ganed y ddau fachgen hynaf. Wedi hynny symudodd y teulu i ardal dawel ddiarffordd yng nghanol mynydd Cyrn-y-brain, uwchben y Mwnglawdd, a dyffryn Maelor yn ymagor o'i flaen. Yma y ganed Edward a Joseff. Mynychai'r teulu gapel Bethel, Coedpoeth, lle bu'r tad yn flaenor am flynyddoedd. Yn 1856 y ganed John Davies Bryan. Ef oedd yr unig un â Davies yn ei enw bedydd, ac fel hyn y bu. Gwahoddwyd yr hen weinidog doniol, John Davies, Nercwis, perthynas i'r teulu, i fedyddio'r bychan,. a dywedwyd mai John oedd yr enw. O, gadewch i mi ei enwi yn John Davies,' er fy mwyn i," meddai yntau. Felly y bu. Mewn blynyddoedd diweddarach y mab- wysiadodd Edward a Joseff yr enw hwn, gan mai Davies Bryan a'i Gwmni ydoedd yr enw masnachol o'r cychwyn. Yr unig ysgolion y bu John ac Edward ynddynt ydoedd Penygelli a Brook Street, Wrecsam. Bu John yn brentis gydag Enoc Lewis, Mostyn, tad y diweddar Syr J. Herbert Lewis, ac Edward yr un modd gyda W. a J. Pritchard, Wrecsam. Aeth Robert o ysgol Wrecsam i Goleg Normalaidd Bangor, a bu'n feistr ysgol yn Arfon, Meirion a Phenfro am rai blynyddoedd. Awyddu am ddysg. Awyddai am ragor o ddysg, ac aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth, ac wedi hynny i Rydychen, gan ymegnïo am raddau dwbl yr un flwyddyn, sef B.A., a Mus. Bac. Tystiai'r Dr. Varley Roberts, y cerddor enwog, na fu ganddo erioed ddisgybl mwy addawol na Robert. Ond gorweithiodd, a thorrodd ei iechyd i lawr. Pan ddylsai fod yn eistedd yn ystafell yr arholiadau, gorweddai Robert yn gystuddiol yn yr ysbyty, ac yno y bu am wythnosau. Ni ddychwelodd ei iechyd byth yn ddigon cryf iddo allu dychwelyd i Rydychen i orffen ei gwrs ac i gymryd ei raddau, er iddo fyw hyd yn 60 oed, a dal i ennill dysg a chasglu gwybodaeth hyd y diwedd.