Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Achubwn y blaen ar y Pellweledydd YR ŷm ar drothwy datblygiad newydd ym myd adloniant cy- hoeddus, fel y dengys adrodd- iad y Post-feistr Cyffredinól, drwy ddyfod o'r peUweledydd. Bydd rhaid inni fod yn fyw i'w bwys ac yn barod i gymryd mantais arno er mwyn buddiannau'r genedl a thebyg y bydd yn dda fod yr Wyddfa gennym i roi ein gorsaf arni. YMAE'R pellweledydd wedi bod yn faes ymchwil pybyr yn ystod y blynydd- oedd diwethaf, ac fel y gwyr pawb y mae'r B.B.C. wedi bod yn darlledu dar- luniau ers peth amser, ond hyd o fewn ychydig iawn yn ôl nid oedd fawr obaith y gellid trosglwyddo darluniau digon clir i fod o werth adloniadol i'r cyhoedd. Yr hyn sydd wedi newid y rhagolygon ydyw datblygiad cyflym y gostrel electronaidd y gwelir ei darlun ar ben y ddalen. I egluro pwys y datblygiad hwn rhaid inni ystyried am funud beth y mae pellwelediad yn ei olygu. Pan yw darlun yn cael ei daflu ar y llen yn y cinema y mae'r don o oleuni sy'n mynd o'r llusern i'r hen yn cario rhai miliynau o Gan W. E. Williams Darlithydd yng Ngholeg Bangor ar Drydaneg Ymarferol negeseuau ar unwaith, un am bob pwynt i'r darlun, ond os ceisiwn drosglwyddo'r darlun gyda'r trydan, deuwn yn erbyn y ffaith nad oes gennym ond un redfa drydanol yn ein gwifren, ac felly na ellir cludo arni ond un neges ar unwaith. Trosglwyddo darlun. Sut y gall cyfrwng o'r fath drosglwyddo darlun ? Y mae'r peth yn bosibl am na all y llygad dynol amgyffred cyfnewidiad sy'n digwydd mewn llai na rhyw ugeinfed ran o eiliad. Cymerir mantais ar hyn yn y cinema, Ile y teflir darlun newydd ar y Hen 24 gwaith mewn eiliad, eto gwêl y llygad ddarlun arhosol. Faint o'r edrychwyr ym mhlas y darlun byw sy'n sylweddoli bod y llen yn dywyll am hanner yr amser ? Eto felly y mae, gan fod y goleuni yn cael ei dorri i ffwrdd yn hollol tra newidir y darlun yn y llueern. Yn y trosglwyddiad trydanol, gan mai un neges a all ein cyfrwng ei gario, un pwynt o'r darJun a ellir ei drosglwyddo ar unwaith, ac felly rhaid mynd dros y darlun o bwynt i bwynt, ac nid oes gennym ond 1/20 0 eiliad i wneud hynny. Míloedd o ysmotiau. Sawl pwynt sydd eisiau ? Edrychwch am funud gyda chwyddwydr ar unrhyw ddarlun yn y rhifyn hwn ac fe welwch ei fod yn cael ei wneud o fân ysmotiau, ac os cyfrifwch hwynt, fe gewch fod tua chant ohonynt mewn modfedd. Felly y mae mewn darlun tair modfedd bob ffordd, 300 X 300 = 90,000 o ysmotiau, ac os ydych am gael darlun o'r safon yma yn y pellweledydd rhaid anfon 90,000 X 20 = 1,800,000 o bwyntiau, hynny yw o negeseuau mewn eiliad. Mewn geiriau eraill, rhaid i'n rheolaeth o'r redfa drydanol fod yn gyfryw ag y gallwn ei gyrru ôl a blaen ddwy filiwn o weithiau mewn eiliad. Beth os gostyngwn y safon er mwyn gwneud y peth dipyn haws ? Edrychwch ar ddarlun yn Y Cymro, yma ni cheir ond ychydig dros 60 o bwyntiau i'r fodfedd, a gwelwch faint o fanyldra ac o werth y darlun sy'n cael ei golli. Amlwg yw na allwn fynd