Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Casgliad o Farddoniaeth i Blant a Chofiant sy'n Hanes Cyfnod FE ddywedir wrthym gan a wyr mai epigramau Groeg oedd y deunydd barddonol cyntaf a gasglwyd at ei gilydd mewn un gyfrol. Yng nghyflawniad yr amser ni a gawsom ninnau gasgliadau o farddoniaeth Gymraeg godidog-yn fesurau caeth a rhydd, yn ddewisiad y casglydd a'r awduron, yn ganu hen a diweddar. Ond ni ddaeth i ben neb wneuthur casgliad arbennig i'r plant, hyd y gwyddom, hyd eleni, sef Barddoniaeth y Plant (Hughes a'i Fab, Wrecsam, Llyfrau I, II a III, pris chwech, wyth a deg ceiniog). Blodeuglwm y galwyd y casgliad Groegaidd, a gellir yn wir honni bod y llyfrau bach hyn yn glymau blodau. Ceir darnau cymwys i'w hadrodd neu i'w gosod ar alawon o waith Wil Ifan, T. Gwynn Jones, J. J. Williams, Crwys, R. Williams Parry, Cynan, J. T. Jones, Elfed, I. D. Hooson, R. H. Jones, T. H. Parry Williams o feirdd sy'n fyw heddiw, a hefyd gan Ceiriog, J. Morris-Jones, Eifion Wyn, Hedd Wyn a llu eraill. Tasg y Detholydd. Wrth droi dalennau'r llyfrynnau hyn fe awn yn ôl, o ffurfiau cymhleth ar y delyneg, yr englyn, a'r soned, heibio i'r pennill telyn a'r ganig, at yr hwiangerdd a'r gân siglo'r crud. Dyma farddoniaeth Cymru yn ei ogoniant wedi'i baratoi i'r ifanc tyner ei feddwl. Teimlwyd bod angen mawr llyfrau o'r math hwn yn ysgolion Cymru," meddai'r Detholydd mewn rhagair, a cheisiwyd dewis darnau o fewn cylch profiad y plant, gan mai dyma'r unig ffordd iddynt ddyfod o ddifrif i garu barddoniaeth." I brofi i'r Detholydd lwyddo yn hyn o dasg rhodder y llyfr yn llaw unrhyw blentyn ysgol. SYR CAI. "Edwards, Castell Nedd." GẄR a gydiai ddau gyfnod hollol wahanol i'w gilydd oedd Edwards, Castell Nedd, ac yn y gyfrol a ysgrifennodd ei fab i'w goffáu fe geir nid yn unig bortreiad o'r gweinidog fel dyn, ond fe geir hefyd syniad am y newid mawr a fu ar fyd, yn gym- deithasol ac yn grefyddol rhwng 1841 a 1924. Siartiau a helyntion Beca oedd yn peri braw i'r bobl fodlon yn ystod blynyddoedd cynaraf James Edwards, ac yn fuan wedyn fe gynhyrfwyd y wlad gan ddiwygiad '59, a hwnnw, mae'n debyg, a barodd iddo fyned i'r weinidogaeth. Daeth brwydr Datgys- ylltiad a'r ymdrech i ennill i Anghydffurfwyr yr un rhyddid ag a fwynhai'r Eglwyswyr, ac yn yr ymdrechion hynny bu James Edwards yn ymladdwr glew a medrus. Ar ôl penderfynu mynd i'r weinidogaeth, aeth James Edwards i ysgol Castellnewydd Emlyn, a gedwid gan feistr a thuedd ynddo i dorri ar y gwersi a mynychu'r ty tafarn agosaf." Ond er gwaethaf hyn, llwyddodd yr athro hwn i godi yn ei ysgol lawer a ddaeth yn enwog ym mywyd cre- fyddol, llenyddol a chymdeithasol y wlad." Aeth wedyn i Goleg Aberhonddu. Sonia'r gyfrol hon gryn lawer am y colegau cynnar ac am ddadl boeth y cyfansoddiadau, a'r dynion a gymerodd ran flaenllaw ynddi. Mor ddiddorol a dim yn y gyfrol yw'r disgrifiadau am gyflwr cymdeithasol y cyfnod, am arferion, chwaraeon, ac ofergoelion. Disgrifir ffermwyr y Mynyddau Duon yn mynd a'u cŵn gyda hwy i'r cyrddau Çjymerai'r anifeiliaid ran yn y gwasan- aeth, gan ganu'r emynau gyda hwyl a blas." Chwarae pel gynt. Ambell waith byddent yn ymladd â'i gilydd, gan beri mwy o brofedigaeth i'r pregethwr nag i'w wrandawyr, a oedd wedi arfer â therfysg o'r fath. Un tro aeth y ci ar ôl Edwards ei hun i'r capel, a chychwyn i fyny grisiau'r pulpud ar ei ôl. Y mae ambell eglwys blwy o hyd yn dangos gefail gwn a ddefnyddid dros gan mlynedd yn ôl i roi cwn tyrfus allan. Rhoddir inni hefyd ddarlun byr, ond cyflawn, o ymrysonfa bêl droed rhwng pyrth dwy eglwys mewn gwahanol blwyfi, ac awgryma'r awdur y gellir priodoli talent y Cymry mewn chwarae rygbi i'r hyffordd- iant a gafodd ein hynafiaid yn y gêm gyntefig hon. Neges y swyddog. Adroddir hanesyn diddorol am dro hynod yn hanes teulu gwraig arwr y cofiant hwn. Yr oedd hi yn hannu o deulu Llwynrhys, lle y bu'r addoldy Anghydffurfiol cyntaf yn sir Aberteifi. Yr oedd mab i John Jones, Llwynrhys, wedi mynd i Lundain a dod yn swyddog yn y Dragoons. Yr adeg honno yr oedd erlid ar Ymneilltuwyr, ac wrth gwrs yr oedd John Jones yn agored i ddirwy drom. Un dydd dyma swyddog yn marchogaeth at Llwynrhys, a meddyliodd yr hen ffermwr mai ei gyrchu ef i garchar oedd ei neges, ac aeth i ymguddio. Ai hwn yw Llwyn- rhys ? ebe'r swyddog. Ie," meddai'r hen wraig yn grynedig. Pan ddywedodd y swyddog fod ganddo neges i John Jones oddi wrth y brenin, llewygodd yr hen wraig. Tybiodd y gwr oedd yn ymguddio yn y llofft fod y dieithryn yn ymosod ar yr hen wraig, a rhedodd allan a gweiddi Peidiwch â gwneud dim niwed iddi, Syr." Niwed," meddai'r swyddog, a allaf fod yn greulon wrth fy mam ? Nid oedd y dieithryn amgen na mab Llwynrhys wedi dod â breinlen oddi wrth y Brenin yn caniatáu i John Jones gynnal cyfarfodydd crefyddol yn Llwynrhys. Sonnir gryn dipyn am Michael Jones y Bala, a meddir Cymro oedd Michael Jones, hyd, hyd yn oed, bob pilyn o ddillad amdano. Canys ymenyn a haidd Cymru oedd ei fwydydd, ac nid yfai de os oedd llefrith ar gael." Dyma gofiant bywiog i weinidog, ac wrth gofio'r gweinidog fe godir y llen ar hanes y cyfnod. {Edwards, Castell Nedd, gan ei fab, John Edwards. GwasgGomer.Llandysul. Pris2/6). Y MEUDWY. LLYFRAU ERAILL. Adroddiadau i Fabanod gan Fanny Edwards (Lerpwl, yng Ngwasg y Brython, 6ch.). Hynod dlws ei gân a'i ddarlun. Subject Index to Welsh Periodicals gan Arthur ap Gwynn, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. (I'w gan gael yr awdur, pris 5/) Cyfeiria'n fanwl at bob erthygl o bwys a gyhoeddwyd yn 1931. Anhepgor i lyfrgelloedd. Congl Holi ac Ateb Dylid cyfeirio holiadau i'r gongl hon i Olygydd Y FoRD GRON, Cwasg y Dyicysogaeth, Wrecsam. Doder y geiriau Holi ac Ateb ar yr amlen. Beth yw vstyr yr enw Senghenydd? (M.A., Caerffili). Enw gwreiddiol y Че oedd Saint Cenydd, a sefydlodd fynachlog yno. Yn ddiweddarach fe adawodd y fyn- achlog yng ngofal ei fab Ffili. Pa lyfrau sydd orau i ddysgu'r cyngan- eddion ? Chwi gewch bob gwybodaeth yn y llyfrau a ganlyn Y Cynganeddion Cymraeg gan David Thomas (Hughes a'i Fab, 6/-). Cerdd Dafod gan J. Morris- Jones (Oxford Press, 12/6). Pa gyfieithiadau Cymraeg o Elegy Gray sydd? (T.O.P., Oldham). Pwy yw awdur y gwpled A fynno gyrraedd nef wen goron Dwy ran ei helynt drain a hoelion? (E.L., Llanberis). B'le y ceir hanes Madame Bernn o Lacharn, a adawodd arian i ysgolion yr Eglwys ? (T.J., Corwen). B'le ceir y sôn cyntaf am dranc y Gymraeg? (E.E., LlaneUi).