DEWI SANT GEMAU i'w bobl fu'n gymell A golau dydd a gwlad well. Yr Hen Gartref HEN gartref hoff, ar fin y loyw nant, Fe ddeffry yn fy mynwes wg a gwên, Daw atgof im o freuddwyd tlws y plant, Am etifeddiaeth deg eu tadau hen Mae chwys hynafiaid rhwng y meini trwm A gwaed eu haberth dan ei seiliau o Bu llonder aelwyd, er parwydydd llwm, Yn taro salm dedwyddwch dan ei do Ba anfad waith Rhyw anghrist, aliwn dras, Â'i anwar floedd, a ddrysodd ganu'r côr, Pa beth yw allor dwym i adyn cas Ar ymdaith feddw. Oni wêl yr Iôr Y cadno yng nghwsg lle gwenai baban gynt, Ai llais dialedd glywaf yn y gwynt ? Fairfield, Lerpwl. COLLWYN. Ym Mhellter Byd 'T) ÔL crwydro'r wlad a'r gwledydd un ac un, A byw mewn estron dir yn llon ac iach, Er gweled ryfeddodau o bob llun, Mwy melys im yw hedd y bwthyn bach Lle cefais i fy magu gan fy mam, Lle cefais i gynghorion gan fy nhad, A gweld ohonynt na chawn unrhyw gam Cyn myned i wynebu'r byd a'i frad Mae deigryn hallt er hynny'n lleithio 'ngrudd Er cymaint y llawenydd tan fy mron. Ac mae rhyw wacter yn fy enaid prudd Nas llenwir gan na dolef leddf na llon Eisteddaf heno yn y fangre glyd- Yn drist-y mae fy mun ym mhellter byd. T. LLEWELYN JONES (Rhydfah). Caerdydd. Fe Wena'r Lloer (0 Saesneg Alfred Noyes.) FE wena'r lloer mae'r sêr yn llon Mae'r gwynt yn rhydd ac ir Fe awn i geisio aur dros don Draw o'n cynefin dir! Bu'r byd yn mynd yn hen a brau Rhown eto'r hwyl ar daen! 'Rym ni yn ceisio Teyrnas Aur Tu hwnt i gefnfor Sbaen. Yn iach i'r gwasaidd blygu glin A'r gwenau ffals amhur Duw, gad i'r chwa a'i balmaidd rin Ysgafnu'n bron o'i chur Mae serch yn rhydd, nis gwerthir mwy Am elw byd di-raen 'Rym ni yn ceisio Oesau Aur Tu hwnt i gefnfor Sbaen. IOAN BROTHEN. Tu hwnt i olau pell Cathay, Tu hwnt i freuddwyd dyn. Ymhell o gyrraedd nos a dydd Mae Eldorado gun A ddengys-rhwng cymylau pell- Serennig heb un staen, Gogoniant hardd y Clwydi Aur Tu hwnt i gefnfor Sbaen. Wrecsam. EDWIN A. WILLIAMS. BANER Y PLAS A MI'N dod o'r chwarel, pwy ddydd, heibio i'r plas, Yn chwifio uwchben y tŵr, 'Roedd baner brydferthaf o rudd, gwyn a glas, Yn sidan i gyd, bid siwr. Gofynnais i'm cymrawd. pa beth oedd yn bod I godi "Siôn Undeb i'r ne ? Atebodd yn sychlyd mai dyna yw'r nod Fod f'arglwyddes at home to-day." Ond. buan o'm bryd aeth y plasty balch A'i faner o las, gwyn a rhudd, Am fod penwn o fwg uwch fy simdde galch, A Siani at home bob dydd. Pen-y-bryn, Ffestiniog. EMYNAU hoff, pwy nas mwynha ?-Eu tinc Hwynt-hwy, ein beirdd pura, Yn lovwon oll dan sêl Na, A waddolodd i Walia. Yn anadl iach pob emyn dlos, —yn bod Mae'r peth byw sy'n aros Nid gwrid darfodedig ros, Diddanwch undydd unos. Ond mae enaid emynydd—yn y rhain Yn rhoi hwyl i grefydd Gorau win gwir awenydd Yn swyn ym mhob emyn sydd. Pontwalby. Castell Nedd. CAWR a egyr y creigiau-yw'r hwyliog Chwarelwr di foethau A dyn gwlad wna do yn glau I lysoedd a phalasau. Llanrug, Arfon. MORRIS D. JONES. T. LLOYD JONES. Emynau LLANORFAB. Y Chwarelwr HIRNOS AEAF CESAIR â drygair yn drogan—ar baen Hir boen i a êl allan Garwnad hy o gorn y tân A'r glicied yn oer glecian. MAREDUDD AI' TOMAS. Pen-y-cae, Sir Ddinbych. Can PE gofynnit am fy nghalon, Nid yw yn fy meddiant i Mae hi eisoes yn dy ddwylo, Gwna a fynnit efo hi. 'Rwyf yn meddwl byth amdanat, Drych fy mreuddwyd ydwyt ti Cerdd dy lais sydd o, mor beraidd, Sŵn y delyn yw i mi. 'Rwy'n dy weld ym mhob blodeuyn, Yn y rhos a'r fflwr-de-li; Mae eu swyn a'u têr brydferthwch Yn dy ddwyn ar gof i mi. 'Rwyf yn un â si yr awel, 'Rwyf yn un â sŵn y Hi 'Rwyf yn un â phob aderyn, Sydd yn canu clod i ti. Os crwydraf i ymhell neu'n agos. Delw i'm myfyr ydwyt ti. Ac o ged un peth a erchwn Iti byth fy ngharu i. CRYNANT. Casllwchwr, Morgannwg. Tom GWELAIS e'n hogyn cyhyrog A gwrid ar ei ruddiau iach,- Ef ydoedd arwr holl lanciau'r fro A dychryn y pentre bach. Denwyd ef fore Sabbath Gan henwr â'i wallt yn wyn, I ddod gyda'i ffrindiau i'r Ysgol Sul I gapel ar ael y bryn. Siaradai yr athro am Aberth A chariad Gwaredwr y byd, Fu farw dros eraill ar Galfari fryn, A'r nef yn ei fynwes o hyd. Soniai am lid y troseddwyr Roes goron o ddrain ar ei ben, A'r bicell o ddur a drywanai'i fron Yno rhwng daear a nen. Gwelwyd ei wyneb yn gwelwi, A chaeodd ei ddwrn yn dynn, A dyma'r cwestiwn ofynnodd Tom,— B'le'r oedd ei bartners pryd hyn? Mae pechod a difaterwch Yn ffynnu'n eglwysi'r dref,- Croeshoelir Gwaredwr y byd o hyd, Ond p'le mae ei bartners Ef. Abergwaun. BRIALLYDD.