Y Parch. D. R. Lewis, Morfa Nefyn, yn breuddwydio Am Brifddinas Newydd Sbon L o sôn fu am gael prifddinas L Gymru. ac enwau Caerdydd a Chaer- narfon a glywid amlaf fel y lleoedd tebycaf i ddewis rhyngddynt. Ond y mae'r naill le mor anghymwys a'r llall i rywun diduedd Ac nid oes unrhyw dref arall yn y wlad a wnair tro ychwaith. Gan hynny. a ddylem ni ddygymod â bod heb yr un ? Na. nid felly chwaith Ar bob cyfrif fe ddylem gael un. a honno'n un na welodd neb mohoni ond trwy lygad ffydd. Ym mhle y dylai fod ? Wel. yn y llecyn mwyaf hwylus i bawb a phopeth. Ac yn Sir Drefaldwyn y mae'r llecyn hwnnw. A wyddoch chwi am y gwastatir eang sydd o gwmpas bedd Ceiriog ? Dyna'r fan Cyferfydd yno dri chwm pwysig, o gyfeiriad Machynlleth, Llanidloes, a'r Drefnewydd. A cheir yno erwau lawer o wastadedd ac eto heb fod yn rhy wastad. 0 gylch y mae bryniau ysgwyddog. Ac ymddengys y bryn coediog hwnnw sydd wrth ben bedd Ceiriog fel petai ganddo ryw yni- wybyddiaeth ac atgofion er dyddiau Glyn Cymru o Ben Carn Fadryn-Parhad yr un fro eto y mae lIe o'r enw Hendre Hywel, lle'r oedd un o hynafiaid teulu Gwydyr yn byw. Gelwir y cylch hwn yn Dref y Gest. Pwy na chlywodd am Elis Owen, Cefn- ymeysydd. sydd eto vn yr un fro ? I lawr ar y gwastad acw, wrth droed Moel y Gest y mae Tre Madog a Phorth Madog. Bu Emrys y bardd yn byw ym Mhorth- madog a loan Madog, a Thegidon am ysbaid. Dyma hefyd fro Eifion Wyn. Edrychwn dros y gilfach fôr acw yng nghysgod y Gest i gyfeiriad Sir Feirionydd. Dyma ran arall o wlad sy'n enwog am ei beirdd a'i llenorion. Yn y cwr pellaf acw Dŵr. Dyna'r llecyn nad oes mo'i hafal yng Nghymru i gael prifddinas. Dewiswn y llecyn hwn, yn un peth, am ei fod y mwysf cyfleus i gyrchu iddo o bob rhan o Gymru. Y mae'n gyraeddadwy o bob rhan o Gymru. Dyma'r man mwyaf canolog i Gymru i gyd. Nid hwyrach y dywaicl rhywun nad oes alw am i brif- ddinas fod mewn Ile canolog, ac y dengys fel y mae Llundain mewn cornel o Loegr. Ond ertolwg, a oes angen inni gymryd Lloegr yn batrwm o gwbl ? Rhagor na hynny, dylai prifddinas Cymru fod yn lie i uno De a Gogledd. Gcllid o'r brifddinas hon hefyd gyrraedd Llundain mewn amser rhesymol—mewn Ilai na phedair awr, a byddai hynny'n beth dymunol a manteisiol. Wel yn awr, cyn gweled ohonom y brif- ddinas hon, rhaid ymbwyllo a chynllunio'n ofalus. Dylai'r cynlluniau gael eu tynnu allan gan wyr cyfarwydd a hynny ymhell cyn dechrau adeiladu. Dylid gofalu bod pob cynllun, pob heol a phob tŷ yn ei le ar y plan cyn dechrau a phopeth o'r gwneuthur- dros Borth Madog a'r Penrhyn, gwelwch Gwm Cynfal, bro Huw Llwyd, ac yn is i lawr, yn sefyll ar fryn uwchlaw Dyflryn Maen- twrog, dacw Ffestiniog, bro Morgan Llwyd o Wynedd, awdur Llyfr y Tri Aderyn." Ar wastad y wlad, ac odditan Ffestiniog, y mae Maentwrog, ardal yr Archddiacon Emwnt Prys, a drodd y Salmau ar fesur cân. Dilyner ymlaen i gyfeiriad Harlech, sydd â'i chastell ar y graig uchel acw, a dacw Las Ynys cartre Elis Wyn awdur y Bardd Cwsg." Dilyner ymlaen y tu hwnt i Harlech, a deuir i Lanfair-Harlech, ardal Siôn Phylip a'i frawd, dau o feirdd enwog Ardudwy. Yn y rhan hon o'r wlad y mae Sarn Badrig a Chantre'r Gwaelod. iad gorau, fel na bo dim yn boen i lygad neb wedi cwplliáu'r gwaith. Dylai fod yn y ddinas gyfres o adeil- adau gorwych yn cynnwys Senedd-dy, Ariandy Cenedlaethol, Prifysgol, Llyfrgell, Amgueddfa, Chwaraedy a phob adeilad cyffelyb sy'n angenrheidiol i ganolfan bywyd y genedl. Can miliwn o bunnau. Rhaid i'r brifddinas hefyd gael Gwasg Genedlaethol, i gynhyrchu papur Cymraeg dyddiol, a hwnnw'n annibynnol ar bapurau Lloegr. Dylai fod gan y Wasg hon gynrych- iolwyr cyfarwydd a gohebwyr craff ym mhob rhan o'r byd. a'r rheiny'n ddynion sy'n edrych ar y byd trwy lygad Cymru ac er mwyn Cymru a'r byd. Wrth gwrs, araf iawn y gellir disgwyl sylweddoli breuddwyd y brifddinas. Ond dylid cofio mai araf iawn y mae pob cynllun mawr yn dyfod i ben. Caem gryn anhawster i gael digon o bres ond hwyrach y caem ein cefn atom ymhen rhyw ddau can mlynedd. A beth am gychwyn Cronfa Dyled Genedl- aethol Ond pa fodd y gallwn,. gan nad oes gennym Lywodraeth o'n heiddo ein hunain Rhodder imi gan mlynedd a chan miliwn o bunnau, ac adeiladaf brifddinas fÿdd yn addurn i Gymru ac vn batrwm i'r byd! Llyna fy mreuddwyd Ochr Ddigrif i Deithio-Parhad llofruddiad yr Arlywydd Doumer, cefais orchymyn i fynd at un o arolygwyr heddlu Paris, iddo fy holi. Yr oedd hynny'n syndod mawr i berchennog y tŷ lle'r oeddwn yn byw. l Nid yw Monsieur Cule yr un fath â Monsieur Gorgulofl," meddai ef wrth y dyn a ddaeth â'r neges, mae'n ddyn ifanc parchus ei wala." Efallai ei fod," oedd yr ateb, "ond mae'n rhaid inni fynd ymlaen â'n hym- chwiliad i sefyllfa'r tramorwyr." Yr oedd yr awdurdodau pryd hynny yn ddrwgdybus iawn. Bu rhaid i mi esbonio i'r arolygwr paham yr oeddwn wedi ymadael â Phrydain. Ai ffoadur oeddwn ? A oedd gennyf ryw gysylltiad â gwleidyddiaeth yr Iwerddon ? Yr oedd rhaid i mi ddweud hefyd pa un ai yn Lloegr ai yng Nghymru y cefais fy ngeni. Cwestiwn pwysig arall oedd, a oeddwn yn ennill digon o arian, canys os bydd tramorwr yn byw yn Ffrainc heb ennill digon, y mae'r awdurdodau yn barod iawn i feddwl ei fod yn cael arian o Moscow, neu efallai o ryw "wasanaeth dirgel neu'i gilydd. Ar ôl awr o ymddiddan fel hyn, yr oedd yr arolygwr, mi gredaf, wedi ei argyhoeddi nad oeddwn yn sychedu am waed yr arlywydd presennol, ond rhybuddiodd fi nad oeddwn, ar unrhyw gyfrif, i ymyrryd â pholitics.