Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Mae Ochr Ddignf Deithio meddai Cyril P. Cule RHYW garreg dreigl wyf i ers blynydd- oedd. Hyd yn hyn, cefais fy nghyfran o rosyirnau bywyd a drain bywyd hefyd. Daeth llawer o bethau digrif i'm rhan wrth deithio. Pethau trist eu gwala oedd rhai ohonynt ar y pryd. ond chwerthin y byddaf wrth gofio amdanynt. Ni welais un wlad fwy rhyfedd na'r gwled- ydd Arabaidd, a'u barnu yn ôl yr un a adwaenaf orau, sef Syria. A wyddoch fod eisiau tri dyn yn y wlad honno i ddefnyddio rhaw ? Bydd un ohonynt yn cydio yn y rhaw â'i ddwylo, a'r lleill yn tynnu dwy raff a glymir wrthi. Dau Arab yn ffraeo. Ond na feddyliwch oherwydd hynny mai gweithwyr gwael yw'r Arabiaid. Y mae hynny'n dibynnu ar y ffordd y'u cyflogir Os cynigir cyflog sefydlog iddynt bob dydd, ni wnânt ddim ond segura, ond os rhoddir gwaith iddynt a chynnig swm arbennig pan derfynont y gwaith, bydd y gwaith ar ben yn fuan iawn megis trwy wyrth. Hoff gennyf glywed dau Arab yn ffraeo. Bydd y naill yn gwneud rhyw sylwadau anweddus am fam y llall, yna yn ychwanegu, a'th dad hefyd, — a'th nain a'th ferch a'th chwaer a'th frawd a'th ddarparwraig Yna daw rhyw ddymuniad echrydus ynglŷn â'i dynged yn nydd y farn. Dyna regfa gynhwysfawr iawn. Nid iaith fain mo'r Arabeg o bell ffordd. Y mae taranau ym mhob sillaf ohoni. Un diwrnod, pan oeddwn yn teithio mewn tacsi yn Beirŵt, aeth ein chauffeur ni i dymer ddrwg â gyrrwr cerbyd arall oedd ar y ffordd a dyna a ddywedodd, Melltith ar y sawl a weddïo drosot." Os bydd un Arab yn gwahodd un arall i'w dŷ, rhywbeth fel hyn y bydd yr ymddiddan Dydd da i chwi. Sut yr ydych Hyderaf y rhyngodd fodd i Dduw i chwi fod yn iach." Diolch i Dduw, yr wyf yn iach." A wnewch chwi ein anrhydeddu trwy ymweled â'n cartref? Yn wir. i mi y mae'r anrhydedd." Byddwch fel un o'n teulu." Bydded i'ch cyfoeth amlhau." Moduro ym Mhalestina. Pan oedd sefyllfa gennyf yn Syria. cefais gyfle i fynd am wythnos o wyliau i Balesteina yng nghwmni cyfaill o Americanwr. Ond rhaid i mi egluro sut y byddis yn teithio yn y gwledydd hynny. Y peth cyntaf i'w wneud yw galw mewn modurdy a gofyn am gar modur a dyn i'w yrru. Gellwch gael un ar unwaith ond talu digon amdano, ond os mynnwch aros am awr neu ddwy, fe ddaw rhagor o deithwyr sy'n mynd yr un ffordd, ac fe ellwch rannu'r draul. Ond bydd y Liw Nos yn Berlin. cha-uffeur yn sicr o wneud ei orau glas i godi dwywaith cymaint â'r pris rhesymol, ac y mae'n rhaid bod yn barod am ddadl ffyrnig. Os nad yw eich ysgyfaint yn lled gryf. mae'n llai o drafferth i gerdded. Profiadau bythgofiadwy a gefais ym ðIhalesteina­distawrwydd llethol yr an- ialwch, trochfa yn y Môr Marw, lIe mae'r dŵr mor hallt fel na ellir suddo ynddo,-cywrein- rwydd mawreddog Mosg Omar ar y llecyn lle bu Teml Solomon gynt,-budreddi anhygoel strydoedd Jerusalem aflafar ac amlieithog. Croesi'r ffin. Ond y peth mwyaf digrif oedd y daith yn ôl o Haiffa i Beirŵt. Ar ganol y ffordd rhwng y ddwy ddinas hon fe groesir y ffin sy'n gwahanu Palesteina, sydd tan oruchwyl- iaeth Prydain. oddi wrth Syria, sydd tan oruchwyliaeth Ffrainc. Ni fynnodd y swyddogion Ffrengig fy ngadael i fynd heibio am fod y visa Ffrengig ar fy nhrwydded deithio heb ei adnewyddu. Bu rhaid imi ffarwelio â'm cyfaill a llogi chauffeur i'm gyrru'n ôl i Haiffa-taith dwy awr. Yr oedd fy nghyfaill a minnau wedi gwario bron y cwbl o'r arian oedd gennym, ac nid oedd modd inni gael rhagor cyn cyrraedd Beirŵt. Bu rhaid i mi wario mwy eto wrth gael pryd o fwyd a bwrw noswaith yn Haiffa. Bore trannoeth, euthum at y Conswl Ffrengig i gael y visa. Cymerodd ef fy nhrwydded deithio a'i stampio yn hamddenol a gofyn yn dawel fach am 45 piaster. Rhyw ddeuddeg piaster oedd y cwbl oedd gennyf erbyn hyn. Dywedais wrtho yn ddar- ostyngedig iawn fy mod wedi deall mai 10 ffranc oedd y gost-sef 7i piaster. Ie, deg ffranc," meddai'r Conswl, ond deg ffranc aur, sef 45 piaster." Edrychodd yn ffyrnig ac yn fygythiol iawn am bum munud, yna gwelodd nad oedd dim iddo'i wneud yn awr ond rhoi'r visa i mi yn rhad, a dyna a wnaeth, gan ychwanegu nodyn i egluro na wnelai hwn y tro ond am un daith. Yna, aethum i chwiho am chauffeur. Bu rhaid i mi gadw mwstwr ofnadwy am hanner awr er mwyn cael telerau rhesymol ganddo. Ond yr oedd yn berffaith fodlon i aros hyd ddiwedd y daith cyn cael ei dalu. Y llong Eidalaidd. Dychwelais o Syria mewn llong Eidalaidd. Yr oedd y llong yn aros ym mhorthladd Beirŵt, a bu rhaid i mi logi dau fadwr i fynd â mi ati mewn bad bach. Yr oedd y ddau yn fud. Pan esboniodd rhywun wrthynt fy mod am fynd i'r llong honno, codasant eu bysedd uwch eu gwefusau i ddynwared bwyta marcaroni. Dyna'u ffordd o ddangos eu bod wedi deall. Deëllais innau hefyd wedyn, canys macaroni, spaghetti, vermicelli neu rywbeth o'r fath a gefais ddwywaith bob dydd hyd ddiwedd y daith honno. Helynt y smyglo. Un tro, pan oeddwn yn teithio ar draws Belgium tua Pharis, euthum i siarad â geneth lygatddu ddeniadol oedd yn yr un cerbyd. Deëllais mai Iddewes o Balesteina ydoedd, ac fel y rhan fwyaf o'i chydgenedl, deallai'r ffordd i wneud busnes. Gofynnodd i mi a oeddwn wedi prynu sigarets yn Belgium. Atebais nad oeddwn. Dyna drueni," meddai hi, maent yn rhatach o lawer yma nag yn Ffrainc. Ond os nad oes sigarets gennych, a fyddwch mor garedig â chymryd peth o'm rhai i ? Yr oedd ganddi fwy nag a ganiateid gan awdurdodau'r tolldai Ffrengig, ond rhyngom ein dau, gallasom eu cymryd i gyd. Felly, ar ôl croesi'r ffin a therfynu seremonîau'r tolldy, rhoddais ei sigarets yn ôl iddi. Er syndod i mi, cymerodd hwy yn ddistaw bach, gan eu cuddio yn ei chwdyn, a gwrth- ododd ddweud gair wrthyf am chwarter awr. Yna cododd dyn oedd yn eistedd gyferbyn â ni a mynd allan. Dyna fe," meddai'r Iddewes, yn awr gallwn anadlu yn rhydd. Detectif oedd y y dyn hwnnw, yn gwrando arnom gan ddis- gwyl clywed storîau am smyglo." Nid oeddwn wedi tybio bod llaw drom y gyfraith mor agos atom. Ymddengys bod fy nheithiau yn yr Almaen wedi codi amheuon ym meddwl yr awdur- dodau Ffrengig, canys ychydig fisoedd ar ôl (I dudalen 118.)