Porthmyn yn Cadi Banciau Hanes dechrau Banc y Ddafad Ddu, Banc y Llong, Banc yr Eidion Du, Banc y Ceiliog, Banc yr Ysgub. Sefydlwyd hwynt oll gan fasnachtvyr neu borthmyn neu dirfeddianwyr, a chyswllt agos rhyngddynt a'r tir Gan Richard Davies (Risiart o'r Borth) CEIR disgrifiad diddorol gan Harper o Syr Watcyn Wyn yn anfon ei renti i Lundain o Riwabon yn y ddeunawfed ganrif. Treulid dyddiau lawer i gyweirio'r cerbyd — fourgon y gelwid ef-rhag ofn iddo dorri i lawr ar y daith flin bum niwrnod. Wedyn eid yn fanwl dros yr haearn-rhag-bwledi a leiniai'r cerbyd, a dewisid y pedwar ceidwad mwyaf cyhyrog ar y stad. Wedi gorffen llwytho, eisteddai dau o'r ceidwaid ar y bocs, â dryll dwyfarilog i bob un, ac eisteddai'r ddau arall o'r tu 61 gydag arfau tebyg, o dan arolygiaeth Syr Watcyn a'i hafodwr. Dilynid hwynt gan ddau o'i gwn. Wedi diwrnod o deithio, fe arosid am y noson mewn gwesty, a threfnid i ddau o'r ceidwaid fod ar wyliadwriaeth yng nghwm- peini'r cŵn. Nid rhyfedd nad oes hanes am un lleidr pen-ffordd yn ddigon eofn i ymosod ar renti Syr Watcyn. Y bancwyr cyntaf. Beth yw banc ? Anodd ei ddeffìnio. Nid yr un ystyr a roddir i'r term yn yr Alban na'r Amerig ag yma. Cawn hanes am ddwyn busnes ymlaen mewn biliau gan fynachod Cymru yn adeg y Normaniaid. Yn adeg Cicero yr oedd dos- barth o ddynion a elwid yn argentari ar y cyntaf, cyfnewidwyr arian yn unig oeddynt, ond datblygasant mewn amser yn rhywbeth tebyg i fancwyr heddiw. Yn y 14 ganrif daeth marsiandwyr o Lombardi yn yr Eidal drosodd i Lundain yn fwyaf arbennig fel cyfnewidwyr arian. Eisteddent wrth feinciau ar gornel y stryd- oedd, tebyg i Lombard Street. Gyda llaw, gair Eidalaidd am fainc yw banco. Y mae'n debyg mai'r banc cyntaf o fath y banciau heddiw oedd Banc Amsterdam, a sefydlwyd oddeutu 1609. Bu Amsterdam am amser maith yn ganolbwynt byd yr arian. Priodolir hynny, gan mwyaf, i ddylanwad Eglwys Rufain yn caniatáu bwyta dim ond pysgod ar ddyddiau Gwener, a' bod y Môr Baltig yn enwog am ei ysgadan-y mwyaf defnyddiol a maethlon o holl bysgod y môr. Ond rhyw ddiwrnod, heb roi rhybudd, fe ddaeth y pennog i'r penderfyniad fod môr y Papur Dwybunt "Buc y Ddafad Ddn," gogledd, o gylch traethau Prydain, yn ddiogelach, a mudasant atom ni, fel erbyn heddiw, Llundain yw canolfan arian y byd. Dilyn y ffyrdd a wna masnach a thlawd iawn oedd Ffyrdd Cymru hyd yn ddiweddar iawn-prin oedd y pontydd dros yr afonydd ac amlach na dim, rhaid oedd eu croesi drwy rydiau. Ceir hanes am sirydd Penfro, yn y 17 ganrif, yn boddi wrth gludo arian y trethi i Lundain, a chollwyd nid yn unig arian y sir, ond rhan fawr o arian y swyddog ei hun. Bu cyflwr Cymru am ganrifoedd yn anfanteisiol i grynhoi cyfalaf wedi'r rhyfel- oedd am ein hannibyniaeth. Caewyd allan bob Cymro o fywyd dinesig, yn ogystal ag o'r crefftau medr, hyd ddyfodiad y Tudur- iaid. Hyd yn oed wedi hynny, tuedd pob Cymro ag arian ganddo oedd eu buddsoddi yn Lloegr, fel y gwnaeth Syr Hugh Myddleton yn antur y New River, Llundain. Mjloedd o dda. Hyd y Chwyldro Diwydiant, yr unig fath ar gyfoeth symudol yng Nghymru oedd gwartheg. Gyrrid miloedd o'r da o Gymru i Lundain a'r trefi mawrion a thrwy hyn fe ddaeth porthmyn yn bwysig. Oherwydd y ffyrdd anhygyrch a'r lladron pen-ffordd, peryglus oedd i undyn gludo dim gwerthfawr gydag ef. Yn raddol man- teisiwyd ar y porthmyn gan fasnachwyr a thirfeddianwyr fel cyfryngau i ddanfon arian i'r trefi mawr yn Lloegr, yn y modd a ganlyn. Bwriwn fod ar Mr. A. 1:200 i Mr. B. yn Llundain. Rhyw noson yn Nhachwedd, â i dy Mr. C., y porthmon, i wybod pa bryd yr amcana fynd â'i wartheg i Luadain. Ar y noson apwyntiedig fe â Mr. A. i dý Mr. C. eto, a thalu'r £ 200 iddo ef, gan dderbyn taleb am yr arian-a dyma eni'r syniad a roes inni nodyn y Bank of England a'r cheque. Bore drannoeth, cychwyn Mr. C. gyda'i dda byw i Lundain, ac ymhen rhai wythnosau cyrhaedda yno. Wedi gorffwyso'r anifeil- iaid a'u gwerthu, gwelwn Mr. C. yn cyrraedd tý Mr. B., a thalu'r 1:200 iddo, gan dderbyn taleb i'w chyflwyno i Mr. A., ac felly ddi- ddymu'r hon a roddodd ef cyn cychwyn o Gymru. Arbed perygL Trwy hyn fe arbeda Mr. A. y perygl o gludo'r arian ei hun i Lundain, a chan fod y porthmon wedi gadael yr arian a dder- byniodd gan Mr. A. gartref, yr oedd £ 200 yn llai o berygl ganddo yntau ar ei ffordd yn ôl. Ychydig iawn o arian a gludid gan y porthmyn unrhyw amser gan fod yr arfer- iad uchod yn gyffredin iawn. Onid oedd berygl i'r porthmon fod yn ddyn anonest ? Yr oedd pob porthmon yn aelod o ddosbarth â breiniau arbennig iddo. Rhaid oedd iddo gael trwydded yn flynyddol 0 lys sirol y sir y bu fyw ynddi am y tair blynedd cynt. Hefyd, rhaid oedd iddo fod yn ŵr priod heb fod dan 30 oed ac yn berchen tý. Nid oedd hawl ganddo i droi yn fethdalwr. Yn 1797, oherwydd gofyniadau trymion ar y Bank of England, a achoswyd gan y rhyfel â Ffrainc, rhaid oedd rhoi heibio hyd yn 1821 daliadau mewn arian gan y banc, gyda'r canlyniad i ormod o nodau banc yrru aur ac arian bron o arferiad. [Drosodd