Yn Eisiau CYFEILLION i Helpur Di-waith, iw Dysgu ac iw Cysuro ER pan ddeuthum yn ôl i Gymru yr wyf yn llawenhau yn fawr wrth weld ardaloedd y wlad yn ferw drwyddynt gyda phob math o arbrofion a chynlluniau tuag at feithrin dinasyddiaeth dda. Mi gefais yr ysbryd newydd hwn ar waith ymysg pob dosbarth o bobl ac ym mhob rhan o'r wlad-yn y lleoedd mwyaf an- nhebyg yn fynych. Ond hyd yn hyn nid ydym ond megis ar drothwy ein taith Y mae eisiau inni oll gyd-uno, bob un yn ôl ei allu a'i gyfle, i symud ymlaen yn genedlaethol, mewn dull newydd a chalonogol. Torri'r gwahanfuriau. Y mae arnom eisiau gwirfoddolwyr i gynorthwyo'r di-waith, i ffurfio a dwyn ymlaen glybiau a chanol-fannau, lle gall y di-waith fwynhau eu cyfeillach ei gilydd ac ymuno i ddatblygu'r pethau a'u diddora er enghraifft, gweithio ar grefftau llaw, canu, actio dramâu, trin gerddi a darnau o dir, astudio problemau, chwarae, ymarfer corff a darllen papurau newydd a llyfrau. Drwy gyfeillgarwch yn y modd hwn o'r di-waith â'i gilydd ac â phobl eraill, o bob gradd mewn cymdeithas fo'n cydweithio â hwy, fe ddeuwn o hyd i rywbeth a dyr i lawr y gwahanfuriau cymdeithas a chrefydd a gwleidyddiaeth disynnwyr sy'n cadw pobl dda oddi wrth ei gilydd-y cyfoethog oddi wrth y tlawd, aelodau un eglwys oddi wrth aelodau eglwys arall, y dysgedig oddi wrth y di-ddysg, ac aelodau un blaid wleidyddol oddi wrth aelodau o blaid wleidyddol arall. Angen pennaf heddiw. Dyma angen pennaf y bywyd Cymreig heddiw- — gosod ewyllys da rhwng dynion a'i gilydd yn lle hunanoldeb. Yn lle byw ar hyd ein hoes mewn rhyw agwedd ymosodol, hunan amddiffynnol tuag at ein gilydd, byw ein bywyd mewn cydymddiried a brawd- garwch diofn, heb wneuthur cyfrif yn y byd o'n holl wahaniaethau a'n rhaniadau gwneud. Mewn ymdrech genedlaethol, unol, felly i ymlid y drygau a achosir gan anghyflogaeth, gallwn ddyfod o hyd i ysbryd newydd, a'n cynorthwya i buro a chyfoethogi safonau ein bywyd cenedlaethol, hyd yn oed yn y dyddiau adfydus a phrofedigaethus hyn, megis y purir yr aur trwy dân. Ni allaf i feddwl am unrhyw waith mwy angenrheidiol na hwn, mewn rhandir fel de Cymru, lIe y mae mynyddoedd o allu dynol yn diffeithio o angen ei roi ar waith, lIe y mae natur dda a hwyl dda mewn cyflawnder eithr yn cael eu marweiddio gan genfigen, gan gasineb trefnedig a chynnen dosbarth. Ni allaf ddychmygu gwaith mwy dynol, gwaith sy'n debycach o ddwyn cynhaeaf toreithiog i'r genedl drwyddi draw. Rhaid i anawsterau newydd wrth feddyg- iniaeth newydd. Ac yr ym ninnau, fel dynion a merched o ewyllys da, pa un bynnag Gan Syr Percy WATKINS Ysgrijennydd Cyngor Cenedlaethol Gwasanaeth Cymdeithasol. ai mewn gwaith ai allan o waith y bôm, yn rhwym o astudio'r anawsterau newydd hyn â meddyliau a chalonnau wedi eu had- newyddu. Y mae gan rai ohonom arian efallai gan eraill brofiad neu ddylanwad neu wybodaeth neu fedr neu hamdden. (Medd y di-waith eu hunain ar ddigon o'r peth olaf.) Ond y mae'r sefyllfa yn hawlio ar i bawb ohonom roddi, yn hael ac o wirfodd calon, o ba un bynnag o'r rhain y digwydd bod mwyaf ohono yn ein meddiant. Y mae rhai pobl yn gyfarwydd â gwleid- yddiaeth. Eraill drachefn yn hyddysg mewn economeg. Eraill yn fedrus mewn diwyd- iant ac mewn undebaeth lafur. Wrth y rhai hyn dywedaf, gwnewch y gorau a alloch i symud achosion anghyflogaeth o'r ffordd. Dyna'ch gorchwyl chwi." Hyn a allwn bawb. Eto y mae miloedd lawer ohonom sydd yn ddim ond dinasyddion cyffredin. Yr ym serch hynny yn fodau dynol, ac yn medru canfod â'n llygad noeth ein hunain fod y safle heddiw wedi ychwanegu ar eu canfed at anghenion ysbrydol miloedd o'n cyd- wladwyr. Oni allwn fod, bawb ohonom, yn gyfar- wyddiaid mewn ewjllys da a chymdogaeth dda ? Y mae i ninnau waith pwysig i'w gyflawni yn y cyfwng cenedlaethol hwn. Mentraf mai'r wedd ddynol ar effaith anghyflogaeth yw'r mwyaf poenus o'r cwbl. Y segurdod gorfod. Ni gawn yma rywbeth dyfnach na thlodi. Y mae yma, wrth reswm, ddirywiad corff. Y mae yma hefyd lygriad moes. Rhy dda, ysywaeth, y gwyddai Cymru gynt am dlodi, eithr ceir yma segurdod yn ogystal â thlodi-a hwnnw yn segurdod gorfod. A chyfuniad o'r ddeubeth hyn, wedi eu taenu dros gyfnod brawychus o faith, a thros nifer brawychus o'r bobl, sy'n peri'r boen ddwysaf oll. Y mae yma rywbeth newydd hefyd nas cafwyd o'r blaen yn ein holl hanes, sy'n peri i filoedd o ddinasyddion da deimlo nad oes mo'u heisiau hyd yn oed yn eu trefi a'u pentrefi hwy eu hunain. Rhywbeth sy'n peri i wÿr defnyddiol deimlo nad oes le iddynt yn nhrefn pethau i ddynion abl a hoyw gredu eu bod ar y ffordd," yn faich ar eu cyfeillion a'u teuluoedd a'u cymdogion a'u gwlad. Bu ein cenedl crs bljnjddoedd jii paratoi cvnlluniau o wasanaeth cymdeithasol a oedd vn ddeallus ac yn anrhydeddus — mewn addysg, dyngarwch a chrefydd. Beth am y rheini ? Er eu rhagored ar gyfair chwarter canrif yn 61, y maent yn gwbl annigonol ar gyfair anghenion newj-dd heddiw. Y mae ar gyfartaledd, }i holl boblogaeth Cymru, un o bob pedwar person naill ai heb waith ei hun neu yn dibynnu ar rywun svdd heb waith. Yn rhai o'n hardaloedd glofaol y mae'r cyfartaledd mor uchel ag un o bob tri: yn wir, y mae pob-yn-ail berson yn yr ardaloedd mwyaf anffodus un ai heb waith neu yn dibynnu ar un heb waith. A gwaeth na hynny, fel hyn y bu mewn llawer man ers blynyddoedd bellach ac fel hyn y pery am rai blynyddoedd eto. Y mae'r rhai sydd wedi byw yn y parthau hyn ar hyd yr amser wedi canfod yr am- gylchiadau hyn yn ymlusgo i mewn yn araf a llechwraidd o wythnos i wythnos, o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn, ond trwy ryfedd weithrediad ein natur ddynol, y maent o dipyn i beth wedi gallu addasu eu meddwl at y cyfnewidiadau a ddaeth i'w rhan. Gostwng y safon fyw. Caled ofnadwy, er hynny, fu arnynt. Gwelsant eu cartrefi yn mynd yn dlotach eu gwedd a'u cynnwys. Ni allant mwyach fforddio dodrefn newydd i'w tai na dillad newydd ar eu gwelâu ac am eu eyrff-wedi gwisgo o'r hen rai. Gorfodwyd hwynt i wneud heb lawer o'r pleserau a'r adloniant oedd yn gynefin iddynt mewn dyddiau gwell. Bu gostyngiad mawr ar eu safon fyw. Un o'n peryglon pennaf yng Nghymru heddiw yw i ni i gyd ymgynefino â stad bresennol pethau nes methu amgyffred yn iawn mor arswydus yw inni ymgaledu gymaint nes methu sylweddoli fel y bygythir yr elfennau hymij* yn ein bywyd jt ŷm bawb yn eu mawrygu a'u gwerthfawrogi Y peth sydd gennym ni, bobl gyffredin o ewyllys da, i'w wneuthur yw ymuno â'n gilydd mewn ymgais i ddwyn i fywydau'r torfeydd segur a digalon hyn rywbeth i wrthweithio'r ffeithiau chwerwon hyn, rhyw- beth fydd yn gymorth i edfryd eu hunan- barch. Oblegid os collir hunan-barch, fe gollir gydag ef bopeth sy'n werth ei feddu. Argyhoeddwn hwynt fod pobl yn y byd sy'n barod i'w cynorthwyo yn y ffyrdd hyn, heb eu cyfrif eu hunain yn noddwyr na rhai yn ymostwng, a heb amcanion gwleidyddol mewn golwg. Gyda chynorthwy o'r math hwn, mi gredaf i, gellir calonogi miloedd o'n cyfeillion heb waith—er gwaethaf eu cyni, ie bron na ddywedwn o'i herwydd-i wneuthur ymdrech ddewr i droi gorchfygiad posibl yn fuddugol- iaeth ogoneddus.