We/e Nod i'r Brifysgol BETH a wnaeth y Brifyagol i Gymru ? Galluogodd lawer Cymro i ennill safle na chawsai byth mohoni oni bai am brifysgol genedlaethol a'r colegau sy'n rhan ohoni. I fyny ac i lawr Cymru, ac yn wir yn Lloegr, ceir llu o Gymry ieuainc yn gwneuthur gwaith defnyddiol yn yr eglwysi, yn y galwed- igaethau, ym myd arian, masnach a di- wydiant, nas cyraeddasent byth oni bai am y manteision a gawsant ym Mhrifysgol Cymru. Efallai nad oes gofgolofn iddynt, ond nid aeth y rhan a gymerasant ym mywyd y genedl yn angof. Gadewch inni edrych ymlaen, a cheisio gweld be ddylai ein huchelgais fod. Cafodd delfrydau prifysgol ystyriaeth rhai o'n hysgol- heigion pennaf. Pa beth a ddylai ei wneuthur i'r genedl, a pheth a ddylai ei wneuthur i'r bywyd ehangach y tu allan i fywyd cenedl ? Y gwasanaeth cyntaf. Prif nod prifysgol yw hyrwyddo gwybod- aeth a diwylliant, oherwydd nid chwilio am hunan-les ym mhobman, o bell ffordd, yw dull dynion rhydd, â chanddynt syniad o'u mawredd eu hunain. Cadw iaith y genedl, llên y genedl a hanes y genedl yw'r gwasanaeth cyntaf y dylai prifysgol genedlaethol ei roddi i'r wlad a gynrychiola. I gyfiawnhau ei bod, rhaid i'w haddysg hyrwyddo efrydiaeth o'r iaith Gymraeg, 0 lên Cymru ac o hanes Cymru. Rhaid wrth safon. Uwchlaw popeth, y mae'n rhaid iddi wrth safon. Nid digon bodloni, rhaid iddi ym- drechu i ragori. Dylai ymddiddori nid yn unig mewn addysg Gymreig oddi mewn i'w muriau eithr hefyd mewn addysg Gymreig o'r tu faes. Efallai i'n hysgolion canolradd ddal eu golygon yn rhy gaeth ar y brifysgol fel nod eithaf yr efrydydd, er nad â'r mwyafrif mawr o Gymry i'r brifysgol o gwbl. Un o bennaf tasgau'r brifysgol yn yr oes nesaf fydd ceisio rhoi cymhennach syniad o addysg ganolradd, a'i gymhwyso yn agosach at anghenion dyfodol holl efrydwyr Cymru, ac nid y rhai fo â'u bryd ar y brifysgol yn unig. Pethau'r ysbryd sy'n cyfrif. Oddi allan i Gymru hefyd y mae i'r brifysgol ei chenhadaeth. Ni ddylai feddwl yn unig am yr hyn a all ei gael gan genhedl- oedd eraíll-dylai hefyd ystyriaid pa beth a all ei roddi iddynt hwythau. Pethau'r ysbryd sy'n cyfrif, ac ym mhethau'r ysbryd y gellir dangos orau fywyd, traddodiad ac esiampl y brifysgol. Yr Ym yn 61 pob tebyg ar riniog cyfnewid mawr ym mywyd pobl ein gwlad. Fe arwain y mudiad am fyrrach oriau gwaith i oriau hwy o hamdden, a da y gall ein G(in Arglwydd Ganghellor Oankey prifysgolion roi eu sylw i'r moddion gorau i lanw'r oriau hamdden hyn. Gweithwyr Da yw Asgwrn Cefn meddai H. Haydn Jones, A.S. TUEDD ddiweddar ymysg disgyblion ein hysgolion yw'r duedd honno i geisio swydd â gwisg ddu iddi, yn hytrach na rhyw waith arall. Mor aml y cefais i fechgyn yn gofyn imi eu rhoi mewn galwedigaeth well na'r eiddo eu tad, a'r hyn a olygant wrth hynny yw, gwaith clerigol yn lle gwaith llaw. Nid yw gwaith clerc ond heol hosan." Nid arwain i le yn y byd. Posibiliadau Crefft. Eithr y mae gorchwylion eraill, megis eiddo'r amaethwr, y saer coed a'r saer maen, y gof, y naddwr cerrig yn rhoi cyfle gwych i roi egni ar waith ac wedi'r cwbl, y mae gwaith onest, pa un bynnag a'i gyda'r llaw a'i gyda'r ymennydd y bo, yn anrhydeddus. Meddylier am y posibiliadau sydd yng nghyrraedd bachgen a ddysgodd grefft Nid oes dir mwy ffrwythlon nag sydd gennym ni yng Nghymru i blannu ynddo had gwaith da oriau hamdden. Ni cheir yn unman gynifer o ornestau drama, llên a chân ag sydd i'w cael yn ymron bob un o'n pentrefi, ornestau sy'n cyrraedd eu hanterth mewn un ŵyl fawr flynyddol. Pa gynnydd bynnag a wneir mewn celf- yddyd neu lên neu wyddor, fy ngobaith angerddol i yw na fydd i Gymru byth golli'r hyn a ymddengys i mi yn feddiant mwyaf gwerthfawr ganddi-ei serch at grefydd, hynny yw, cariad at Dduw ac at addoli Duw. Mewn prifysgol y mae 11e i bob efrydiaeth- celfyddyd, llên, gwyddor a diwinyddiaeth. Ymddengys i ni yn amhosibl cysoni dargan- fyddiadau'r naill a'r eiddo'r llall, ddim mwy nag y gellir egluro'r berthynas rhwng amser a lle. Chwilio am y gwir Ymchwilwyr am wirionedd ydym oll. Po fwyaf fydd ein cynydd mewn efrydiaeth arbennig, nesnes yr awn at y gwirionedd. Fel y nesáwn at y diwedd, gwelwn nad oedd yr hyn a ymddangosai inni cynt yn beth gwahanol, yn ddim ond gweledigaeth o du arall ar wirionedd. 0 ddilyn dysg yn ddyfal, fe gyrhaeddwn y tir hwnnw o lawnder diball lle ni welwn drwy ddrych, mewn dameg, ond cael ym- borthi am byth ym mhorfeydd y gwirionedd. y Wlad saer maen neu goed. Y mae'n annibynnol gall ddyfod yn adeiladwr neu yn gymerwr llwyddiannus os mynn. Gymaint mwy di- ddorol a phroffidiol yw gwaith felly na bywyd undonog clerc, gyda'i dâl gwael. Yr athrawon a'r ieuenctid. Y mae mwy o le i'r gweithiwr llaw nag i'r clerc, ac os yw ein diwydiannau i gadw'u tir rhaid i'r ieuenctid wneuthur eu rhan i'w cefnogi. Peidier yr athrawon hwythau ag anghofio'r testunau a ddisgybla'r llaw a'r llygad. Dyma un o gangau pwysicaf addysg, yn datblygu rhinoedd meddwl a chymeriad. Gall disgyblion fethu ymhoywi ac ymddori yn y testunau arferol ac eto fod yn bencamp- wyr ar waith llaw. Dylai fod i waith coed, rhwymo llyfrau, cymhathu clai, coginaeth, gwaith edau a nodwydd, eu lle yn amserlen yr ysgol. Gweithwyr da yw asgwrn cefn y wlad.