A Hysbyddwyd y Gloddfa Gerdd? MYN ambell waethafwr o gerddor y darfu eisoes i dduwies cerdd draddodi baich ei chenadwri i ddyn, ac nad oes ganddi mwyach neges. I'r neb a gynnig gyfansoddi yn uchelgeisiol mwyach, meddent, amddifad o wir ysbrydoliaeth ac athrylith ddiledrith, mwy neu lai, fydd ei gynnyrch. I'r gwrthwyneb, dengys ein cyhoeddiadau cerddorol presennol y ceir yn ein plith hefyd rai gwyr gobeithiol. Nid y ceinciau dwsmelaidd, merfaidd, y math ar oglais teimladau dawnsyddion a thorfeydd ein chwaraedai (a gamenwir, ysywaeth, yn gerddoriaeth), eithr yn hytrach y beroriaeth hanfodol bur honno fedr greu angerdd ffurf i'r teimladau uchaf mewn dyn, a chyfuniad o gelfyddyd a darfelydd yr awduron — cerddoriaeth safonol felly a olygir. Datblygiad yr 16 ganrif. Hawdd cytuno â honiad y dosbarth cyntaf ond inni roi ad-drem i faes cerdd- orol y gorffennol, ymddengys llawer o'u plaid. Bu hun maith yr oesoedd canol, ynghyd ag unffurfiaeth anhyblyg y cyfnod trwy Brydain a'r Cyfandir yn dra llesteiriol i ddatblygiad celfyddus cerddoriaeth, hyd oni wawriodd y Diwygiad Protestannaidd, pryd y miniwyd dychymyg a chrebwyll gwyr o allu. Hynod fu datblygiad celfyddyd a gwyddor sain yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Blaendarddodd ffurfiau newyddion tra godidog. Chwyldrowyd yr hen gyfundrefnau. Perffeithiwyd yr offeren gan Palestrina. Aed rhagddi o ddifrif ar lwybrau newyddion gan gerddorion o'r crudl­Byrd Gibbons, Monteverde, a'u hol- ynwyr-Carisimi, Scarlatti, Purcell, ac eraill. Cyfnod y cewri. Ymddangosodd y Fadrigal. Canlynwyd â'r Gantawd, y Draethgan, yr Opera, a ffurfiau eraill llai eu cylch yn eu tro, a berffeithiwyd o ris i ris-drwy gyfrwng gwell graddfa a chynghanedd, hyd oni chyrhaedd- wyd yr uchafbwynt, y cyfnod clasurol. Dyma gyfnod y cewri Bach, Handel, Haydn, Mozart, Beethoven, awenyddion cyfoes bron i gyd. Yna, ysywaeth, trai. Rhoes y meistri uchod y fath greadigaethau cerddorol aruchel, celfyddgar i'n byd na bu eu bath gynt na chwedyn. Y mae trwodd i ganrif er pan ganodd yr olaf ohonynt, eto deil cerddoriaeth eu cyfnod mewn mawrfri heddiw, a thebyg am ganrifoedd i ddod. Dilyn hen Iwybrau. Cynhyrchodd eu holynwyr, gwŷr o gryn allu, cyfansoddwyr y cyfnod rhamantaidd, neu fore'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, lawer o gyfanweithiau amrywiol hyfryd a gwir deilwng, ond cydnabyddir mai dilyn hen lwybrau a wnaethant gan mwyaf, am na fynegasant grebwyll ac ysbrydolrwydd ein rhagflaenwyr, ag eithrio, efallai, Mendelssohn, Schubert, Berlioz a Wagner. Darganfu'r Gan IOAN MORGAN (Buallt) rhain ychydig ffurfiau newydd, cyrhaeddgar, ag iddynt argraff barhaol. Er y dylifiad enfawr o gerddoriaeth amryfal, hyfryd, a gafwyd trwy'r argraff- wasg o'r cyfnod hwnnw hyd yr awrhon, ac a gynnwys lawer o'r hyn sydd ddyrchaf- edig, ymarferol a thra phoblogaidd gan garwyr cerdd heddiw, eto syn yw, yn y cyfam- ser, na ellir olrhain ynddo ond ychydig neu ddim datblygiad dyfais. Credaf taw'r farn gyffredin yw y bodlona mwyafrif cyfan- soddwyr diweddar ar efelychu'r ffurfiau a drosglwyddwyd iddynt gan yr hen feistri. Yr alawon gwerin. Yr hen alawon gwerin hefyd â'u tlysni melodaidd, byth-newydd a dihafal, deuant aml dro fel chwaon tyner o'r gorffennol pell megis i symbylu ein hysbryd mewn oes faterol a phrysur. Nid oes dim atodi, na nemor ymgais gan gyfansoddwyr diweddar at ddatblygiad gwir effeithiol ohonynt hwythau Eto, y Motet a'r Fadrigal, fu mewn bri un cyfnod, cymharol ychydig a ymarferir arnynt heddiw. Yma yng Nghymru y penillion telyn a'r garol oedd gorhoffedd ein teidiau ers llawer dydd, mewn bwthyn a phlas. Mawr afiaith y calannau a'r Nadolig, 'does ond y dim rhyngddynt a diflannu o flaen diwyll- iant tramor a masw ein cyfnod yn awr. Tua chanol y ganrif ddiwethaf, cynysg- aeddwyd Cymru â tho o gerddorion, dilynwyr J. Ambrose Lloyd, Owain Alaw, ac eraill a adawodd inni lawer o gerddoriaeth aruchel. Y ganrif hon. Er cerdded o'r ganrif hon ymhell eisoes gyda'i holl gyfleusterau addysg, ac er bod inni gyfansoddwyr medrus â chanddynt wybodaeth drech na'u rhagflaenwyr, eto, prin yw cynhyrchion ein cyfnod a ddeil yjwerin. Gan y newidia chwaeth ymron pob oes, dichon mai etifeddiaeth y dyfodol fydd. Gellir cymhwyso hyn i wledydd eraill. A hysbyddwyd y gloddfa gerddorol ? Bu i adrannau eraill celfyddyd a gwyddor ddatblygiad pwysig er trai a llanw mewn amseroedd fu. P. Yr oedd Eos Llechid nid yn unig yn gyfan- soddwr athrylithgar, ond hefyd yn fesur- onydd medrus. Dyma ychydig frawddegau o'i eiddo Amlwg fod eto ddigon o ddefnyddiau at wasanaeth y cerddor. Yn unol â rhif-a-mesur, gellir, o wyth o nodau, sef y raddfa naturiol, gydag un nodyn o wahaniaeth, 16, 777, 216, o frawddegau cerddorol. Angen y dyfodoL Beth a ddywaid ein prif gerddorion fydd anghenion y dyfodol ? Byddai cymhathiad medrus o gerddor- iaeth y gorllewin a thonyddiaeth y dwyrain pell o fantais i'r gelfyddyd," meddai un. Dymunol fyddai cyfansoddiadau nod- weddiadol newydd i seindyrf pres," ebe un arall. Ni ddatblygwyd pwerau'r harmoniwm a'r organ Americanaidd am na chaed cerdd- oriaeth gymwys iddynt hyd eto, na chwarae- wyr medrus," ebe trydydd. Y mae eisiau ffurf wasanaeth gerddorol addas i'r Eglwysi Rhydd." "Datblygiad ehangach o alawon cenedl un ai i leisiau neu i offer." Geilw cynheddfau'r delyn bedawl am gynlluniau mwy cyrhaeddgar nag a roes ein cyfansoddwyr inni eto." Ym Mro y Llynnoedd-Parhad. Bu peiriannaeth yn cyflawni rhyfeddodau wrth wneuthur y Llynnoedd. Ymestyn wyneb y dŵr yn ei grynswth dros naw milltir. Serch hynny, nid yw diben y cronfeydd dŵr yn amlwg i lygad yr ymwelydd. Rhoed cynllun eang o goedwigaeth ar waith, ac y mae glannau'r llyn- noedd yn guddiedig dan binwydd a choed eraill -bydd llawer golygfa yn debycach i'r Yswistir nag i Gymru. Golygfa hardd yw hon, a'r dres o fynyddoedd yn ymestyn cyn belled ag y gall y llygad dreiddio. Os ar ryw fath ar gerbyd yr ewch yno, ond odid y rhowch y gorau iddi wedi cyrraedd pen y llynnoedd, oherwydd yno y terfyna'r ffordd facadam." Cerddais i ddeng milltir ymhellach, ar ffordd arw a gwyllt, ac yr oedd heddwch a mawredd yr amgylchoedd yn ddigon o dâI imi am y drafferth. Ar wahân i bysgota gyda chennad Corfforaeth Birmingham, nid oes atyniadau i ymwelwyr yno. Felly, prin yw arwyddion arferol teithwyr, yn bapurach a blychau. 'Dyw'r pentre ddim yn mynd allan o'i ffordd i ddenu ymwelwyr, er bod gwesty i'w gael rhyngddo â Rhaeadr Gwy. Dyma bentre del- frydol heb ddim o'r byn-gloau digynllun a welwch bron ym mhobman arail Yn ymnythu bron o'r golwg rhwng bryniau uchel coediog, wrth droed yr argae mwyaf, haedda Elan edmygedd pawb, ac ni allaf lai na gobeithio na ddaw byth yn boblogaidd."