I fan Bowen yn rhoi Tro i St. Malo YN y cylch yr wyf yn troi ynddo, nid ydych wedi eich bedyddio oni fuoch rywbryd neu'i gilydd yn bwrw'ch gwyliau yn Jersey. Ac felly er fy nerbyn yn gyflawn aelod o'r cylch, euthum yno yr haf hwn, ac o weled a phrofi bywyd llac a meddwl-agored yr ynys honno, medd- yliais mai da o beth i mi fyddai ymweled â'r fam-wlad naturiol, ac wele fi'n codi tocyn sgyrsion ar un o'r badau a oedd yn myned i borthladd agosaf y tir mawr, sef St. Malo. Cafwyd siwrnai ddifyr o dair awr a glanio yn yr hen borthladd. TREULIO'R bore yn edrych o gwmpas St. Malo, ac ymweled ag eglwys gadeir- iol y ddinas. Y mae'r eglwys yn codi'n syth o ganol y tai a'r siopau a'i thŵr yn esgyn i'r glesni, a pha gysgod bynnag fydd ar y stryd, y mae cerrig llwydion y tŵr bob amser yn derbyn yr haul. Euthum i'r eglwys, ac o weled y canhwyllau a'r blodau o gylch yr allorau, a cherrig llwydion oer y Uoriau a'r colofnau a'r muriau, ni allwn lai na meddwl am bob corff yn barod i'w gladdu a welais, a phob angladd y bûm ynddo erioed. Yr oedd rhyw dawch llwyd yn adlewychu o'r parwydydd a'r colofnau, ac ni chai golau'r haul brin fyned- iad trwy'r ffenestri a oedd wedi eu gosod yn uchel yn y muriau. GWELW oedd gwedd pob sant a delw yno, a gwelw oedd wynebau'r ymwelwyr a ddistaw-gerddai'n ôl ac ymlaen. Medd- yliais fod lIwydliw'r lIe yn cydweddu'n hollol â'r grefydd a welais yno. Deuai'r crefyddwyr i mewn ac ymgroesi, penlinio yma ac acw, a'u gwefusau'n symud o hyd mewn paderau; ond yr oedd eu CYHOEDDWYD YR ARGRAFFIAD CYNTAF YCHYDIG CYN NADOLIG. Y MAE'R AIL ARGRAFFIAD YN AWR YN BAROD. CERDDI DIGRI A RHAI PETHAU ERAILL Gan IDWAL JONES. Gan gyfeiUion ieuainc yr ysgolion y clywais i hwy gyntaf a theimlwn fod yma rywbeth newydd yn llên y genedl rhywun yn rhoi mynegiant rhwydd a naturiol i aflaith bywyd y dyddiau hyn, heb ddilyn ffasiwn yr hen brydyddion gynt. "—SARNIOOL, yn Y Welsh Gazette. Caiff y darllenydd wrth ddarllen y caneuon a'u canu- ie, a'u canu dywedwn-adegau o rlaltwch dilywodraeth —DYFNALLT yn Y Tyst. "Y mae ynddynt wir ddonioldeb, —nid rhyw ddonioldeb gwneuthur, ond wit yn llifo'n naturlbl fel yr aíon." — EUROSWYDD, yn Baner ac Amserau Cymru. cerddi gwych Mr. Idwal Jones —I. C. PEATE, ar y Radio. "Celr geiriau a Solffa yn y Llyfr, yr hyn sydd yn fantais. Y mae'r llyfr mor ysmala fel mai gwaith anodd ydyw dewis ohono, ond y mae ei ddigrlfwch yn siwr o sicrhau ei werth- lant."—SYLWEDYDD. yn Y Genedl. Pan ddaw'r Farn, nid hwyrach na chyfriftr i Idwal Jones fwy o dda am ei waith digrlf nag am ddim arall." — SELWYN JONES, yn Y Ford Gron. Rhowch ordor amdano yn y slop lyfrau apotaf, neu yn syth oddi wrth J. D. LEWIS A'l FEIBION, GWASG GOMER, LLANDYSUL. Prls, 2/ Drwy'r Post, 2/3. hwynebau a'u llygaid yn llwyr ddiystyr­- nid oedd un llygedyn o deimlad na diddor- deb i'w ganfod ar un wyneb-a gobeithiwn fod mwy yn mynd ymlaen ym meddwl a chalon y bobl hyn nag oedd yn y golwg DAETH merch i mewn â gwallt du, hardd, ganddi, a chanddi ddwy gan- nwyll i'w gosod ar un o'r allorau, a chan na chai gan y cynhwyllau aros yn eu lle, gwenu a wnâi yn hollol ddi-enaid. Mewn ambell gornel gysgodol yn yr eglwys yr oedd cistiau gwydr ag ynddynt ddelwau o'r seintiau, ond ni allech weled gogoniant y seintiau hyn heb roddi eeiniog-neu ffranc-mewn hollt yn y gist ac yna fe oleuid y gist gan nifer o lampau trydan. Yn wir, ni weriais i yr un geiniog Meddyliwn am rai o'r hen bregethwyr gartref-pa foddau peiriannol oedd eisiau i ddangos eu gogoniant hwy ac am rai o hen borthwyr y sêt fawr-pa olau a geid yn eu llydaid hwy. OND toe, deuthum at un o'r capelydd yn yr eglwys, ac yr oedd hwnnw wedi ei ffrydio â golau coch, esmwyth. Ar un llaw yr oedd y ddarllenfa, ac ar y llall ddelw o'r Santes Siân d'Arc, a bu raid i mi aros yno a bod yn llonydd, ac yno y deuthum agosaf at unrhyw deimlad o grefydd yn yr eglwys. Gyferbyn â'r ddelw yn uchel yn y mur yr oedd ffenestr liw, a choch oedd y lliw mwyaf cyffredin yn y ffenestr. Yr oedd y ffenestr yn wynebu'r haul a thrawai pelydrau'r haul ar y ddelw, a hwythau'r pelydrau, wedi eu trwytho â chochni'r ffenestr, rhoent wrid yn wyneb Siân a chynhesrwydd i'w dwylo a'r siwt dur arian a wisgai. AC o edrych o gryn bellter, bron na welwn y ddelw yn anadlu, a hithau, Siân, â'i hwyneb tua'r golau, a welai ei hangylion. Yr oedd gorfoledd yn yr wyneb, a gwroldeb a gobaith, a disgleiriai ei gwallt melyn fel gwenith dan yr haul. Fel rheol, ni charaf rannu'r trysor a geir mewn golygfa gyda neb arall, oherwydd cyll yn aml iawn lawer o'i dwyster a daw yn gyfjfredin, ond am yr olygfa hon a'r ddelw, gofidiwn nad oeddwn arlunydd tan gamp fel y gallwn rannu fy ngolud gyda phob dyn arall Nid anghofiaf Siân Daeth i'm cof weled Sybil Thorndyke yn dehongli ei rhan yn nrama Shaw, Joan of Ark, a deëllais eilwaith ei mawredd fel chwaraeydd, canys cododd ynof yr un dwys- ter teimlad ag a wnaeth y ddelw hon a gyrrais bob Sais, yn fy meddwl, i'r tân diderfyn am ei greulondeb bwystfilaidd, a phob Ffrancwr am ei dwyll, ac yr oedd arnaf gywilydd fy mod yn Brydeiniwr Ysywaeth, yr oedd yn falch gennyf fyned allan i olau cynnes yr haul. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar Oil a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidieo yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg Ar gael gan bob cemist neu siop Deu dorwyr gwallt, pris 3s. 6d., 7b., a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystail St., Rosebery Avenue. London, E.C.l. J. H. &CO.