Dathlwn 800 mlwyddiant Cymro Priflythyren allan o un 0 laWYIIgr-ifau boTeaf Sieffre Arthur. Gan y Dr. Mary Williams Coleg Abertawe NID yw ond teg inni uno â'n gilydd i ddathlu enw a gwaith Sieffre Arthur. neu Sieffre o Fynwy. Nid oes un llyfr arall, ar wahân i'r Aeneid, efallai, wedi gwneuthur cymaint o'i ôl ar lên Ewrob drwy gydol yr Oesoedd Canol, nac wedi rhoi mwy o'i ddelw ar draddodiad ein cenedl, na'r eiddo ef, sef yr Historia Regum Britanniae, neu Hanes Brenhinoedd Prydain, a ymddangosodd gyntaf. meddir, 800 mlynedd yn ôl. Gwnaeth y llyfr gynnwrf mawr yn ei amser ef ei hun, a theimlir ei effaith yn gryf hyd yn oed heddiw, pan yw dynion yn dal i geisio datrys tarddiad a diben y llyfr mawr hwn," chwedl Henri o Huntingdon. Bu mwy o ddyfalu cywrain ynghylch ei darddiad nag odid un llyfr arall a ddaeth inni o'r Oesoedd Canol. Prin fu'r sôn am ddim ond enw Sieffre a'i lyfr mawr," er bod y llyfr ei hun yn hynod boblogaidd. Yn brawf o'i boblog- rwydd, cawn heddiw tua 50 o gopïau a ysgrifennwyd yn y ddeuddegfed ganrif, a bron 200 i gyd, yn ogystal â chyfieithiadau ohono i ieithoedd eraill. Rhaid inni gofio na chymerai pobl lawer o ddiddordeb mewn personau.yn yr Oesoedd Canol, eithr yn eu gweithiau. Felly fe gawn yn fynych nad oes dim o hanes awdur gwaith hyglod wedi cyrraedd oddieithr ei enw moel, ac efallai enw'r dreflle y ganed neu y trigodd. Eithr fe wyddom ryw gymaint ragor na llyn am Sieffre. Awgryma'r enw mai Nordd- man neu Lydawr ydoedd o waed gallai'n hawdd fod yn un o ganlynwyr y marchogion o Normandi a Llydaw a gafodd diroedd ar oror Cymru wedi concwest Gwilym Orchfygwr yn 1066. Nid hwyrach fod ei fam yn Gymraes ymddengys mai nai ydoedd i Uchtryd, fu'n Archiagon Llandâf yn 1140 (onid Sieffre arall oedd hwnnw). Gall mai ei fam a roddodd iddo'r enw Arthur, yr adnabyddir ef wrtho yn aml yn llên Cymru, cyn iddo ef ennyn diddordeb yn y Brenin Arthur enwog. Ei urddo'n archiagon. Gwyddom hefyd ei fod yn Rhydychen mor gynnar â 1129, oherwydd cawn ei enw wedi'i dorri ar siarterau cyfoes yno. Yr oedd yn Magister," neu athro, yn y Brif- ysgol yn Ebrill, 1136, a'r tebyg yw iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn Rhydychen nes iddo ddilyn ei ewythr yn Archiagon Llandâf yn 1150. Fe'i hetholwyd yn 1152 i lanw esgobaeth Llanelwy, eithr nid ymddengys iddo fynd i Wynedd, gan ddewis i bob golwg drigo yn y de a'i hin gynhesach. Bu farw yn sydyn wrth ganu'r Offeren yn 1154. Credir gan rai awdurdodau i Sieffre fod o leiaf yn gyd-awdur Llyfr Llandâf neu Lyfr Teiliaw a ysgrifenesid ganddo, os felly, tua 1150, ag èf eto'n Archiagon. Fe eglurai ei farw sydyn stad anorffen y llawysgrif gwreiddiol. Os yw hyn yn wir, y mae i esgobaeth Llandâf le i ymddiddori yn un o archiagoniaid enwoca'r ddeuddegfed ganrif ac i ymfalchïo ynddo. Am olrhain y gwreiddiau. Diddorol sylwi yma gynifer oedd yn archiagoniaid o ysgrifenwyr y cyfnod a adawodd argraff ddofn ar lên Ewrob, lawer ohonynt yn hanner-Norddmyn, hanner- Cvmry o waed. Yn ogystal â Sieffre, cawn Erallt Gymro, Gwallter Map, Henri o Hunt- ingdon ac eraill Eithrfelawduri/a?'fcs Brenhinoedd Prydain y cofir am Sieffre yn fwyaf arbennig. Dywaid Sieffre wrthym iddo ddymuno olrhain gwreiddiau'r Brythoniaid o Brutus, eu brenin cyntaf, i lawr at Gadwaladr fab Cadwallo. Cydnebydd y bu rhaid iddo, er mwyn gwneuthur hynny. ddefnyddio llyfr hen hen yn yr iaith Frutanaidd a roesid yn fenthyg iddo gan Wallter Calenius, Archiagon Rhydychen (nid Gwallter Map, oedd ef, gyda llaw). Dywaid hefyd i Wallter roi gwybodaeth iddo ar dafod-leferydd. Triniodd Sieffre ei ddefnydd mor gelf- yddus fel y derbyniwyd y cwbl a ddywedodd yn ei ddydd — gan y mwyafrif o bobl-fel hanes gwir. Oddi ar hynny fe ymdaflodd y pendil i'r eithaf arall, ac fe haera llawer i Sieffre ddyfeisio'r cwbl, mai ffrwyth ei ddychymyg disglair ei hun ydyw-haeriad llawn mor afresymol ag ydoedd barn ei gyfnod ei hun am ei waith. Mawr Sieffre o Fynwy a ys- grifennodd lyfr pwysica'r Oesoedd Canol. Ynddo y diogelwyd dros byth chwedlau Arthur a'i Farchogion Pa un a yw honiad Sieffre am yr hen hen lyfr yn wir ai peidio, y mae'n anodd credu i ddau archiagon, Sieffre a Walter, gydgynllunio i dwyllo eu cyfoeswyr Y mae'n sicr i Sieffre ddefnyddio hen groniclau, Gildas, Nennius a Bede er enghraifft a gallai roi llaw ar hen achau, fel y profir gan yr enwau a ddyry yn ei Hanes gwyddai'r Clasuron, Fferyllt, Juvenal, Lucan ac Apeleius, ac yr oedd yn hyddysg yn ein chwedlau ni'n hunain yn ogystal â'r eiddo gwledydd eraill Gan ei fod yn gelfydd cywrain, y mae wedi gwau yr holl edafedd hyn yn frethyn gwerth- fawr sydd â'i liwiau llachar hyd heddiw heb bylu, fel y disgleiriant arnom ar draws y canrifoedd. Yn Lloegr yn unig, y mae ar Malory, Drayton, Shakespeare, Spencer, Miltwn, Tennyson, lawer iddo ef; a byddai llên y Cyfandir-fe deimlodd pob gwlad yn Ewrob, bron yn ddieithriad, hud ei gyffyrddiad-yn llawer tlotach heddiw oni bai am athrylith Sieffre Arthur, Archiagon Mynwy. Cyflwyniad y llyfr. Cyflwynwyd y llyfr fel y mae yn awr i'r noddwr gwybodaeth mawr hwnnw, Robert Iarll Caerloyw, mab Harri I, carwr mawr popeth Cymreig. Rhaid felly ei sgrifennu cyn Hydref. 1147, blwyddyn marw Robert. Eithr gwyddai'r hanesydd trylen gan Henri, Archiagon Huntingdon, am un trosiad yn 1139. Gofynasai cyfaill iddo, Guarinus Brito, neu Warin Frython, pam na cheid hanes bore'r Brythoniaid yn ei Historia Anglorum (Hanes y Saeson), sef eu hanes cyn amser Iŵl Cesar. Anfonodd Henri atebiad yn 1139, yn dweud wrth Warin y gallai ddarllen hwnnw drosto'i hun bellach, oher- wydd ym mis Ionawr y flwyddyn honno, ymwelsai Henri ag Abaty Bec yn Normandi, ac yno dangosodd Robert o Dorigni a ddar- llenasai Hanes Henri, y llyfr mawr gan Sieffre Arthur iddo. Yr oedd Sieffre wedi ysgrifennu un cyfansoddiad o'r llyfr felly y fan bellaf tua diwedd 1138. Am resymau eraill, dywaid rhai ysgolheigion mai 1135 yw'r dyddiad. (I dudalen 90.)