Byd y Canu. Caernarfon yn Trefnu ei Cherdd CYN darfod atsain un ŵyl y mae rhaglen un arall yn ein llaw. A thrin a thrafod dyfarniadau Cr.stel! Nedd ymhell o fod wedi pallu, wele drin trefniadau Caernarfon. Gan mai cerddoriaeth lais yw'n prif ddiddordeb fel Cymry, fe deilynga honno'r 11 cyntaf yn y rhaglen. Nid oes modd ei feirniadu'n fanwl, pes mynnem, am nad yw pob darn a ddewiswyd yn gyfarwydd inni na chopïau wrth law. Ni ellid gwneud llawer o gamsyniad wrth ddewis cytgan gan Johann Sebastian Bach i'r brif gystadleuaeth gorawl, ac onid oes ddigon o waith arno i gadw'r corau'n brysur, bid sicr fod Joseph Holbrooke yn bryd eithaf trwm iddynt, fel na fydd gormod o amser i berffeithio darn Osborne Roberts cjm yr ŵjrl nesaf. Gwaith Brahms. Pleser fydd gwaith dysgu Gwyn eu byd y rhai a alara (Blest are they that mauni), Johannes Brahms ar gyfair yr ail gystad- leuaeth gorawl, ac fe fydd digon o wahan- iaeth diddorol rhyngddo a Mebyn Od E. T. Davies. A dyna brif amcan Eisteddfod; nid cystadlu yn bennaf er mwyn ennill gwobr (wedi'r cyfan, ba sawl gwobr sy'n ddigon i wneud mwy na chyffwrdd â threuliau corau), ond er mwyn dysgu, ac ehangu chwaeth a rhyddhau ysbryd dyn. Mantais corau bach. Peth da iawn ynglyn â chystadlaethau'r corau merched, yr ail-gorau meibion a'r corau gwledig ydyw eu bod yn cyfyngu nifer yr aelodau i 60, 50 a 50. Yr ym bellach yng Nghymru yn cyfar- wyddo â chorau enfawr rhai mor fawr mewn rhai o'r gwyliau a chyngherddau fel y mae'n anodd iawn eu trafod. Y canlyniad yw i effeithiau a llinellu darnau dueddu i fod yn ddu ac yn wyn, heb ddim graddau rhyngddynt. Y mae nifer bach o leisiau mewn côr yn rhoi cyfle i'r arweinydd sylwi ar fanylion a thrafod darnau â llaw ysgafnach, a rhaid i bob aelod o'r côr wybod ei waith vn berffaith. Un rheswm am anghytundeb rhwng safonau Seisnig a Chymreig o ganu corawl, yw'n tuedd ni i ddefnyddio adnoddau trymach na hwynt ac felly ddatblygu safonau gwahanol. Dwy erddygan wych. Y mae lle i gorau mawr a bach. Felly yr oedd yn ddrwg gan lawer o garedigion cerdd Cymru gael dim ond un côr yn cystadlu ar yr erddygan yng Nghastell Nedd. Darn cyfaddas i glee party" i'w ganu ydyw erddygan, ac fe ddylsai cenedl a gyn- hyrchodd Yr Haf a Blodeuyn bach wyf i meum gardd, fod yn barod i groesawu ffurfiau Gan SELWYN JONES estron sydd heb fod yn annhebyg i'r eiddynt hwy, a ffurfiau a luniwyd i raddau helaeth gan gyfansoddwyr Tuduraidd, a Chymry disglair yn eu plith. Yng Nghaernarfon gwelaf mai dim ond pum llais sydd i ganu'r erddyganau. Ewch yno a gwnewch ymdrech i glywed y ddwy enghraifft wych a ddewiswyd, sef Yr Alarch Arian (The Silver Swan) gan Orlando Gibbons ac I lawr yr allt â Cor- inna (Dou-n the hill, Corinna trips) gan Thomas Bateson. "Palestrina" i'r pedwarawd. Y mae cysylltiad agos rhwng yr erddygan a'r darn a ddewiswyd i'r pedwarawd, sef "Credo Nicene" o'r gwasanaeth Eterna Christa Minera gan Palestrina. Pan oedd cerddoriaeth yr eglwys ar y llawr, Palestrina (1524-1594) a'i hatgyfododd. Hyd y gwelaf i, llwyddwyd i ddewis unawdau yn agos iawn at safonau cyfartal i bob llais, tra manteisiwyd ar y cyfle i ofyn am amrywiaeth dull wrth eu canu. Hapus yw'r dewisiadau ar gyfair corau plant. Yr wyf yn falch o weld ein bod yn manteisio ar athrylith Charles Clements, drwy osod ei Sionyn Bach y Pentre i'w ganu. Canu gyda'r tannau. Braidd yn fach yw'r gwobrau yn yr adran ganu gyda'r tannau. Y mae eisiau meithrin y gelfyddyd hon a magu safonau uchel iddi. Braint a chyfle yr Eisteddfod Genedlaethol ydyw gwneuthur hynny, ac nid oes wahaniaeth pa un ai am arian ai am anrhydedd y cenir â'r tannau, ond i'r fflam gael ei hennyn. Nid oes dim i'w ofni yn y darnau a ddew- iswyd ar gyfair y cerddorfeydd, i rai mewn oed nac i blant. Disgwylir pethau da o'r pedwar- awdau lhnynnol yn chwarae Borodin, ac y mae'r unawdau offerynnol ar gyfair yr ifanc yn ddewisiadau pur dda. Amheuaf y tueddiad diweddar o sgrifennu darnau i blant mewn idiomau sy'n anodd i hyd yn oed gerddor o chwaeth eang eu dehongli'n deg. Pymtheg gini am ddarn dramatig ? Cyhoeddir dewis-ddarnau'r seindyrf pres yn yr Hydref, yn ôl y dull arferol. Yn adran gyfansoddi cerddoriaeth y mae un ar ddeg o gystadlaethau. Nid wyf yn hollol sicr fy mod yn deall pamy mae eisiau cynnig gwobr o bymtheg ginî%am ddam dramatig byr i gôr neu gerddorfa Tem- tasiwn ydyw i gyfansoddwr ychwanegu un eto at y llu o ddarnau hynny, sy'n cychwyn yn fflamgoch, yn disgyn i weddi, ac yn terfynu drwy fygwth codi'r to. Nid yw'n hollol glir ychwaith pam y cyfyngir cyfansoddi canig i'r amateur. Onid yw ffurf y ganig yn deilwng o sylw'r cyfan- soddwr gorau ? Serch hynny, efallai y mentra rhyw gyfansoddwr bach swil i'r maes ac esgor ar gampwaith. Ni a hyderwn hynny, gyda Malachi yn Pobl yr Ymjrlon.'» Ond pechod anfaddeuol yw cyhoeddi testunau'r adran gyfansoddi cerddoriaeth, ag un eithriad, yn y Saesneg. Cerddoriaeth, ar siarad. Rhag ofn imi gael fy nghyhuddo o rwystro rhai rhag prynu Rhestr Testunau'r Eis- teddfod, tawaf â chynigiad. Maes newydd, nas cyffyrddwyd yng Nghymru eto yw gosod cerddoriaeth ar eiriau nid i'w canu ond i'w siarad. Anodd iawn, ac nid weithiau peth dymunol, yw gosod rhai o'n beirdd ar gân, ond llwyddodd rhai estroniaid, Schumann a Farjeon yn eu plith, i greu awyrgylch gwych a chefndir hardd i eiriau rhai o feirdd gorau'r byd. Tybed a oes rhywun a gynigiai wobr arbennig am waith o'r math yma. 'NawT 'te, Caernarfon Athro Ffasiynol CAWN yma economydd-yn trafod Pob trefen diwinydd A'i gael, yn ddigywilydd Ym mhlus fours ym mhlas y ffydd. Y Ddannodd O! y ddannodd ddi-enaid-yn fy mhen Yn fy mhoeni'n ddibaid Athrylith llu'r cythreuliaid Archoll hen jrr erchyll haid. WALDO.