STORI FER Yr Ysbryd ar yr Allt "'TOES dim o'r fath beth," meddai Thomas yn ddirmygus, gan boeri i'r tân. Eistedd yr oeddym o gwmpas y tân yn nhy Thomas y noson cyn Nadolig, yn ein mwynhau ein gilydd yn mygu ac yn ymgomio. Cyn bo hir troesai'n hymgom at ysbrydion. Tua deng mlynedd yn ôl," ebe un o'r enw Norman, gan edrych i'r tân, os soniai rhywun wrthyf am ysbryd buaswn yn chwerthin arno. Ond digwyddodd rhywbeth a wnaeth imi goelio bod y fath bethau. "FE wyddoch fy mod wedi bod drwy'r Rhyfel Mawr, ac wedi iddo orffen, cefais waith fel clerc mewn swyddfa gyf- reithiwr ym M Yr oeddwn yn ddigon ffodus i gael aros gyda modryb imi, ond 'roedd 'i bwthyn tua milltir o'r dref. Tachwedd oedd hi. Un noson wedi bod yn gweithio'n hwyr, cychwynnais am gartref. Pan oeddwn-i tua hanner ffordd i fyny'r allt a arweiniai o'r dref heibio i dy fy modryb, mi glywais sŵn traed o'm hôl. Meddyliais ar y dechrau mai un o'm cymdogion ydoedd ar 'i ffordd adref wedi bod ar neges i'r dref. Arhosais am ennyd a pheidiodd y sWn. Ar ôl sefyll am ychydig cerddais yn fy mlaen. Yr wythnos honno'r oeddym yn brysur yn y'n swyddfa, a minnau'n hwyr yn mynd adref bob nos. A dyna ichwi beth rhyfedd, dychmygwn glywed sŵn rhywun yn dyfod ar fy ôl bob nos. Aeth hyn ymlaen am wythnos, pan benderfynais ddarganfod pwy, yn fy meddwl i, oedd yn chwarae cast arnaf. NOSON braf ydoedd pan gychwynnais iN o'r dref, y lleuad yn golchi pobman â'i golau prydferth. Wedi gadael y dref a'i goleuadau o'm hôl, yn sydyn clywais y sŵn eto. Ar ganol yr allt yr oedd troad ac ar yr ochr dde yr oedd ychydig goed. Yng nghysgod y rhain ymguddiais i gael golwg ar y cellweiriwr. Yr oedd pobman yn ddistaw, ac wrth glywed y sŵn annaearol o'm hôl, rhedodd ias oer i lawr fy nghefn. Gellwch ddychmygu fy nheimladau pan welais ryw ddyn tal mewn gwisg milwr, yn cerdded yn araf tuag ataf. Methwn yn glir wybod Ue'r oeddwn wedi gweld y dyn o'r blaen. Pan ddaeth yn nes, cofiais mai hen gyfaill yn y fyddin gydà mi ydoedd. Jac,' meddwn, Jac Huws ag estyn fy llaw iddo gan ddyfod allan o'r cysgod. Dychmygwch drachefn fy nheim- ladau pan welais nad oedd neb o'm blaen. "^JI ddeuais ataf fy hun yn iawn tan oeddwn garref. Ag wedi imi gael te, mi es i chwilio yn fy mocs am gyfeiriad Jac. Cefais hyd iddo ag ysgrifennu ato. Ychydig ar ôl hynny, daeth llythyr oddi wrth deulu Jac Huws yn dweud 'i fod wedi'i ladd yn y rhyfel. "Cofiwch nad oeddwn wedi'i weld er 1915, ag felly ar ôl hynny y cafodd 'i ladd. Yn yr un llythyr rhoddwyd gwahoddiad imi fynd gyda'r teulu i ymweld â bedd Jac yn Ffrainc. Yr un wythnos cefais freuddwyd lle gwelwn Jac. Siaradodd â mi a rhybuddiodd fi i beidio â mynd ar daith mewn trên. Y diwrnod nesaf atebais lythyr Mr. Huws yn gwrthod y gwahoddiad, gan egluro pam. A dyna'r cyfan a glywais ganddynt. Parhad Siwrnai Olaf O'Fflarti Gwnaeth 'i feibion arch i'w gario adre, ac fe'i cwynen' (keening) yn enbyd. A hwy'n cwyno,' âi dyn heibio-helwr wrth 'i olwg. Ond beili oedd, ag nid oedd 'i weision ymhell. Cydymdeimlodd â'r meibion. Rhoddodd iddyn i yfed o botel oedd ganddo yn 'i boced. Aethan i gysgu. Y nos oedd hi-nos ddychrynllyd fel heno. Pum mab yn cysgu ar y llawr. Hen ŵr yn gelain oer syth yn 'i arch. Pump arall yn paratoi i ddianc â'r corff. Dwy gannwyll mewn potel oedd eu golau. CYDIASAN yn yr arch, 'i chodi, a'i dodi ar eu hysgwyddau. Ergyd o daran dros y bwthyn mynyddig, a'r gwynt yn codi. Drylliwyd y drws, a diffoddwyd y golau. Crynodd cipwyr y corff. Cyffrôdd un o'r meibion ag ystwyrian. "'OcA/ Och! mae e'n fyw. Mae e'n fyw,' ebe un o'r beilïaid. Dodasan yr arch ar y llawr. Yr oeddyn yn wan gan ddychryn. Ail-gynasan y canhwyllau, a chymryd llwnc o'r botel. GweU aros, a gweld a ddaw'r nos yn fwy tawel,' meddai un ohonyn-hw. Cytuno ar hynny, ag eisteddodd y pedwar ar y llawr oddi amgylch i'r corff. Llwnc arall o'r botel. Cael o hyd i bac o gardiau, a dechrau chwarae. Tawelodd y nos. Nid oedd y sŵn lleiaf o unman, ond chwyrnu'r meibion yn eu trymgwsg, a sŵn y cardiau'n disgyn ar glawr yr arch. Aeth y beiliaid hwythau'n drymaidd, a chwympo i gysgu un ag un. Yr oedd y ddwy gannwyll a wthiwyd i yddfau'r poteli yn dal ynghyn. Symudodd un o'r beiliaid 'i law. Dymchwelwyd y cardiau i'r llawr i gyd ond un-yr un a elwir yn eiddo'r diawl '-arhosodd honno'n fyg- ythiol, a llachar uwchben calon y corff. SYMUDODD y beili 'i law eto. Ytrohwn cyffyrddodd â'r garden, a chyffyrddodd y garden ag un o'r poteli, a bwriwyd y botel a'r gannwyll trosodd. Croesodd cysgod dieithr di-lun dros y pared gwyn. Yr oedd gwair sych ag asglodion o goed yn wasgaredig ar y llawr oddi amgylch i'r arch. Mewn eiliad, yr oedd y Ue ar dân. Dihangodd y beiliaid. Dihangodd meibion O'Fflarti i gyd hefyd ond yr un a geisiodd achub y Gan GLYN GRIFFITH Yr wythnos wedyn wrth ddarllen Y Diwrnod, gwelais fod dwy gerbydres Ffrengig wedi dyfod i wrthdarawiad â'i gilydd, a bod llawer o bobl wedi eu lladd. Ac yn canlyn Ymhlith y meirw y mae Mr. a Mrs. Huws, o D W Sir G O'R gornel Ue'r eisteddai Thomas daeth sŵn chwyrnu. Yr oedd y cnaf di- deimlad yn cysgu. corff. Fe'i llosgwyd ef yn fyw. Llosgwyd y corff a'r bwthyn. Ond ni chredai'r bobl erioed mai dyna fel y bu O'Fflarti farw. Y mae'r hen furiau a losgwyd yn ddu yno i weld o hyd, ac yn braw mai'r diawl 'ihun a ddaeth i ddwyn 'i etifedd gartref." Yr oeddym yn ninas Galway erbyn hyn. B'le cysgwch chwi heno," ebe'r gyrrwr. 'Chysga 'i ddim o gwbl, 'r wy'n ofni," meddwn, a 'chysgais i ddim 'chwaith. Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru (PRIFYSGOL CYMRU). Y mae'r Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Gymreig yn cynnwys yr adrannau a ganlyn Materia Medica a Chyfferiaeth; Clefydeg a Thrychfileg Ffisygwriaeth Llawfedd- ygaeth Colwynyddiaeth a Gwreigofydd- iaeth; Ffisygwriaeth Ataliol ac Iechyd Cyhoedd Efrydiaeth y Pla Gwyn. CYRSIAU HYFFORDDI AM RADDAU A THYSTYSGRIFAU MEDDYGOL. Rhoddir cyrsiau hyfforddi gan yr Ysgol yn yr adrannau uchod, ar gyfair graddau meddygol Prifysgol Cymru, a gellir eu dilyn gan efrydwyr fo'n ymbaratoi am raddau a thystysgrifau Cyrff Arholi eraill. Egyr y Tymor nesaf ar yr ail o Hydref, 1934. Rhoddir Hyfforddiant Ysbyty yn Ysbyty Frenhinol Caerdydd, yn Ysbyty'r City Lodge, Caerdydd, yn Ysbyty Llandoch, yn Ysbyty Meddwl Dinas Caerdydd, yn Iachwyfa Ddinas Caerdydd (Twymynau), yn Ysbyty Tywysog Cymru (Esgyrn), ac yn Ysbytai Cefn Mabli a Glan Elai (y Pla Gwyn). EFRYDIAETH WEDI GRADDIO. Ceir cyfleusterau yn yr Ysgol i ymchwil cymeradwy yn holl ganghennau Ffisygwriaeth a Llawfeddygaeth. Y mae Ysgoloriaethau Wedi-Graddio i'w cael, yn amrywio vn eu gwerth o £ 150 i i:250 yn y flwyddyn. Rhoddir Cyrsiau hyfforddiant Wedi-Graddio cyflawn ar gyfair y Dystysgrif mewn Iechyd Cyhoedd a Thystysgrif Prifysgol Cymru ar Glefydau'r Pla Gwyn. Dylid gwneuthur ceisiadau am unrhyw rai o'r Cyrsiau mor fuan ag y galler at yr Ysgrif- ennydd, Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru, The Parade, Caerdydd, a gellir cael manylion pellach ganddo ef.