R. MANOD OWEN yn galw i gof STRAEON AM 1 AD FROFFESOR" NID cobler oedd Elias Jones y Cwm. neu Tad Proffesor" fel y gelwid ef yn fynych, ond crydd ac yn gelfydd yn y grefft. Y mae hyn yn wir hefyd am ei fab Harri'r Cwm" (Syr Henry Jones wedyn). Carai Elias Jones ddireidi diniwaid yn fwy na dim. Ef oedd practical joker y Llan. Dyma stori nodweddiadol ohono a adrodd- wyd wrthyf gan fy mrawd yng nghyfraith Dafydd Roberts, sydd yn awr yn tynnu at ei bedwar ugain Diwrnod mawr yn fy hanes pan oeddwn yn blentyn, oedd, pan ddywedai fy mam wrthyf,' Tro i mewn i'r Cwm ar dy ffordd i'r ysgol, Dafydd, a rho fesur dy droed i Elias Jones am bâr o sgidia.' Yr oeddwn yn arwr ymysg plant yr ysgol y diwrnod hwnnw, a hebryngent fi i weithdy'r Cwm. Deallai Elias Jones yr arwyddion i drwch y blewyn, a chwaraeai ran gyda mwynhad. Taenai ddarn o bapur llwyd ar lawr y gweithdy, ac meddai Tyn dy esgid, Dafydd, a dyro dy droed ar y papur yma.' A phwt o bensil tynnai lun fy nhroed ar y papur llwyd, yna gofynnai, heb wên ar ei wyneb A oes arnat ti eisiau gwich ynddynt, Dafydd ? Oes, Elias Jones, os gwelwch chi'n dda,' meddwn innau'n hollol ddiniwaid, a phesychai'r hen George-un o'i weithwyr. "Y pryd hwnnw esgidiau'n gwichian oedd y ffasiwn, yn enwedig yn ein mysg ni'r plant. Ni thalai esgidiau dydd Sul ddim heb wich ynddynt. Yna trodd Elias Jones at ŵr o'r enw James Pugh (cariwr llythyrau o Lanrwst a weithiai i Elias Jones hyd amser dychwelyd yno'r prynhawn) a chyda phob digrifwch, meddai,­‘ James Pugh, tyrd â hanner dwsin,o wichia' gyda thi o Lanrwst yfory a thrawa nhw yn y popty.' Tyfais i fyny'n llanc cyn cael fy nar- bwyllo mai direidi'r hen grydd oedd y cwbl." Bwgan y Groesffordd PAN oedd yn dychwelyd un noson yn yr Hydref o ardd Cefncoch-lle, mae'n debyg, y buasai'n danfon pâr o esgidiau newyddion-cafodd Elias Jones dipyn o fraw ar goresffordd Ty'n-y-pistyll, hyd nes deallodd mai achos y sŵn yn y clawdd oedd maharen wedi ei ddal mewn drysni. Y mae'n arfer gan hogiau yr ardal ym- gasglu wrth y pwmp sydd ar ganol y Llan gyda'r nos. Yr oedd felly y pryd hwnnw. Cyn gynted ag y cyrhaeddodd Elias Jones o fewn rhyw ganllath o'r pwmp, rhedodd i'w cyfeiriad fel pe bai rhywbeth ar ei ôl. "Be sy mater, Lias Jones ? meddai pawb mewn braw. Bwgan, lads, bwgan Dywc, b'le ? "Wrth groesffordd Ty'n-y-pistyll," ebe Elias Jones yn frawychus. Ffurfiwyd gorymdaith. Arfogai pawb eu hunain â phastynnau o bob math a llun. Ar y ffordd i Dy'n-y-pistyll, ymffrostiai rhai o'r fintai beth a wnaethent i'r bwgan. Pan gyrhaeddwyd y fan dyna drwst yn y gwrych. "Dyna fo! Gwadnodd Elias Jones hi'n ôl i gyfeiriad y Llan, a'r fintai ar ei ôl. Ail ymffurfiwyd eilwaith a theirgwaith, ac o'r diwedd, pan dywynnodd ar un o'r bechgyn mai un o ddefaid Hendre Isa oedd y bwgan, gwaeddodd Un o dricia Elias Jones mi gymra fy llw. Mae o wedi gwneud ffyliad ohono' ni, lads." B'le mae o ? b'le mae o ? Ond nid oedd Elias Jones ar gael-yr oedd wedi dianc yn y tywyllwch adref i adrodd yr hwyl a gafodd wrth Betsi ei wraig. Drannoeth wedi'r Ffair UN tro aeth pedwar o ffermwyr yr ardal i Ffair Ddinbych. Er eu bod yn eithaf dirwestwyr gartref, eto yn ôl safon y cyfnod hwnnw yr oedd glasiaid neu ddau yn eithaf cyfreithlon mewn ffair neu farchnad. Parhad Syrthio Mewn Cariad a Ch>mra — o dudalen 196 o'r Fenni, heibio i Dalgarth, Llanfair-ym- Muallt a Rhaeadr, gan feddwl bwrw'r nos yn Nolgellau. Ymddangosai Dolgellau braidd yn bell wedi cael te ar ochr y ffordd a throesom i lawr ffordd arw i fferm oedd yn cynnig ystafelloedd ar osod. Er ei bod yn hwyr wedi inni swpera, yr oedd y llwydnos mor ddeniadol fel na allem beidio â dringo'r mynydd wrth gefn y ty. Gwelem yr haul yn suddo, mewn ffurfafen ddigwmwi, y tu ôl i Gader Idris a'i fryniau serennog. Ar lan y mor. Cychwynasom drannoeth am lan y môr ond siomedig oedd hwnnw wedi bod yn y mynyddoedd. Aethom yn ôl i Gapel Arthog a llogi ystafelloedd yno. Mor uchel ydyw, ymhell uwchben genau'r afon ac yn wynebu'r mynyddoedd! Mor dlws yw'r wlad, yn llawn rhaeadrau a nentydd. Gwibdaith drwy olygfeydd mynyddig gwychaf Cymru oedd ein rhaglen drannoeth. Yr oedd ein gwyliau wedi dirwyn i'r tri niwrnod olaf ac yr oeddym am weld cymaint ag a allem o'r wlad tra oedd y modd gennym. Yr oeddym wedi cynllunio'r ffordd ymlaen llaw-drwy Ddolgellau, Blaenau Ffestiniog, Betws-y-coed, Capel Curig, Beddgelert, Aber- glaslyn, Tremadog, Porthmadog, Harlech, Abermaw, Dolgellau, ac yn ôl i Arthog-90 o filltiroedd! Y mae'n fwy na thebyg mai dyna pam iddynt, wrth yrru adref rywle rhwng Henllan a Llansannan daro olwyn oddi ar drol mul yr eisteddai hen wr ynddi. Y mae'n fwy na thebyg hefyd mai dyna pam iddynt yrru yn eu blaenau heb aros i holi maint yr alanast. Clywodd Elias Jones am y digwyddiad y noson honno. Bore trannoeth, trwy ffenestr ei weithdy, gwelai un o'r pedwar yn pasio i gyfeiriad y llan ar ryw neges neu'i gilydd. Cododd Elias Jones oddi ar ei fainc grydd, rhwymodd ei ffedog am ei ganol a rhedodd allan Hei! Tomos Dafis." Be sy'n bod, 'Lias Jones ? O," ebe'r hen grydd mewn tôn ddirgel- aidd, "0, beth oedd Inspector Jones, Dinbych, yn ei wneud yn y Llan y bore 'ma ? Trodd Tomos Dafis ar ei sawdl ac aeth adref. Fe ddywedir na fentrodd i'r Llan am wythnos o leiaf. Aeth Elias Jones yn ôl i'w weithdy, â gwên hapus ar ei wyneb rhadlon, ac meddai wrth James Pugh a'r hen George Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid." Yr oedd diwrnod olaf y gwyliau bellach wedi dyfod. Buom yn gorwedd yn yr haul drwy'r bore mewn cilfach dywodog gerllaw'r afon. Aethom drwy fwlch rhamantus Llyn Bach y prynhawn, i lannau prydferth Tal-y-llyn. Gymaint harddach," meddem, "yw'r traeth uwchlaw Towyn pan yw'r mynyddoedd o'n blaen yn Ue o'n hôl." Gwelsom lyn Llanwddyn, enwog am ei bysgod, ymysg bryniau a choed; gyda'r mynyddoedd yn ymgodi yn un pen iddo. Y mae'n edrych yn naturiol ddigon, er mai llyn gwneuthur ydyw. Gwelodd y bore ni'n rhuthro i Gaerloyw ar ein siwrnai adref, wedi syrthio'n drwm mewn cariad â Chymru. "YBarddCwsg" Am Chwecheiniog y mis hwn dethlir dau canmlwyddiant Elis Wynn o Lasynys. Mynnwch "Weledigaeth Cwrs y Byd" a gyhoeddir, gyda rhagymadrodd, am 6d. ymhlith "Llyfrau'r Ford Gron." Trwy unrhyw Lyfrwerthwr. HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM