Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ynys Syn Wastad yn Unig Gan Gwibdeithiwr PARHA Enlli'n ynys unig er nad yw ei neilltuaeth gymaint ag y bu yn y dyddiau gynt. Mynychir hi gan ymwclwyr j'in misoedd gwyliau haf, ond anaml y gwna neb fwy na gwib diwrnod o'r daith. Deallaf fod peth amheuaeth ynglŷn â dyddiad sefydlu'r abaty ar Enlli-yr oedd tua'r bumed neu'r chweched ganrif. Tebyg mai Cadfan Sant oedd y sefydlydd, er bod rhai'n crybwyll Lleudder Sant. Y tehyg yw mai i'r drefn Sistersaidd y perthynai. Darfu â bod tua'r 14 neu'r 15 ganrif. Darn o hen furddun o dŵr yn y fynwent yw'r cwbl sy'n aros heddiw o'r man fu'n ganolbwynt eglwysig llewyrchus. Dywedid bod tair pererindod gan y duwiolfrydig i Landâf, neu bump i Ynys EnUi yn cyfrif fel un pererindod i Rufain. Uwchben Craig-y-pwU ym Mhen Lleyn, yn union gogyfer â'r ynys, y mae olion sy'n awr bron wedi eu gwastatáu â'r ddaear o hen eglwys golegol Mair Sant, Ue mae sôn y byddai'r pererinion yn aros cyfle i forio'r Sownd, a lle hefyd y byddai cyrff seintiau ymadawedig yn gorffwys i aros eu halltud- iaeth i Ynys y Gladdedigaeth. Hen ffermydd Y mae ffermydd mawr a hen iawn ar y tir mawr, fel y Cwrt, ger Aberdaron. y Cyhoeddwyd y mis diwethaf LLYWODRAETH Y CESTYLL Gan W. AMBROSE BEBB, M.A. Gyda llu o ddarluniau. 240 td. Lliain, 2/9 ER mai i blant tua 12 neu 1 5 oed y bwriedir y llyfr, y mae o ddiddordeb i bawb, o bob oed, sy'n ymhyfrydu yn hanes Cymru. Parhad ydyw'r llyfr hwn o lyfr arall Mr. Bebb, Ein Hen Hen Hanes a gyhoeddwyd tua blwyddyn yn ô1. Fel yn hwnnw, adroddir yr hanes o gwmpas bywydau prif arwyr y cyfnod. AR WERTH GAN LYFRWERTHWYR YM MHOBMAN HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM preswyliwyd ynddynt ers canrifoedd. Defn- yddid y rhain gan bererinion i Enlli i letya dros nos ac i gael pryd neu ddau o fwyd. Y mae'r ffermydd hyn wedi eu gwahanu daith niwrnod oddi wrth ei gilydd. Yn dâl am eu lletygarwch i'r duwiolfrydig, fe ryddhawyd y ffermydd hyn o'u rhwymau i dalu degwm, ac y maent yn parhau yn rhydd o ddegwm hyd heddiw. Y mae twll fel rhyw chwarel fechan yn y creigiau yn ymyl eglwys Mair Sant ar ochr Lleyn o'r Sownd, ac y mae'r garreg wedi ei hafliwio. Priodolir hyn i'r ffaith mai yno y bu llosgi gwymon môr yn rhyw arwydd i drigolion yr abaty ar yr ynys. Ffynnon Fair O fewn ychydig lathenni i'r un man, y mae ceudwll yn y creigiau'n ffurfio cafn bach, lle ceir dŵr croyw, gloyw a chlir. Hon yw ffynnon gysegredig Mair Sant. Am nad yw ond ychydig droedfeddi uwchben pen-Uanw, bydd môr terfysglyd yn colli dros y ffynnon-—ond y mae'r dŵr yn hollol bur a chlir eto cyn gynted ag y bydd y tonnau wedi gostwng i'w gwastad arferol. Perthyna Ynys Enlli'n awr i Ystâd Glyn- llifon; dymunodd un Arglwydd Niwbwrch ei gladdu yno a chludwyd ef i'w orweddle olaf ar yr ynys dawel. Cofnodir y fan â chroes uchel. Ail yn unig i'r goleudy yw hi mewn amlygrwydd. Yn y dyddiau hyn pan yw pob rhyw fae bach ar ein harfordir yn cael ei ddargan- fod a phan yw lle i unigrwydd a myfyrdod yn anodd cael hyd iddo, fe geir y rhain yn Enlli. Hir y parhao. Parhad Ochr Draw'r Mini lloc­yn dywyll post. A phwy oedd ar 'i chefen hi, debygech chwi, wedi cael mwy o ofn na'r poni o'r ddau, ond Twm bach y Bigws, brawd Wil sy'n was gyda ni leni." "BE chwi'n siarad, w' meddai'r sgvl, gan gymryd ei anadl ato, wedi deall bod Twm ar dir y byw, 0 leiaf. Ie, 'wir, fel yna y bu hi," ebe Mr. Jones. Yco'r arhosodd e neithiwr wedyn, yn cysgu gyda Wil 'i frawd. 'Rown i'n digwydd dod y ffordd hyn heddi, i acsion Penlan, a fe welais gyfle net i ddod ag e'n ôl. 'Doedd dim byw na bod gydag e'r b|re 'ma, na chawsai fe aros yn ty ni yn was twt. 'Roedd gydag e bob esgus dros aros. Eisiau bod o help i'w fam yn benna, meddai ef. Er mwyn cael perswad arno rywfodd i ddod gyda fi heddi, fe addewais y cawsai ddod yco'n was bach y Calan Gaea, os byddai ei fam e'n fodlon." Fe glywyd y stori yna gyda'r gwr bynheddig o'r blaen, ynghylch helpu 'i fam," ebe Mr. Morgans, gyda phwyslais arbennig ar y gair olaf. DIGWYDDAI Moc yr Allt fod wedi cael caniatâd i fynd allan tua'r adeg y safodd y cerbyd o flaen yr ysgol. Wrth fynd yn ôl clywodd Moc chwibaniad a chyfarch tra chyfarwydd iddo. Dere yma, blew," meddai llais o gyfeiriad y ffordd. Trodd Moc ei ben. Ac o'r braidd y gallai gredu ei lygaid. Yno, mewn cerbyd tal, heb neb gydag ef-yn huganau ac yn glustogau i gyd, yr awenau mewn un llaw, a chwip hir goesfelen, fel gwialen bysgota, yn y llall--oedd Twm, yn ei got rib a'i facsau, fel arfer. Fel yr adroddai wedyn, bu bron i Moc 0^1 ffit. Dal ben y eel yma dipyn bach, 'nei di Moc bach," meddai Twm yn hy a chartrefol, fel pe na bai dim wedi digwydd. Cofia 'i ddal e'n sownd 'nawr, achos y mae e'n galonnog ofnadw'. Mae arna i eisiau gweld 'i bedol ôl bella draw e. 'Rwy'n ofni 'i bod hi'n dechrau shiglo." Ufuddhaodd Moc yn ddifeddwl hollol. Ond yr ail funud, wedi iddo orffen canmol y ceffyl ac edrych o'i gwmpas, 'doedd yno sôn am Twm yn unman. Ac erbyn i Mr. Jones a Mr. Morgans gyrraedd y fan, ni welent ond Moc yr Allt a'r ceffyl. Yr oedd Twm o leiaf, dri lled cae i ffwrdd, ac yn ei gwâu hi fel y cadno am y Bigws a'r mynydd. Y NOSON honno, wrth hwylio i mewn yn ei gerbyd i'r clos, canfu Mr. Jones Twm rhwng dwy fraich whilber gryn dipyn mwy o faint nag ef ei hun. Yr oedd mewn dygn ymdrech i'w gwthio i fyny a'r hyd plencyn llithrig i ben y domen-a'i dafod allan wrth gwrs. Gyda'i lygad craff, gwelodd y Cynghorwr Sir ar unwaith ddefnydd dyn yno. Ac yn y wlad bell honno, yn ôl a glywais i, y mae Twm hyd y dydd heddiw- yn un o Wir Ochor Draw'r Mini.