Blegywryd y Bachgen Delynor Hanes bachgen a gan- oed; a gyfeiliai mewn a gyhoeddodd lvfr o NID yn aml y bydd un yn ysgrifennu hanes un o'r un enw ag yntau, fel y mae ar hyn o bryd. Nid oes dim perthynas deuluaidd rhyngom, ond yn unig fod gennyf ddiddordeb yn y delyn a'i chanwyr a datgeiniad. A dyma hanes un o fechgyn mwyaf nodedig a thalentog Cymru. Ganwyd y bachgen Joseph Hughes yn y Bala tua 1828, yn fab hynaf o dri i grydd. Byddai ef a'i frodyr yn mynd o gwmpas y wlad i roi cyngherddau, ac yn ôl hanes yr oedd galw mawr amdanynt. Dywedir ei fod yn gallu canu telyn yn bump oed, ag wedi cymryd rhan mewn cyngherddau yn yr un oed. Ei frawd o ddyfeisydd. Y mae ei lyfr British Melodies, a gy- hoeddwyd yn 1839, yn waith pur feistrolgar a chofio mai rhyw 11 oed ydoedd ar y pryd yn y llyfr prin hwn y ceir yr alaw ddatgan- iadol Glan Brân am y tro cyntaf. Telyn bedawl a arferai ganu, a gwelais delyn, a fu'n eiddo iddo, gan y diweddar Capt. Ivor W. Williams, Bron Wylfa, Llan- dderfel, Meirion. Telyn symudiad dwbl o wneuthuriad Dodd, Llundain, oedd. Dyma a ddywedai Y Gwladgarwr, Cyfrol III, 1835, td. 337 TELYNORIAETH Mae y telynor bachgen- naidd Master Hughes, priodor o'r Bala, wedi bod yn chwareu ei geinion geinciau yn ddi- weddar ger bron cyfarfodydd lliosog yn Nghaerlleon a Manceinion ac wedi rhoi boddhâd ac wedi enill canmoliaeth cyffredinol y rhai oll ai clywsant. Yr oedd Joseph yn frawd i'r enwog Athro David E. Hughes, a ddyfeisiodd y printing telegraph a'r microffôn sydd heddiw'n un o brif offer y radio. Camp fawr. Yn Eisteddfod Llanerch-y-medd, Môn, Ue'r oedd yn delynor llogedig, ym Mehefin, 1835, y cafodd yr enw Blegywryd ap Seisyllt. Fe'i hadnabyddid hefyd fel The Cambrian Infant Harpist." Dyma a ddywed Y Gwlad- garwr eto amdano, Cyfrol III, td. 201, 1835 EISTEDDFOD LLANERCH-Y-MEDD Yr oedd y cynhulliad yn fawr, ac achlysurid hyn yn neullduol drwy wyddfod gorchestol y telynor bachgenaidd Master Hughes, a barai ddifyrwch nid bychan i'r cyfarfod. Y bachgen hwn a aned yn y Bala ac sydd yn awr yn saith mlwydd a hanner oed, a chymaint yw ei athrylith mewn peroriaeth nes ennill sylw y Teulu Brenhinol a llawer o brif fonedd y deyrnas. Y mae wedi bod eisoes dryw ddeheudir Cymru ac yn yr Iwerddon, ac yn awr yn Jien bortreiad print o Joseph Hughes {Blegywryd ap Seisyüt) a ymddangosodd ar wyneb ddalen ei gasgíiad o alawon. Gаn Joseph HUGHES ymweled à phrif drefi Gwynedd, gan dderbyn cymeradwyaeth anarferol yn mhob man. John Williams (Eos Món), oedd yn fudd- ugol am ddatganu gyda'r tannau yn yr eisteddfod hon gwelir felly mai camp go fawr oedd i un saith oed ganu'r delyn i gystadleuaeth felly. Yr Eos Fwyn A R ôl i'r haul fachludo Draw dros y gorwell pell, Â'r adar mân i glwydo A chysgu yn eu cell,- Daw'r eos fwyn i ganu, I ganu yn y nos. Pan daena'r hwyr ei gysgod Dros aeliau bryn a phant, Pob dwndwr wedi darfod- Dim sŵn ond sŵn y nant,- Daw'r eos fwyn i ganu, I ganu yn y nos. Ar ôl i'r fronfraith beidio A'i thelor yn y coed, Daw'r eos fwyn i byncio Mor felys ac erioed Gwell ganddi hi yw canu, Yw canu yn y nos. ai r delyn yn bump eisteddfod yn saith alawon yn 11 oed Trefnodd yr alawon yn ei lyfr ac ysgrif- ennu amrywiadau iddynt; fe gyfansoddodd hefyd gerddoriaeth ei hunan, fel y gwelir oddi wrth wyneb-ddalen ei lyfr The Celebrated Welch Air Ar hyd y nos, with variations for the Harp, to which is added The Tuvenile Bard's Dream, composed and arranged by Master Hughes. Aeth y teulu i'r America a buont am tua blwyddyn yn rhoi cyngherddau yn y wlad honno. Ond er galar i'w deulu daeth ei ddiwedd yn dra sydyn drwy foddi tua 1840-41. Englynion iddo. Bu'r beirdd yn Eisteddfod Llanerch-y- medd yn canu ei glodydd mewn englynion, ac fe roddwyd dwy wobr am y chwe englyn gorau iddo. Dyma dri ohonynt Gwlad Walia, gwêl y delyn-mor wyched Yw, yn mreichiau plentyn Blegywryd yw'r blaguryn, Sŵn ei dant wna synnu dyn. Delynor bach adlona'r byd-o'i gwr Mal rhyw gerub tanllyd Pwysi i ddawn gampus a ddyd, Blu i goron Blegywryd. Campwyr y gerdd sy'n cwympo-ger ei fron; Gwyr o fri'n c'wilyddio Goreuon, prifion pob bro Rhoddant y gorau iddo. Pan fo y byd yn dawel A distaw fel y bedd; A'r lleuad yn goreuro Yr wybren ar ei sedd,- Daw'r eos fwyn i ganu, I ganu yn y nos. Nes tyr y wawr oleuwen I wenu ar y byd Nes deffry ar y goeden Bob 'deryn oedd yn fud,- Yr eos ddeil i ganu, I ganu yn y nos. Penglais Road, HENRY OWEN. Aberystwyth. Llwydd O ddedwydd ddedwydd awdur-am weled Canmoliaeth i'w lafur: Dyna waith wedi 'i wneuthur Diben gaed i'w boen a'i gur. BODFAN.