Mintai Werdd Hen Golwyn Gan Enid M. Davies Y MAE mintai werdd o blant yn dringo i fyny'r llwybr serth i Barc Eirias, yn Hen Golwyn, Sir Ddinbych, a'u baneri lliwgar yn chwifio yn yr awel dyner. Ar dop y pare, wele'r plant yn mynd i mewn i babell, a chael eu harwain i'w lle. Edrych llawer ohonynt yn falch o gael eistedd i lawr wedi cerdded taith bell. Y mae swn siffrwd y rhai bach i'w glywed lond y lle, a swn pecynnau bwyd yn cael eu hagor. Fel y mwynheir y brechdanau enllyn gan y rhai na chawsant gyfle i fynd am damaid cyn dyfod i'r babell! Rhaid aros tipyn cyn i'r orymdaith ddyfod i mewn i gyd. DACW'R arweinydd ar ei draed yn galw ar bawb i sefyll i ganu Calon Lân." Ceir canu nas anghofir yn fuan gan yr wythmil sydd yno. Syndod mawr yw gweld cystal trefn mewn lle â chynifer o blant ynddo, ond y mae popeth yn mynd ymlaen yn hwylus. Y mae'r gwr sy'n annerch yn awr yn cymhwyso'r hen stori am lencyn o fugail o'r Bala yn canu'r gloch yn ogof Arthur, ac Arthur yn dweud ei bod yn rhy fuan i ddeffro yr adeg honno. Ond wrth edrych o gongl i gongl i'r babell, a gweld Uiwiau gwyrdd a choch y plant, nid oes llawer o amheuaeth yn aros yn ein meddwl fod Cymru wedi deffro. Derbyn y siaradwr nesaf groeso tywysog- aidd gan ei ddilynwyr pan gyfyd ar ei draed ac yn sicr fe gaiff yntau fwynhad trwyadl wrth glywed y miloedd yn addun- edu, Byddaf bur i'r Iaith Gymraeg." AWN o amgylch cae'r babell yn ham- ddenol. Syn yw clywed cymaint o dafodiaith swynol y de o'n cwmpas,-cyr- haeddodd mil heddiw, wedi teithio drwy'r nos. Dacw dwr yn eistedd â'u cefnau ar y babell, yn mwynhau pryd o fwyd ac yn clywed y gerddorfa yn cystadlu yn y babell. Ar ganol clwt glas y fan draw gwelwn gylch o blant, a rhai hyn na phlant, yn bwyta, a gwydr o lemwnâd yn llaw pob un. Dau berson prysur iawn yw dynion y cerbydau hufen rhew. Y mae parti o blant Pabell Len Castell Nedd Gan J. Rees Jones Y MAE'R Pabell Len yn yr Eisteddfod Genedlaethol, i ryw bobl, yn sefyll fel coffâd blynyddol o Bebyll Llên Gwerin Cymru-Siop y Crydd, Siop y Teiliwr, a Gefail y Gof. Awgryma rhestr testunau Castell Nedd mai Gefail y Gof fydd y cefndir eleni, ac yn yr efail hon fe osodir tua chwe chant a hanner o gyfansoddiadau ar yr eingion ac o dan yr ordd. CRWYS yw meistr yr EfaU," a cheir gweld yr Archdderwydd yno'n gosod ei bwys yn drwm ar Y Pentan." 0 amgylch yr eingion, bydd Ifor Williams yn gwasgar gwreichion fnamgochion gant" o'r pum mil o gwpledau cywydd a ddaeth i'w law. Wrth y ffenestr gwelir Wil Ifan a Ben Davies yn syllu ar ddeugain Uiw'r Gorwel," a Gwynn Jones, a chwinc ddireidus yn ei lygad, yn edrych dros eu hysgwyddau ac yn canfod gogoniant Y Tir Pell tu hwnt. Mewn congl gerllaw, gwelir Simor mor sobor â sant yn saernîo'i Ddarluniau cain, a Robert Beynon yn dal y Memrwn." DAW'R cwmni i mewn bob yn un, neu, yn ôl arfer y Cymry, bob yn dri, gan ddechrau gydag Elen Evans, Casi Davies, a Magdalen Morgan, yn dwyn gemau'r plant. Ar eu hôl daw Fred Jones o fynydd-dir Pumlumon, a hanes llawer Diwrnod Cneifio a llawer parodi ddoniol ar gampweithiau'r beirdd. Ond cyn iddo gael ei anadl, gwelir J.J. yn rhuthro â ffrwd o Helynt yr Haliers yn edrych am waith. fu'n cystadlu ar ddawns wedi ei gwneud hi'n syth am un o'r cerbydau, ond y mae'n rhaid i bawb sydd eisiau rhywbeth i oeri ei dafod aros nes i'r rhes oedd o'i flaen gael eu tro. Anodd iawn fydd cael diwrnod mwy difyr na'r dydd Sadwrn hwn, a theimlaf yn galonnog iawn yn troi fy nghefn, fin nos, ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 1934. Bydd Ifor Wuhams, a f u n gwibio o bentref i bentref yn Nyffrynnoedd Nedd a Dulais yn croesawu dau bererin arall- Lewis Dafydd o'i daith o gastell i gastell, ac R. T. Jenkins o'i daith drwy dde Cymru. YNG nghanol y croeso, daw pererin o Flaenau Ffestiniog-Elis Williams-i hawlio sylw trwy weiddi Dewin pob Diog," ac nid oes neb a rydd daw arno ond Stephen Williams, a Uais croch Highwayman yn gweiddi Heddwch." Wedi cael tawelwch, daw'r Doctor Tom Jones i ddweud l od ganddo ef "Gynllun i osod pob diog mewn gwaith buddiol" a dysgu pawb i fod yn ddisgyblion i Robert Owen." Yn ei sgil daw tri wŷr doeth- Tom Richards, a ŵyr gyfrinion Tair Cenhedlaeth Ifano, a wyr fanylion pob Eisteddfod Genedlaethol oddi ar 1880, a Lloyd Jones o Ddulyn, a wyr bopeth am Gymro'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg." A'R hwyl wedi codi, ar awr anterth pedwerydd dydd yr Eisteddfod, daw Job a sefyll yn y drws a gweiddi, Wel, a dyma beth yw Cwch Gwenyn." O weld Job, tery Crwys yr eingion â'i forthwyl am osteg. Ymsytha, cwyd ei fraich dde a'r morthwyl ynddi, yn null Iwl Cesar, a bloeddio, Gwelais, ceisiais, cefais." A Job, gyda hyn, a amneidia ar Gwynn Jones a J.J. i arwain y fintai fawr i Ogof Arthur." Hon yw gorymdaith yr wythnos, a phawb yn hyderu y ceir eleni fardd yn ddigon beiddgar i ganu cloch yr ogof i ddeffro Arthur a'i Farchogion at eu gwaith o arwain yr hen genedl eto i fuddugoliaeth.