CYFROL III. RHIF 12. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. Teliffôn: Wrecsam 622. London Agency: Thanet House, 231-2 Strand. PARCH AT FFUG DYWEDODD beirniad diweddar fod Cymru heddiw yn degree mad." ac y mae eisiau vs- tyried pa faint o wir sydd yn y cyhuddiad, oherwydd cy- huddiad lled ddifrifol ydyw. Un o gas bethau'r hen Gymry syber ydoedd enw o rywbeth heb sylwedd ynddo. ac yr ydym ninnau'n crwydro ymhell oddi ar linell naturiol datblygiad Cymreig os rhown fwy o werth ar lyth- rennau gradd nag ar wir ddiwylliant. Y mae lle i ofni bod egni twf y gyfun- drefn addysg ei hun wedi helpu i greu'r camsyniad, sef bod rhinwedd mewn gradd ynddi ei hun ac mewn unrhyw anrhydedd addysgol. Gwir bod gan blant yn dechrau cropian Ie i ymfalchïo, a'u rhieni edmygus gyda hwynt, ond y mae amser a lle i blentyn- rwydd. Y drwg yng Nghymru ydyw bod awdurdodau addysg ac athrawon wedi myned i fesur gwerth a phwysig- rwydd ysgol elfennol, ysgol sir, a choleg yn ôl rhifedi tystysgrifau, ysgoloriaethau. a graddau. Hawdd iawn wedyn i blant ac efrydwyr a'u rhieni fyned i deimlo ac i gredu mai cael yr anrhydedd a'r radd yw'r peth mawr, ac mai breuddwyd delfrydwyr yn unig ydyw fod a wnelo gwir addysg â choethi meddwl, deffro dychymyg, a chryfhau barn ar gyfer bywyd llawnach a godidocach. Cysylltir y dystysgrif a'r radd yn rhy gyffredin o lawer â gobaith am job neu swydd. Yn y pen arall i'r llinyn, y mae llawn cymaint o fai ar gyflogwyr a meistri yn edrych ar y matriculation a'r B.A." fel nodau cysegredig, pryd y gwyddant-ac y cyffesant gan amlaf- nad oes a wnelont ddim ohonynt eu hunain ag addasrwydd eu perchnogion at y swyddi a geisiant. Y mae'r agwedd hon at addysg yn nodweddiadol o'r parch at ffug sydd yn hynodi'r amser presennol yng Nghymru. Peth gwneud," artificial ydyw, ac fe ddaw'r bywyd sy'n seiliedig arno yn gandryll am ein pennau rvw ddiwrnod. Ffordd Heddwch. BETH yw agwedd cefnogwyr Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd i fod, yn wyneb yr amlygiadau diwethaf o feddwl a chalon yr Almaen dan Hitler ? Flwyddyn ncu lai yn ôl yr oedd yn hawdd dadlau niai ystyfnigrwydd Ffrainc oedd y rhwystr mwyaf ar ffordd diarfogi cyffredinol. Heddiw y mae'r farn ryddfrydig yn ogystal a'r hen ofnau ceidwadol yn yr ynys hon wedi troi'n chwap yn erbyn y syniad o roddi'r Almaen ar yr un tir â gwledydd eraill a gadael iddi ail-arfogi. Rheolaeth ac nid diarfogaeth ydyw'r nod bellach, ac nid yw Ffrainc ar ei phen ei hun mwyach wrth osod sicrwydd diog- elwch yn brif angen Ewrob. Caled yw ffordd heddychwyr. Y mae rhyw elfen fradwrus yn y natur ddynol yn codi rhwystrau'n barhaus. Y mae cysur i'w gael ambell waith o allu beio rhywbeth amgyffredadwy fel cynllwyn gwneuthurwyr arfau, ystryw gwleidyddion, difaterwch gwerin. Ond ni waeth beio'r glaw am wlychu na cheisio bai lle mae cenedl gyfan, gref, fel yr Almaen, fel pe bai wedi meddwi unwaith eto ar y syniad o ryfel fel moddion hunan-fynegiant. Nid ymadrodd gwag ydyw ymgysegru i ryfel ym mryd dilyn- wyr Hitler. Dysgir y plant mai i ryfela y daethant i'r byd. Bod yn famau i ryfelwyr yw unig amcan bywyd merched. Diolcliir yn yr addoldai am y wybodaeth-oddi isod, os oes rhywbeth felly — am poison-gas. Duw rhyfel yw'r unig dduw. Pan syrth gwlad wâr, alluog, yn ôl i farbareiddiwch meddwl a chalon, i gyflwr sy'n perthyn yn nes î gyfnod teyrnasiad y bwystfil nag i ddyheadau a delfrydau'r ugeinfed ganrif, y mae'n rhaid wrth bwyll ac amynedd lawer, ond rhaid bod yn wyhad- wrus. Crysau Cymru. DYMA oes y crysan. Wrth eu crysau yr adnabyddwch hwynt—crysau duon y Ffasgiaid yn yr Eidal, crysau cochddu cenawon Hitler vn yr Almaen, crysau gleision y blaid newydd yn Iwerddon sy'n gwrthwynebu Mr. De Yalera. Eithr onid o Gymru yr hannodd y syniad— onid crysau gwynion a wisgai Teulu Rebecca gan mlynedd yn ôl wrth fwrw i lawr lid- iardau'r doll ar y ffyrdd tyrpec ? Hyd yn hyn, fodd bynnag, ni fentrodd neb yng Nghymru, hyd y gwyddys, arddel ei gred boliticaidd yn Hiw ei grys. Nid â Sosialydd y meysydd glo ymhellach na gwisgo tei coch sy'n arwydd y chwyldro sydd i ddyfod. Y mae Rhyddfrydwyr a Thoriaid heddiw cyn debyced eu gwisg ag ydyw eu golygiadau gwleidyddol, a gellir newid côt heb i neb sylwi fod gwahan- iaeth. Collodd v Blaid Genedlaethol" gyfle ardderchog yr haf tesog a basiodd i dcyfod allan mewn crysau o liw pendant, argyhoeddiadol. Y mae'r oes yn gofyn am grys lliẃgar â her ynddo. Y Sychter. NI bu sychder nodedig yr haf a basiodd yn gwbl ddi-les os dug i feddwl ambell un yma ac acw y syniad ei bod yn wrthun fod neb heb ddŵr o ddiffyg cronni digon pan fo digon i'w gael. Y mae'r syniad yn werth ei gadw a meddwl uwch ei ben. Y mae'n ddigon posibl ein bod ar ddechrau cylch o liafau teg a sych fel a gafwyd o'r blaen. Cofia llawer sy'n fyw am gyfnodau o sychder llawer hynotach na'r un a gafwyd eleni. Nid yw'n rhy gynnar i ystyried a yw'n bosibl osgoi'r cyfyngder a deimlwyd mewn llawer ardal yng Nghymru y misoedd diwethaf. Bu Lerpwl a Birmingham yn ddigon di-esgeulus i edrych ymlaen a'u diogelu eu hunain rhag cyfryw gyfyngder—ar draul Cymru. Yn y dyddiau pan oedd rhinwedd yn hen reol, Pawb drosto'i hun y bu hynny. Heddiw y mae syniadau yn eangach. Os cronni, cronni er mantais pawb. Ac nid trwy edrych ar у cwestiwn o safle pistyll y pentref a gofalu ein bod ni 'n ddiogel y ceir y weledigaeth. Bydd angen i ardaloedd, siroedd, efallai daleithiau cyfain, gyd-ymgynghori a phen- derfynu ar gynlluniau i gasglu'r dwfr a'i gronni fel na bo rhy nac eisiau ar neb. Ffurfio Bwrdd Dwfr i Gymru fuasai'r ffordd hwylusaf, a gweithio oddi yno i lawr, ond mae rhwystrau gwleidyddol lawer ar ffordd gweithredu felly. Fe symbylid diddordeb yn y pwnc ped ymaflai ein peirianwyr a'n gwŷr hyddysg eraill o Gymry ifainc yn y broblem a gwmeuthur cynlluniau ymarferol. Tybed na allem ni wneud y gwaith mawr hwn ein hunain heb gynhorthwy nac arweiniad neb o'r tu allan ?