Ceiriog, Bardd heb ei Debyg Dau fath o feirdd sydd—Ceiriog ac eraill," meddai Mr. Williams Parry, ac y maen anghytuno a barn Mr. Saunders Lewis amdano. Traddodwyd y sgwrs hon ar y radio y noson cyn dydd canmlwyddiant Ceiriog, a chyhoedd- ir hi yma gyda chydsyniad y B.B.C. I Y MAE can mlynedd er pan aned Ceiriog 0 leiaf fe fydd yfory. Nid dydd Sul oedd dydd ei eni ychwaith. Buasai hynny'n anghyson â thragywydd weddustra pethau. Ceiriog yw bardd hoffusaf cenedl y Cymry. Nid ei bardd mwyaf, bid siwr, hyd yn oed yn ei ganrif ei hun. Islwyn oedd ymennydd awenyddol mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru Islwyn, y methiant mwyaf ysblennydd yn hanes ein llên. Aeth Ceiriog yn enwog yn gynnar ar ei oes ac yr oedd ar uchaf ei fri pan fu farw bum mlynedd a deugain yn ôl. Ond bu newid dwy ganrif yn newid dau fyd ar feirdd ac ar goffadwriaeth beirdd yng Nghymru yn newid creulon chwyldro llwyr yn syniadau pobl am fethod a mater llenyddiaeth. Fel pawb o feirdd y ganrif o'r blaen, collodd yntau lawer o'i ogoniant cyfoes. Bellach, daeth yr adwaith a ddaw'n ddiogel i'r gwrthodedig a'i haedda. Cafodd Ceiriog eilwaith Ie yn yr haul ond nid ei hen Ie. Er hynny, nid oes fardd dysgedig o'n dydd- iau ni na hoffai weld ei enw wrth gerddi gorau Ceiriog. Gormod teimlad. B3th a rydd gyfrif am ei fri hen a newydd ? Atebwyd y cwestiwn ganwaith. Enwyd gwresogrwydd cymdogol ei awen mwyn- eidd-dra mawr ei lawenydd mynych a'i ddwyster ysbsidiol ei wlatgarwch cysurus a'i frawdgarwch dwfn ei fydryddiaeth esmwyth ei ddigon i bawb a'i ddogn i'r ychydig. Yna, gyda gwedd a goslef hanner-ymddi- heurol, sonnid am ddiffygion amlwg ei gelfyddyd—ei orgraff racslyd, ei gystrawen fratiog, ei briod-ddull amhur a'i chwaeth ansicr—ond maddeuid y rhain i gyd iddo oherwydd ei galon gynnes fawr. Erbyn hyn, gwyddom mai ei galon a yrrodd Geiriog ballaf ar gyfeiliorn ei ormod teimlad yn fwy na'i ddiffyg celfyddyd. Dim ond canu. Adweinir y beirdd o bell beirdd y delyneg. Adweinir hwn wrth dinc ogleisiol ei acen weriniidd; hwn wrth ei ysbryd rhywiog a'i fynych gonsêt hwn wrth lyfnder unsillafog ei iaith hwn wrth ei hiraeth teyrnaidd a'i odlau dwbwl; hwn wrth safle'i ansoddair ac ymchwydd llesmeiriol ei linell hwn wrth ryfeddod ei ferfau a gwead clos ei feddwl ymwthiol hwn wrth ei ias o dristwch a'i hwrdd o gynghanedd. Y mae'n wir fod yng nghanu Ceiriog, yntau, enghreifftiau o bron bob un o'r priod- oleddau hyn ond nid oes un ohonynt sydd Gan R. Williams Parry yn gynneddf arno, yn arbenigrwydd. Nid bardd y werin yw Ceiriog. na bardd y dos- barth canol ychwaith, ond bardd y genedl gyfan. Ni chais ein synnu â'i ddyfais na'n goglais â'i ffansi. Ni chais lyfnder ymadrodd, canys llyfnhâi wrth reddf. Ni chais odlau dwbwl mwy na rhyw odlau eraill. Ni chais ddoethineb, ni chais ddeall. Ni chais wneud dim dim ond canu. 0 holl feirdd mawr Cymru, ag eithrio Pantycelyn, Ceiriog yw'r lleiaf cyfrwys ac ystrywgar ei feddwl y mwyaf di-ystum a diymwybod ei ddull. Rhigymwr ai rhyfeddod ? Dyna honni, felly, nad oes i Geiriog nac arddull na chelfyddyd ymwybodol (os yw'n weddus gwahaniaethu rhwng y rhain), fel petaem yn sôn am rigymwr noeth. Oher- wydd dyna yw rhigwm, cynnyrch di-fywyd, di-nodwedd, dyn heb ddysgu hyd yn oed driciau'r gelfyddyd. heb sôn am ei grasusau. Ond y mae ochr arall iddi. Nid anodd fai profi, drwy liaws o enghreifftiau hen a diweddar, mai rhyw ogoniant noeth di- addurn, rhyw foelni disgleirwyn crand wedi dianc o afael celfyddyd, ac o gaethiwed arddull, fel cledd o'r wain, yw eithaf pryd- ferthwch barddoniaeth. Ai rhigymwr ai rhyfeddod oedd Ceiriog ? Y mae'n brofedigaeth ateb yn ffraeth mai'r ddau. Ond hyd yn oed ar ei druanaf y mae Ceiriog yn fwy na rhigymwr, canys nid yw byth yn ddi-fywyd. Taflai ei awen, o bryd i'w gilydd, greadigaethau rhyfedd pethau afluniaidd, amhrydferth, amhosibl pethau marwol iawn, ond nid pethau marw. Ar ei orau, pwy a ddring i'w uchelder ? Aros mae'r mynyddau mawr. Rhuo trostynt mae y gwynt Clywir eto gyda'r wawr Gân bugeiliaid megis cynt. Eto tyf y llygad dydd 0 gylch traed y graig a bryn Ond bugeiliaid newydd sydd Ar yr hen fynyddoedd hyn. Pa ôl pa ragflaenydd a welir ar lesni di- sêr y pennill hwn sydd mor foel â rhigwm, mor anhygyrch â'r ffurfafen ? Nid efelycha Ceiriog, ac nid efelychir yntau. Pan ystyrir cyfanswm mawr ei waith, ei chwe chant o ganeuon o bob math, nid yw dylanwad Tom Moore a Robert Burns arno ond dibwys. 0 feirdd ein hoes ni, y tebycaf iddo yw Crwys ac nid yw Crwys yn debyg iddo. Alun a Thalhaiarn. Ni raid hysbysu'r cyfarwydd yn ein bardd- oniaeth mai â'r telynegwyr diweddar y cymherais ac y cyferbyniais Geiriog hyd yma. Ymhle y saif ymysg telynegwyr yr hen ganrif? Pwy oeddynt ? Alun oedd y cyntaf bardd coethach a glanach na Cheiriog tlysach a chynilach. Ond beth amdano Nid oes i'w gân hoen dragywydd cân Ceiriog. Am y clawdd â gardd fach dwt y naill mae perllan aflêr a ffrwythlon y llall. Beth am yr ail—Talhaiarn ? Gyda phob dyledus barch i farn yr Athrawon Gwynn Jones a Glyn Davies amdano-y ddau fardd mawr hysbys ac anhysbys hynny—ni welais i erioed fawredd ynddo. Fe wnâi ei orau, ar ôl Eisteddfod Llangollen, i gydymgais â Cheiriog am glust y genedl ac yr oedd arno lawer o'r hyn a ystyrid gynt—­a ystyrir eto, o ran hynny—yn nodau athrylith farddonol. Fe fyrlymai o asbri, fe ymfflamychai'n aruthr, fe ddywedai bethau byw a tharawiadol ond ni fedrodd gyrraedd awyr denau eglur y farddoniaeth uchaf yn ei ganeuon. Y mae'n enghraifft deg o'r hyn a all nwyf ac ynni mewn barddoniaeth, ac o'r hyn ni allant. Mynyddog-a mwy. Mynyddog oedd y trydydd awdwr 0 fel mae'n dda gen i 'nghartref a Gwnewch bopeth yn Gymraeg." Ysbeil- ier Ceiriog o'i ganeuon gorau, ac ni byddai'n wrthun gweld tebygrwydd rhyngddo â Mynyddog. P'run o'r ddau biau'r gân hon ? Jlae can yn llond yr awel twyn Sy'n ysgwyd gwynt y borau, A holl gerddorion man y llwyn I gyd yn ffurfio'n gorau Mae teg amrantau'r wawrddydd dlos Yn agor yn swn canu A chanu wedyn gyda'r nos Yn suo'r byd í gysgu. Dyna Fynyddog ar ei orau a gallasai fod yn Geiriog ar ei ail-orau. Ond yr ychydig