ATHEN A CHYMRU-o dudalen 76. Un ffordd i osgoi gorbrisio golud ydyw ymddiddori mewn gwerthoedd ysbrydol, ac y mae'r Atheniad yn batrwm i'r byd yn hyn o beth. Rhoddes groeso a pharch i grefftwyr ac i lunwyr y pethau cain. Yr oedd bri yn Athen ar waith y bardd a'r dramâydd, yr arlunydd, y cerflunydd a'r pensaer. Gwnaed ymdrech fawr i addunio'r ddinas a'i gwneud yn destun gorfoledd i'w thrigolion. Tywysogion y meddwl. Yr oedd croeso hefyd yn Athen i dywysog- ion y meddwl, hyd yn oed os byddent yn estroniaid i'r ddinas. O'r diddordeb hwn ym mhethau'r meddw] y tyfodd y traddodiad athronyddol i gymaint disgleirdeb yng ngwlad Groeg. Bvdd enwau Socrates, Plato ac Aristoteles yn glodfawr hyd ddiwedd amser, ac yr oedd y cyntaf ohonynt yn perthyn i oes Pericles. Caf- odd lawer o ieuenctid y ddinas i wrando arno cyn ei ddedfrydu i farwolaeth gan flaenoriaid ofnus y ddinas wedi dyfod y dyddiau blin. Os bydd cenedl yn gwerthfawrogi'r gwerthoedd amhrisiadwy, ni bydd cymaint perygl iddi orbrisio golud ariannol. Y mae masnach wedi dod yn rhan mor bwysig o'n bywyd ni ag i'n gosod ni'n agored i fwy o demtasiwn yn y cyfeiriad hwn nag a wynebai gwýr Athen. Un o'n peryglon ni yng Nghymru yw troi'r celfau cain yn gyfrwng marsiandïaeth. Cynhelii eistedd- fodau, cyngherddau a chystadleuaeth rhwng cwmnïoedd drama gyda'r amcan o wneud elw ariannol. Eglur ydyw bod perygl yn hvn i osod ystyriaethau ariannol o flaen safonau esthetig, a'r canlyniad. maes o law, fydd dirywiad yn ein serch tuag at y pethau cain. Rhaid caru'r rhain er eu mwyn eu hunain, a dyna a wnai'r Atheniad, er mawr glod iddo. Rhydd a chydradd. Dau ddelfryd mawr sylfaenol y ddinas oedd rhyddid a chydraddoldeb. Teimlid bod y ddau hyn yn perthyn yn agos i'w gilydd, a'u bod ill dau'n hanfodol i fywyd gwerinol yng ngwir ystyr y gair. Y mae'r argyhoeddiad hwn yn mynd ar gynnydd yn ein dyddiau ni, yn enwedig yn y cylch economig. Y mae llawer o alw am gydweithrediad yn y cylch hwnnw o bryd i'w gilydd, ond a ellir cael cydweithrediad calonnog heb gyd- raddoldeb ? Dyna ofyniad na ddylid mo'i ateb yn rhy fyrbwyll. Y mae rhai pobl yn tybied eu bod yn dirymu'r cais am gyd- raddoldeb trwy alw sylw at y gwahaniaeth amlwg mewn doniau cynhenid sydd rhwng dynion a'i gilydd. Gwahaniaeth wedi ei sylfaenu ar natur yn hytraeh nag ar fympwy cymdeithasol ydyw hwn, ac oblegid hynny y mae'n rhaid inni ei gydnabod. Digon gwir, ond pa fath ar gydnabyddiaeth a ddylid ei roddi iddo ? Gellir ei gydnabod trwy addef ei fodolaeth, a geUir ei gydnabod trwy roddi ffafr arbennig iddo, ond nid yr un peth ydyw'r ddau hyn. A ellir yn gyfiawn sylfaenu gwahaniaeth gradd a dosbarth ar wahaniaeth mewn gaUu a chynneddf ? A eUir galw trefn o'r fath yn drefn werinol ? A ellir cael rhyddid gwir- ioneddol i bawb Ue bo mantais arbennig gan rai ? Dyma rai o'r cwestiynau a awgrymir wrth ystyried delfrydau gwleid- yddol Athen, ac y maent yn gwestiynau y dylai pleidwyr gweriniaeth dalu sylw iddynt yn ein dyddiau ni. YR YNYS DAWEL. YR ynys dawelaf Ond un ydyw hi, A gwn fod ei glannau Ymhell dros y Ui. Liw nos, pan fo'r wybren Dan fentyll yr hud, Daw cyfaill i'm rhwyfo I'r ynys fach glyd. A chaf ar y fordaith Hyd feysydd y don, Yr hedd a dawela Holl ofnau fy mron. A chordial dihafal I'm gwella yn llwyr, A gaf yn yr ynys Yng nghysgod yr hwyr. Ac yno y tariaf Nes delo yr awr I ganu o'r clychau Ar doriad y wawr. J. RHOSYDD WILLIAMS. Rh()sllalU rchrugog. Yr ydym ni'r Cymry yn arfer ymffrostio bod i ni draddodiad gwerinol, ond y mae lIe i amau a ydyw'r ymdeimlad a'r argyhoeddiad gwerinol cyn gryfed erbyn hyn ag y buont. Tybed a ydyw'r datblygiadau masnacholyn y cyfnod diweddar wedi creu rhaniadau yn ein bywyd sy'n milwrio yn erbyn y teimlad cymdogol a'r math hwmiw o gydraddoldeb sy'n hanfodol i weriniaeth iach ? A ddylid ac a ellir gwerinoli masnach ei hun ? A ddylid gwerinoh'r trefniadau cyd- wladol sy'n cysyUtu'r gwledydd a'i gilydd Neu a oes raid inni fynd yn ôl drachefn at ryw fath ar unbennaeth, megis y gwnaeth rhai gwledydd yn Ewrop oblegid nad ydyw'r drefn werinol yn abl i gwrdd â gofynion enfawr ein dyddiau ni ? I'r sylfeini. Cwestiynau cyffrous fel y rhain sy'n ymgodi i flino meddwl ein cyfnod ni, ac y mae'n werth chwilio am atebion iddynt. Bydd rhaid i bawb ohonom,-a gorau po cyntaf y gwnawd hynny,-gloddio i lawr at sylfeini ein ffydd a'n gobaith, fel y gwypom a ydynt yn ddigon cadarn i'n cynnal ni a'r gymdeithas yr ydym yn aelodau ohoni. Y mae un peth yn weddol eglur hyd y gwelaf i. Os ydyw'r drefn werinol yn rhyw- beth o werth parhaus, yna bydd rhaid inni, a hynny ar fyrder, ei diogelu trwy ei gwneud yn fwy gwerinol nag y bu hyd yma. Onid e, daw rhyw ffurf ar unbennaeth i gymryd ei lie, a cheir gweled wedyn a ydyw'r dyhead a'r delfryd gwerinol yn rhywbeth y gellir ei ladd neu ei luddias dros byth. Traddodiad Cymru. Un gair eto am Gymru cyn gorffen. A ellir unoli a chyfanu ein bywyd cymdeithasol rhanedig ac anniddig fel y bo gennym ninnau lawenydd ac ymffrost fel y gwclsom fod gan yr Atheniad gynt ? Y mae hynny o draddodiad sefydlog a fu gennym gynt yn prysur ddifiannu, ac ar hyn o bryd yr ydym yn wlad heb gymeriad eglur a phendant, heb nod amlwg a chyrhaeddbell i grynhoi ein hamcanion a'n hegnion fel y bônt yn gyson ac yn gytbwys. Byrhoedlog a fu gorfoledd yr Atheniad a ddisgrifiodd Pericles yn ei araith, ond fe barhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd, er trymed yr anffodion a ddaeth i'w ran. Ni sylweddolodd yntau ei ddelfryd yn ei lawn ogoniant, ond trwy fod yn ffyddlon iddo yr enillodd glod a bery byth. Pe baem ni'r Cymry yn ceisio disgrifio ein bywyd mor gryno ag y gwnaeth Pericles, ar ba nodweddion v gosodem y pwyslais ? At ba ddelfrydau newydd a hên y cyfeiriem A fyddai ein disgrifiad o fywyd dinesig yng Nghaerdydd neu ym Mangor yn dangos cymaint o orfoledd ac o ymroddiad ag a welwyd gynt yn Athen ? Diau mai ein hangen pennaf mewn gwlad a thref ydyw gweledigaeth a ddyry ysbryd- iaeth digonol inni yng nghanol ein blinderau, fel na bo i ni ymollwng, eithr yn hytrach ymorchestu fel rhai yn ceisio gwlad well, a honno'n wlad yr addewid. Y Ddrama "Y LLANW" Rhaid i gwmnïau fydd yn dymuno per- fformio y ddrama Y Llanw," a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron y mis diwethaf, anfon am ganiatâd yr awdur: Mrs. CLAUDIA JONES, CELYNNDí, BANGOR.