ELEN (yn codi ei hysgwyddau) Un arall o'th syniadau gwirion di Fe gei di dy swper wrth y bwrdd neu ddim o gwbl. Syr Ieuan Pam 'rwyt-ti'n ei gwrthod-hi, Elen ? Cymer dy swper, fy ngeneth-i, mae dy fodryb yn fodlon. ELEN Difetha'r plentyn (Yn dodi adain cyw, bara ac afal ar blàt.) Mair A gaf-i lymaid o goffi hefyd ? ELEN Coffi ? 'Fyddi-di byth yn ei yfed-ef. Syr IEUAN (yn erfyn) Elen (ELEN yn tywaUt y coffi.) MAIR Diolch ichwi, modryb bach annwyl. (Cychwyn allan â phlât yn un llaw a'r coffi yn y Uall.) Syr IEUAN Un eiliad, fy nghariad-i, 'dwyf-i ddim wedi dy weld-ti ar hyd y dydd. MAIR (yn dodi'r cwbl ar y bwrdd a cheisio tawelu ei llais) Oes newydd am Tada ? Syr IEUAN Nag oes. Ond yn yr amseroedd arswydus hyn, newydd da yw dim newydd. Os bydd-ef wedi dilyn fy nghyngor, mi fydd wedi cyrraedd y goror yn ddiogel. Yr wyf i wedi dilyn ei gyngor ef gadael y plas a rhentu'r tŷ bychan hwn gyda thì a'm chwaer, a dim ond un forwyn. Yr ydym-ni'n osgoi drwgdyb- iaeth ac eto'i gyd, 'wn-i ddim pam, 'rwyf-i fel pe bawn ar fin anlwc fawr. Dy fam, druan, Mair Oni bai ei bod-hi yn ei bedd, 'fuasai-hi'n siwr o farw o ofid y dyddiau hyn MAIR 'Rwyf-i'n ei chofio-hi y funud yma, yn fy nghodi-fl i'w breichiau o flaen y darlun hwn o'm tad yn ei wisg fyddin, a dweud, "Gweddia dros dy dad, fy ngeneth-i, gweddia'n ddwys." ELEN (gyda dirmyg): Dyna lun doniol'—dyw-ef ddim tebycach i'ch tad nag i mi. Syr Ieuan Na, dyna fy mab-i, yn ddigon siwr. Mair 'Dwyf i ddim yn cofio fy nhad yn ddigon da i wybod y gwahaniaeth. Y mae chwe blynedd ers pan welais i ef olaf- 'roeddwn-i'n saith y pryd hynny. Syr IEUAN Oeddit Ac mae rhyw ofn erchyll arnaf bod dy dad yn dyfod yn ôl i Ffrainc, i beth, wn-i ddim, ac nad â fe'n ôl heb ddyfod yma i'th weld-di eto. pobl yn ei alw. Pan aeth yr hen Eic i geisio canu'r gloch fel arfer, dyma'r rhaff i lawr yn un torch wrth ei draed. Cafodd fraw dychrynllyd a rhedeg at y Ficer i'r Festri. Mistar bach,' meddai fo, mae rhaff y gloch wedi torri, ydy wir Fi deud wrthat ti o hyd bod ti'n tynnu'n rhy egr,' ebe'r person. Naddo wir, mistar bach,' ebe'r cloch- ydd,' ddarfu 'mi ddim ond prin afael ynddi hi, ac mi ddoth i lawr fel yna. 0, mi ges i fraw, syr Dowch yma gael ichwi weld.' Fe aeth y Ficer, rhwng bodd ac anfodd, gan ruo yn ei gorn. Gwelodd fod yr hen Isaac yn dweud y gwir. DYNA'R clochydd allan i'r fynwent i geisio cael esboniad yn y fan honno am y peth rhyfedd. Edrychodd i fyny at dŵr yr eglwys, ac er bod eiddew trwchus yn cuddio'r lle, canfu, er ei fraw, fod y gloch wedi mynd. Aeth i'r festri, lle'r oedd y person, erbyn hynny, wedi rhoi'r wenwisg amdano. Mistar bach,' meddai fo yn fyrrach ei anadl nag o'r blaen, mae'r gloch wedi mynd, 'dydyw hi ddim yna ELEN Fe fuasai hynny'n ynfyd. Oherwydd gyda'r ddeddf sy newydd ei gwneud yn awr, 'chai fy nai ddim drws yn barod i agor iddo. MAIR Ellwch-chwi dybied, 'modryb, bod rywun ar y ddaear mor farbaraidd â gwrthod cysgodi dyn sy'n gweiddi Cuddiwch fi ? Elen 'Dwyf i ddim yn farbaraidd, ac fe wnawn i hynny. MAIR Y chwi, 'modryb? ELEN Ie, fi. A 'fuasai dim barbariaeth yn hyn, oherwydd 'fuaswn-i byth yn aberthu bywyd eich taid er mwyn dyn dieithr. MAIR Bywyd fy nhaid ELEN Ie, debyg iawn. Os dalien-hw alltud yn ymguddio yma, eich taid a minnau,- 'rych chwi'n rhy ifanc,-a gaem ein carcharu a'n gilotinio, mae hynny'n .(Curo ffyrnig ar y drws. Arweinia'r forwyn bedwar milwr mewn côt ysgarlad yn dwyn llusernau.) Un o'r MILWYR Ddinaswr, y mae alltud yn ymguddio yn yr heol hon. Yr ym-ni wedi ym- weld â phob ty ond dy un di, ac yr ŷm-ni'n erchi cael gwneud ein dyletswydd. Syr Ieuan 'Does neb wedi dyfod i'm ty i heno, fe ellwch fod yn dawel. (Edrych MAIR yn wyllt o'i chwmpas ac â alian.) Un o'r MILWYR Cymer olau ynteu, ac arwain ni drwy'r tŷ. (Chwüia'r MILWYR yr ystafell â'u llusernau, yna ânt aUan.) (LLEN.) Golygfa V. (YstafeU arlunio. MAIR yn dyfod i'r ystafell â'i gwynt yn ei dwm.) MAIR Y mae-hi ar ben arnom-ni Y mae dynion wedi dyfod i chwilio amdanoch-chwi. GWILYM Oes dim modd imi ymguddio ? Och-y-fi MAIR Hwyrach na ddon'-hw ddim cyn belled ag yma. GWILYM (yn clustfeinio) Maen'-hw'n dod i fyny A, Mademoiselle, na buasech-chwi wedi 'ngwrthod-i MAIR Maen'-hw'n nesu, yn nesu O, be 'wnawn-ni be 'wnawn-ni A, rhowch imi'ch llaw dyna ni, y tu ôl i'r llenni ffenestr yma gyda fi (Y ddau'n ym- guddio.) Peidiwch â symud (Curo ar y drws.) HELYNT Y GLOCH-o dudalen 83. Y cloch wedi be ? ebe'r ficer. Wedi mynd, syr,' ebe'r clochydd, mae rhywun wedi ei witsio, a'r ysbrydion drwg wedi mynd â hi.' Mynd i b'le ? ebe'r person, cloch dim traed i mynd i lle'n y byd. Ti wedi bod yn yfed lot o cwrw neithiwr, a ti gweld y bliws Na wir, Mistar bach, dowch allan ichwi weld,' ebe Eic, a sŵn crio yn ei lais. Aeth y ficer allan gan fwmian ynddo'i hun, a daeth yn ôl gan lefaru geiriau y byddai'n well peidio â'u hail-adrodd. "R HAID oedd dechrau'r gwasanaeth heb ganu'r gloch i alw pobl y pentref i'r eglwys. Y rheini'n methu deall, ac yn dyfod i mewn drib-drab, ar gam amser. Nid oedd llawer o glociau yr adeg honno, felly wrth glywed y gloch y byddai'r bobl yn hwylio am y gwasanaeth. I dorri'r stori'n fer-dyma chwilio mawr i wybod pwy ydoedd, a chynnig gwobr i bwy bynnag a roddai ryw wybodaeth ynghylch y gloch. Ond y cwbl yn ofer. Aeth wythnosau heibio heb ddim cloch yn galw i'r addoliad. Benthyciwyd un fechan, a dyna lle byddai'r hen Eic yn sefyll GWILYM (yn isel) Peidiwch ag ateb. MAIR (yn groch) Pwy sy yna ? Peidiwch â dyfod i mewn Un o'r MILWYR (yn arw) Yn enw'r ddeddf, agorwch MAIR 'Fedraf-i ddim. 'Roeddwn-i 'n mynd i'r gwely, ac 'rwyf-i wedi tynnu oddi amdanaf. Un o'r Milwyr Teflwch wisg amdanoch, ac agorwch MAIR Mae'n hawdd ichwi ddweud hynny, ond 'rwyf-i wedi tynnu 'nillad yn y llofft, a 'dyw 'ngwisg-i ddim yma. Y MILWYR (yn wyllt) Agorwch, neu fe dorrwn i mewn. MAIR 'Rwyf-i 'n ddigon parod. Mi dynnaf i 'r bollt ond rhaid ichwi addo i mi beidio â dyfod i mewn ond pan ddwedaf i. Y MILWYR O'r gorau, mae hynny'n iawn. (Tyn MAIR y bollt a mynd yn ei hôl y tu ôl i'r llenni ffenestr. ) MAIR Dowch i mewn (Yn isel, wrth ei chydymaith) A gweddîwch. ( Y peth cyntaf a wêl y dynion yng ngolau eu llusernau yw pen tlws MAIR, tra mae hithau'n cadw'r llenni ynghau ar y gweddill ohoni a'r dieithryn.) MAIR Chwiliwch yn awr, foneddigion. (Taflant drem dros y cerfluniau a'r bwrdd.) Y MILWYR Begio'ch pardwn fi1 o weithiau am eich aflonyddu fel hyn. (A'r milwyr áUan.) (Wedi iddynt fynd i lawr y grisiau, daw MAIR o'i hymguddfan wedi gwisgo amdani.) Syr Ieuan Ond, y fath gellwair (Ymegyr y Uenni eto, a daw GWILYM allan dan redeg at yr hen ŵr a llefain) GWILYM Fy nhad (Yn eu cusanu ei gilydd.) Syr Ieuan Fy mab Tydi yma, ac wedi dy achub drwy bwyll dy blentyn GWILYM (yn troi ati) Mair (LLEN.) (DIWEDD.) Am ganiatâd i actio'r ddrama hon anfoner at Meredydd J. Roberts, c/o Hughes a'i Fab, Wrecsam. wrth y drws a'r gloch yn ei law ac yn canu honno gymaint fyth O'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, rhaid oedd gwneud apêl at foneddigion y lIe am gasgliad i brynu cloch newydd. Felly fu. Cafwyd cloch newydd, a gosodwyd hi i fyny â seremoni fawr yn yr un man a'r hen gloch. DIGWYDDAI fod fel o'r blaen yn nos- weithiau golau lleuad. Cyfarfu'r llanciau ar y bont i gynllunio beth i'w wneud. Aethant i'r fynwent fel o'r blaen, berfedd nos codwyd y gloch o wely'r afon, aed â hi i fyny'r tŵr, a gosodwyd hi yn ei hen gartref yn ochr y gloch newydd. Pan ddaeth bore Sul, aeth Eic v Cloch- ydd mewn balchder maw a chryn lawe o rodres, i ganu'r gloch newydd. Ond er braw a syndod i bawb oedd yno, clywai sain dwy gloch yn canu gyda'i gilydd, a'r rheini heb fod mewn tiwn â'i gilydd chwaith. Gelli feddwl yr helynt oedd yno. Mynnai'r rhan fwyaf o bobl y pentref mai rhyw bwerau goruwchnaturiol fu ar waith, ac yr oedd braw mawr ar bawb. Cadwodd y bechgyn y gyfrinach yn ofalus, ac ymhen llawer blwyddyn y daeth y gwir allan." (DIWEDD.)