f'YII'ROL III RHIF 4. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WBECSAM. Teliffôn: Wrecsam 622. London Ageney: Thanet Honae, 231-2 Strand. Yr Anrhydeddau Bu cwyno yma ac acw oherwydd nad oedd dim ond rhyw un enw o Gymru ar restr anrhydeddus- ion Dydd Calan. Hyd yn oed ymysg gwerinwyr na roddant werth o gwbl ar deitl, y mae tuedd i ym- resymu ei bod yn annheg, tra bo'r gyf- undrefn mewn grym. i anwybyddu Cymru. Ond tybed y teimlwyd siom oherwydd cael eu gadael allan o'r rhestr gan unrhyw wr o Gymro neu ferch o Gymraes sydd eisoes yn amlwg ym mharch a serchiadau eu cyd-genedl ? A ychwanegodd teitl rywfaint erioed at enwogrwydd a bri oedd yno eisoes ? Y mae dosbarth o bobl, wrth gwrs, yn arbennig yn Lloegr, sy'n addoli pethau fel hyn, faint bynnag yr haeddiant. Fe â'r byd gryn lawer yn hyu, wrth gwrs, cyn y dileir yr ysfa am anrhydedd gwneud. Plant ydym eto dan ein hoed." Ond gadawer i'r dosbarth hwn ac i'r gwyr llys eu teganau. Y mae'r neb a anrhydeddwyd eisoes yng ngwir ystyr y gair yn adnabod eu gwerth. Cymro, mae'n werth cofio, yw'r gŵr a roddodd fwy o deitlau i eraill na neb o'i genhedl- aeth, eto a adnabyddir drwy'r byd, nid fel Arglwydd Cricieth na Syr Dafydd, ond yn syml fel Mr. Lloyd George. Dirywio CHWARAE cardiau am arian betio lladrata. Y mae'r naill beth fel pe'n arwain i'r llall yng Nghymru fel mewn gwledydd eraill. Hen wlad y Menyg Gwynion fyddai Cymru gynt; fe gyll yr enw hwnnw yn fuan iawn os yw profiad y llysoedd a'r sesiynau eleni yn argoel deg. Rhwng dylanwadau o'r tu allan, anghyd- naws â'r traddodiad Cymreig, a chanlyn- iadau'r oriau segur sydd wedi cymryd Ue'r oriau gwaith, dirywio y mae bywyd ym mhentrefi gwledig ac yng nghanolfannau poblog Cymru heddiw. Ac ni all neb sy'n ceisio ystyried beth fydd seiliau cymeriad yr oes nesaf lai na thristáu. Rhaid cydnabod bod rhai haenau o'r bywyd Cymreig wedi eu cwbl ysgaru oddi wrth hen ddylanwadau addysg, crefydd, a thraddodiad. Ni ddadleuai neb fod rhyddid helaethach neu safon uwch o ran moes na deaU wedi dilyn yr ysgariad, ond yn hytrach, i'r genedl goUi rhywbeth gwerthfawr. Ym mha wedd, gan hynny, y gwanhaodd y dylanwadau daionus ? Sut y bu'r golled hon? Fe geid llawer ateb ar hyn o bryd, yn ddi- amau ond anturiwn ddarogan y daw llais y wlad yn unfarn cyn hir ar un gosodiad, sef mai po bellaf yr eir oddi wrth y traddod- iad Cymreig mewn crefydd, addysg, llên a chrefft, mwyaf oll y dirywir. Asgwrn Cefn YMAE perygl i awdurdodau lleol fynd yn llwyr dan fawd clercod Whitehall, sef y swyddogion sy'n gweith- redu yn enw'r Llywodraeth, ac y mae'n hen bryd i gynghorau mawr a bach ddangos fod ganddynt asgwrn cefn. 0 dipyn i beth fe ddirywiodd eu gallu a'u hawl i weithredu yn ôl deddf a synnwyr cyffredin, a phrin y gallant bellach roddi stamp ar lythyr heb ofyn caniatâd rhywun yn Llundain. Fe ddadlennwyd y mis diwethaf na ellir rhoi gwaith i chwarelwyr di-waith Pen- maenmawr ynglŷn ag ail-wneud Pen-y-Clip oherwydd y rheol fod yn rhaid i'r cymerwr roddi gwaith i ddynion o ardaloedd sydd yn dioddef dan y dirwasgiad ac nid yw ardal Penmaenmawr wedi ei rhestru felly eto. A'r ateb a gynigir yw anfon dirprwyaeth i Lundain i ymbil. Pa sawl dirprwyaeth a anfonwyd o Gymru ar achosion fel hyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf ? Pa faint a gostiodd y cyfan mewn arian trethdalwyr ac mewn coll urddas ? A enillwyd rhywbeth heblaw cryf- hau gallu ac awdurdod Whitehall ar draul hawliau'r cynghorau i feddwl ac i weithredu drostynt eu hunain ? Oni wrthsefir yn fuan, fe â Uywodraeth leol yn gyff clêr. Y Dylanwad YMA yr wyf, ac yma y byddaf," ydyw arwyddair y dylanwad Seis- ni-r yng Nghymru. Y mae'n ymwthio arnom heb ystyried dim ond ei gynnydd ei hun. Y mae'n ddall a byddar i hawliau unrhyw ddylanwad arall y mae'n gwadu eu bod. Y mae ganddo'i ddiplomyddion a gymer arnynt edmygu iaith a thraddodiad y wlad, ac a ddwg roddion. Ennill tir yw'r unig amcan. Os bu Cymru'n unfarn ar unrhyw beth erioed, y mae felly ar y perygl a ddaw o'r awyr trwy'r rhaglenni radio. Fe brotest- iwyd bron hyd ymbil. Anwybydda'r dy- lanwad Seisnig y cyfan, am na all ei amgyffred. Ymddengys mai gwastraff amser yw gwrthdystio neu apelio eto at reswm yr awdurdodau. Onid yw'n bosibl i Gymru gael ei chyfun- drefn radio ei hun ? Fe awgrymwyd yn Y Ford GRON dro'n ôl ofyn caniatâd pobl Iwerddon i godi gorsaf ddigon cref ar draeth y wlad honno i gyrraedd pob cwr o Gymru. Beth pe pasiai pob cyngor sir benderfyn- iad i'r perwyl Pwy a rydd gychwyn ? Edrych y Deddfau FE ddylai'r dirwasgiad beri ymgyrch newydd eto yn erbyn y deddfau tir. Fe wnaed llawer cais erioed i gael cyfiawn- der, ac yn sicr fe gafwyd mân ddiwygiadau, ond rywsut y tir-feddianwyr sy'n parhau i gael y byd braf a'r bobl sy'n parhau i ddioddef pan ddaw dirwasgiad. Nid ynglyn â meddiant tir amaethyddol yn unig y mae camwri'n aros heb ei symud. Mae'r llaw haearn yn rhwystr datblygu diwydiannau mewn llawer Ue. Mae'r amser wedi dyfod pryd y mae'n rhaid i ardal neu gymdogaeth sy'n gweled moddion cynhal- iaeth ei thrigolion yn darfod, ystyried holl adnoddau'r Ile a mynnu cael eu meithrin a'u gweinyddu er budd yr ardal. Beth pe bai aelodau'r dosbarthiadau economeg yn rhoi eu llyfrau heibio am ysbaid a cheisio cymhwyso'u gwybodaeth at anghen- ion heddiw ? Mae eisiau adolygu o newydd pob parth o Gymru, yn enwedig yngK'n â meddiannau a'r hawl iddynt. Y mae eisiau edrych pob deddf a chytundeb sy'n rhoddi rhagorfraint neu fantais i un dros eraill. Dyna dasg y gallai gwýr ifainc y gyfraith yng Nghymru wneud gwasanaeth gwerthfawr dros eu cenedl arno.