Y DDAU RYS DAVIES DAU WAHANOL FATH O GYMRO MAE Rhys Davies. y nofelydd, erbyn hyn yn gwneud cymaint o arian ar ei lyfrau nes gallu fforddio aros ar y Riviera i ysgrifennu. Yn Llundain yn ddi- weddar mi glywais sut yr ysgrifennodd ei nofel gyntaf. Mewn mannau rhyfedd yr ysgrifennai·­ yn y tube yn Llundain ac yn ystafell ysgrifennu y British Museum, mewn tai bwyta ar ôl dyddiau blin o lafur mewn siop, ac ar ei wyliau yn yr Almaen. Fe ddaeth cynllun y stori i'w feddwl pan oedd yn fachgen ysgol yn y Rhondda, a bawdd deall felly pa fodd y daeth y darluniau grymus o dlodi, ofn ac anobaith i'r nofel. Er nad yw eto ond 31 oed, fe enillodd Rhys Davies le blaenllaw fel ysgrifennwr. Ond y mae mwy o alw am waith Mr. Davies yn yr Almaen a Thaleithiau Unedig America nag yng Nghymru. Mewn siop ddillad. YM Maenclydach. Morgannwg. y ganed ef yn fachgen i Mr. T. R. Davies. grocer, ac addysgwyd ef yn Clydach Vale ac Ysgol Sir y Porth, Rhondda. Am naw mlynedd bu'n gweithio tu ôl i gownter siopau dillad yn Ilford a Manor Park, Llundain. Yr oedd llenyddiaeth yn ei groen, ond nid mewn noson y daeth yn enwog. Ymdrech- odd i ddweud ei neges am flynyddoedd, a hyd yn oed pan gyhoeddwyd toreth o'i storïau byrion, a chyfrol o'i farddoniaeth, ni oleuwyd coelcerthi ei enw ar fryniau'r wlad. Am Gymru. OND pan gyhoeddwyd ei nofel, The Wrcthered Root," yn 1927. fe ddeffrowyd edmygedd-a chondemniad, y beirniaid. Yn oeraidd y derbyniwyd hon yng Nghymru, ond bu'n llwyddiant digyffelyb mewn gwledydd tramor. Ymdriniai'r stori ag un o ddyffrynnoedd diwydiannol Cymru, ac fe'i galwyd hi yn ddadansoddiad treiddgar o fywyd ei bobl ei hun." Clywai rhai Cymry adlais lleferydd Caradoc Evans ynddi. Ond yr oedd gwahaniaeth. Nid yw Mr. Davies yn rhoddi dim ar g'oedd mewn malais. Nid yw'n gadael argraff na all dim da ddod o Gymru. Rhoddodd fywyd fel y mae yn ei waith, ac os yw llawer o'i gymeriadau yn hagr ac yn hurt, v mae llawer eraill ohonynt yn ddynol ac felly yn naturiol. Cyfaill Lawrence. YR oedd Mr. Davies yn gyfaill i'r diweddar Mr. D. H. Lawrence, yr ysgrifennwr Saesneg a gondemniwyd gym- aint am (i ryddid llenyddol, ac yn ddiamau Mr. Rhys Davies- y mae ôl dylanwad Lawrence ar bron bopeth ysgrifennodd Rhys Davies. Taniodd Lawrence fi â llawer uchelgais newjdd," ebe Mr. Davies. Yn sicr, efe oedd ein hysgrifennwr mwyaf byw." Ar y Riviera. FE ddihangodd Rhys Davies o gysgod- ion dyffrynnoedd anhapus De Cymru ac o hunlle masnachdai Llundain. Erbyn hcddiw, fel y dywedais, gall fforddio teithio, ac y mae'r rhan fwyaf o'i waith yn cael ei wneud ar y Riviera, yn Ne Firainc, Ue mae dyfroedd hyfryd Môr y Canoldir yn swyno'r llygad ac yn ysbrydoli'r ysgrifbin. Fe deithiodd ymhell hefyd mewn Uenydd- iaeth er 1927, ac y mae'n un o'r ysgrifenwyr mwyaf diwyd,-nofel ar ôl nofel yn cael ei chreu dan ei law bob blwyddyn. Mi gredaf i y bydd Cymru yn ei enwi gyda balchder суп hir. A chredaf y daw yntau i gymysgu ei liwiau yn well. Y mae golau yn ogystal â gwyll yng Nghymru fel trwy'r byd i gyd. Yr Aelod Senedd. BYDD llawer o bobl yn cymysgu'r ddau Rhys Davies,­yr ysgrifennwr a'r A.S. Yr unig gyswUt rhyngddynt ydyw bod y gwleidyddwr wedi cychwyn ei yrfa yn un o byllau glo Cwm Rhondda, a'r nofelydd yn frodor o'r ardal honno. ^I chwi gael gweld y meddwl uchel sy gan rai pobl o Rhys Davies y Senedd, dyma beth ddywedodd y Parch. J. H. Howard yn Y Cymro yn ddiweddar Y mae'n rhwym o gael Ue anrhyd- eddus mewn unrhyw Lywodraeth Lafur ni synnwn ei weled yn ail Brif Weinidog Prydeinig i ddod o Gymru." Ac wrth sôn amdano'n areithio, meddai Yr oedd y cynhulliad enfawr yn ysgwyd, yn chwerthin, yn griddfan, ac yn gweiddi fel y mynnai Rhys Davies. Chwaraeai ar bob tant a thuedd gwelais hen Geidwadwyr a Rhyddfryd- wyr penboeth yn colli arnynt eu hunain am ysbaid o dan swyn ei huodledd a'i lais melodaidd. Darganfûm athrylith, huodledd ysgubol, a thinc arweinydd cenedlaethol. Y Celt ar ei orau oedd yno, a gwelais Gymro yn cyffwrdd pinaclau uchaf areithyddiaeth bur." Yn y Pwll Glo. YMAE Mr. Rhys Davies yn frawd i Cenech Davies, y bardd. Aelod Seneddol dros West Houghton, Lancashire vdyw, ond yn Llangenech, Sir Gaerfyrddin, y ganed ef (yn 1877) yn un 0 11 o blant. Ni allai ei dad na'i fam siarad dim ond Cymraeg, ac ni wyddai Rhys ei hun fawr ddim Saesneg nes ei fod yn bymtheg oed. Bu am dair blynedd yn gweithio ar fferm pan oedd yn fachgen. Yna aeth i byllau glo'r Rhondda, a bu'n lowr am ddeng mlynedd. Ond ymdrechai'n galed i adael y gwaith hwnnw. O'r diwedd dyma'r Gymdeithas Gyd- weithredu yn y lle, oedd wedi diodde gan ladron, yn chwilio am ddyn "heb fod yn glyfar, ond yn onest i fod yn cashier." ac yn cynnig y gwaith i Rhys Davies am 26s. yr wythnos. Derbyniodd yntau, ac ar y cyflog hwn mi briododl â merch oedd yn athrawes Gwaith тý.