Mr. EDMUND D. JONES yn dal mai Caru Ardal yw Dechrau A YDYM ni yng Nghymru'n gwneud y cwbl a ddylem-ni i feithrin f M y 1 1 cariad a pharch at yr ardal у trigwn ynddi ? Onid o ddiffyg balchder ynddi yr ydym yn ddifater am bryd a gwedd ein pentrefi, yr hen olion hanes sydd o'u cwmpas, a phrydferthwch natur o'u hamgylch ? Oni bai am y difaterwch hwn, ni fuasai angen am Gymdeithas er Diogelu Harddwch Cymru." Y gwir yw nad ydym eto wedi deffro i werth ardalgarwch fel elfen yn ein diwylliant. Dyma'r rheswm pam nad ydyw'n gwlatgarwch, er cymaint a wnawn i'w feithrin, yn effeithio mwy ar ein bywyd­ ac felly y mae'n dirywio'n aml yn ordeimlad gwag yn Ue bod yn rym i waith ynom. Dechrau gartref. Yr unig sylfaen safadwy i wlatgarwch golau ydyw ardalgarwch." Os mynnwn greu cariad gwir at Gymru yn y plant a'r bobl ieuanc, rhaid dechrau gartref," drwy greu diddordeb ynddynt yn eu bro enedigol, a'u harwain (ys dywed hen wireb mewn addysgiaeth) o'r hyn a wyddys i'r hyn ni wyddys." Diamau y carai llawer athro wneud mwy o hyn nag a wneir ar hyn o bryd, p'run Brilliant díscourses, meddai Dr. H. M. Hughes, yn y Western Mail, am YR ANTUR FAWR Dr. D. MIALL EDWARDS. Llyfr Crefyddol Pwysícaf y Flwyddyn. ai yn yr ysgol ddydd ynteu mewn dosbarth- iadau hwyr ond yn aml nid yw'r athro'i hun yn frodor o'r ardal y llafuria ynddi, ac ni wyr i ba Ie i droi am wybodaeth. Yn wir nid yw'r brodorion eu hunain yn llawer mwy gwybodus­oddieithr ambell i hynafgwr cofus a deallgar, ac y mae nifer y rhain yn lleihau bob blwyddyn. Felly oni ddeffrown yn fuan i gasglu'r lloffion bydd yn rhy ddiweddar. Tipyn yr Eisteddfod Leol. Y cam cyntaf yw cael gafael ar y defn- yddiau, eu hel at ei gilydd, a'u rhoddi yng nghyrraedd pawb a ddymuno chwilota ynddynt. Gwir y gwneir tipyn, o dro i dro, i gefnogi chwilota gan yr eisteddfod leol, sy'n cynnig gwobrau am draethodau ar hanes a thraddodiadau'r ardal, ond an- fynych iawn y dilynir unrhyw gynllun trefnus i gynnwys pob agwedd o'r maes yn ei dro. 7/6. Ni wneir dim, chwaith, i ddiogelu ffrwyth ymchwil yr ymgeiswyr, ac i'w roddi o fewn cyrraedd ymchwilwyr eraill. Ar ôl dydd yr eisteddfod, dychwelir y cyfansoddiadau i'r awduriaid, ac yng nghwrs amser, ânt ar ddifancoll. Y mae'r golled o'r herwydd yn ddirfawr, nid i'r ardal yn unig, ond i Gymru. Cadw Cist. Sut y gellir diogelu'r lloffion ? Gallai pob pentref bwrcasu cist-" Cist Hanes i gadw popeth o werth sy'n ymwneud â gorffennol yr ardal. Byddai cist o'r fath yn ddiogelfa i draethodau ar hanes, tradd- odiadau, enwogion, diwydiant a chymdeithas y pentref yn y dyddiau gynt. Gellid rhoi yno hen lyfrau cofnodion Byrddau a Chym- deithasau cyhoeddus ysgrifau ar yr ardal o gylchgronau a newyddiaduron manylion a darluniau o hen adeiladau diddorol, sydd eto heb eu dinistrio, fel cartrefi enwogion, hen bontydd, eglwysi a chapeli, a bythynnod prydferth. Codi Cronfa. Dylai'r gist gynnwys copi o bob llyfr a gynhyrchwyd gan lenorion o'r fro-os na fydd y rhain mor lluosog nes bydd yn rhaid cael cwpwrdd llyfrau arbennig i'w dal! Mewn gair cynhwysid yn y gist bob math o ddefnyddiau buddiol i hanesydd y dyfodol, ac i bawb a hoffa olrhain hanes a helynt y fro. Hawdd fyddai codi cronfa i bwrcasu'r gist, drwy gynnal eisteddfod neu gyngherddau. Gellid cynnig gwobr yn yr eisteddfod am y cynllun gorau o gist, a chael y crefftwr gorau yn yr ardal i'w gwneuthur. Rhaid symud yn fuan. Y man cyfaddas i'w chadw fyddai'r Ddarllenfa, neu yn niffyg darllenfa, y neuadd gyhoeddus neu'r ysgol ddydd. Dylai fod o dan ofal pwyllgor arbennig a chofiadur cymwys, a hwy fyddai gyfrifol am ei chynnwys. Gall y neb a ddarlleno Cwm Eithin am- gyffred y golled i Gymru o esgeuluso lloffion Ueol. Ond oni symudwn yn fuan i'w hachub, byddwn wedi colli'r cwbl. Y mae'r cinema a'r radio yn trawsffurfio bywyd ein pentrefi, yn disodli straeon y pentan," ac yn torri'r ddolen gydiol â Chymru Fu.