Offeren y Meirw (o dudalen 59) Pan gyflwynwyd y plât i'r marchog rhoes yntau bunt, a ddisgynnodd heb wneuthur mwy o sŵn na'r darnau eraill aur neu arian. Yna safodd yr hen ganon o flaen Catrin Fontaine, a chwiliodd hithau yn ei phoced ond heb gael hyd i'r un ddimai. Gan na ddymunai beidio â rhoddi dim, tynnodd y fodrwy a roesai'r marchog iddi y noson cyn ei farw oddi ar ei bys a'i thaflu i'r ddysgl gopr. Wrth ddisgyn, gwnaeth y fodrwy aur sŵn fel cloch yn uchel ganu, ac wrth sŵn y diasbedain, diflannodd y marchog, y canon, yr offeiriad, y curadiaid, y bonedd- igion a'r boneddigesau, a'r holl gynulleidfa diffoddodd y canhwyllau, a Chatrin Fontaine ei hun a adawyd yn y tywyllwch." WEDI i'r clochydd adrodd ei ystori yn y ffordd yma, yfodd ddracht hir o win, arhosodd am funud yn fyfyrgar, yna aeth ymlaen fel hyn Adroddais yr hanes yma wrthych fel y cefais hi gan fy nhad lawer gwaith, a chredaf ei bod yn wir am ei bod yn cyfateb â'm sylwadau i ynglŷn ag arferion y meirw. Ymdriniais lawer â'r meirw er yn blentyn, a gwn mai eu harfer yw dyfod yn ôl at yr hyn a garent. ANATOLE FRANCE. Ganed Anatole France, awdur y stori hon, ym Mharis yn 1844. Yr oedd yn fardd, hanesydd a nofelydd, a gwnaed ef yn aelod o'r Academi Ffrengig yn 1896. Y mae ei weithiau wedi eu cyfieithu i brif ieithoedd Ewrop. Dyna pam y crwydra'r meirw cybyddlyd yn y nos o gwmpas y trysor a guddiasant pan oeddynt byw. Gwyliant eu haur, ond y mae eu gofal, yn Ue bod o unrhyw les iddynt, yn aml yn eu handwyo, oblegid pan chwilir yn y lle yr aflonyddir arno gan ysbryd, ceir hyd i'r arian wedi ei gloddio yn y ddaear. Yn yr un modd, daw gwyr meirw yn y nos i aflonyddu ar eu gwragedd sydd wedi ail-briodi a gallwn enwi amryw sydd wedi gofalu am eu gwragedd yn well pan yn farw nag y gwnaent pan yn fyw. Y mae bai ar y rhai yna, oblegid yn ddilys ni ddylai'r meirw fod yn genfigennus. Ond yr hyn a welais a adroddaf i chwi. Profwyd mai gwir yr ystori a ddywedais wrthych yn y ffordd hon Y bore ar ôl y noson anghyffredin honno, cafwyd Catrin Fontaine yn farw yn ei hystafell. Ac yn y plât copr yr arferid casglu ynddo, cafodd plwyfwas eglwys Sant Eulalie, fodrwy aur ag arni ddwy law ymhlêth. Hefyd nid wyf i'r dyn i adrodd ystori er mwyn cellwair. Beth pe gofynnem am un botelaid arall o win Y LLANW (o dudalen 68) cofio'r hen frenin hwnnw 'stalwm—Canute oedd ei enw, os ydw-i'n cofio'n iawn-yn eistedd ar lan y môr, a gorchymyn i'r llanw gadw draw oddi wrtho ?—(pwff) Ond dyfod ymlaen wnaeth y llanw o hyd, yn ddistaw ond yn ddi- droi'n-ôl. A 'run fath 'rydwy-i'n gweld y llanw Saesneg yn llifo dros y wlad yma heddiw. Mae un gwrthglawdd yn syrthio fan yma, ac un arall fan acw—a chyn pan hanner canrif, fe fydd y cyfan wedi mynd ichwi. (Distawrwydd amfunud.) MR. Jones (yn dawel) 'Rydych wedi anghofio un peth, Capten. Nid oes Canute ydyw hon. Mae pethau wedi symud ymlaen er hynny. a heddiw 'rydym-ni'n medru herio'r llanw, oblegid bod gennym-ni beirianwyr, sy'n medru gwneud cloddiau môr, tebyg i hwnna sy'n y Borth, i gadw'r môr draw. A dyna, mewn gwirionedd, ydyw'r 'Steddfod, a'r Urdd, a'r pethau yna-cloddiau môr i gadw'r llanw Saesneg rhag gorlifo'n gwlad. MR. HUMPHREYS Clywch Clywch Rhag- orol iawn. Mr. Jones. Be sy gennych-chwi i'w ddweud 'rwan, Capten ? CAPTEN Evans O—(yn llenwi ei bibell),— pan fydd o'n dechrau arni—-(yn amneidio at Mr. JONES)—mae'n bryd i mi dewi. (Pawb yn chwerthin.) Mr. HUMPHREYS Sôn am 'Steddfod, 'welsoch-chwi erthygl yn y Lloer heddiw ar 'Steddfod Bangor? Mr. Jones Do. Un dda iawn, ynte ? 'Welsoch chwi-hi, Mr. Rees ? Mr. REES (yn feirniadol) Do, mi gwelais-hi. Ond yr oedd cymaint o wallau ynddi, fel nad oes gennyf fawr o syniad beth oedd ynddi heblaw gwallau. CAPTEN Evans Mi 'rown i'n ei gweld yn un ragorol. MR. HUMPHREYS Mi wn i am bobol fyddai bob amser yn arfer sgrifennu Cymraeg, ond 'chymeran' hw' mo'r byd a gwneud yrwan, rhag ofn torri rhyw reol neu'i gilydd. Mrs. Jones Dyma un ohonyn’ hw', Mr. Humphreys. (Yn pwyntio ati ei hun. Cnoc ar y drwsffrynt.) Dyma Olwen o'r diwedd, diolch am hynny. (Mae Mrs. Jones yn mynd at y drws ac yn dychwelyd gydag OLWEN, sy'n edrych yn wylaidd iawn. Mae'r ddwy'n eistedd wrth y bwrdd.) Mr. PEES Wel, y chwaer ysgrifennydd, dyma chwi wedi dyfod ar adeg dda. Y peth cyntaf heno fydd torri allan o aelodaeth hanner y pwyllgor yma. (OLWEN yn neidio i fyny.) Nid ydynt yn gymwys i fod amo. A wyddoch- chwi na fedr eu hanner hwy sgrifennu Cymraeg, yn ôl eu haddefiad eu hunain ? Os â pethau ymlaen fel hyn, y chwi a finnau fydd yr unig ddau Gymro gwir yn y Llan yma. (OLWEN yn cuddio'i hwyneb.) Wel Wel peidiwch â phoeni cymaint-rhaid inni geisio'u dysgu, nid ydynt wedi mynd yn rhy hen eto. Yn awr, a wnewch-chwi egluro inni pam yr ydych wedi galw'r pwyllgor heno ? OLWEN (yn codi a siarad yn isel) Barchus Lywydd, y mae gennyf orchwyl caled iawn i'w wneud, ac fe fu agos imi ei osgoi, a sgrifennu llythyr atoch, yn lle dyfod yma. Ond dyma fi wedi dyfod. (Distawrwydd amfunud.) Y mae gennyf yr wyf wedi addo priodi Harry Lee, a byddaf yn mynd i Loegr i fyw, ac felly yr wyf yn gorfod rhoi fy swydd fel ysgrifennydd i fyny. (Yn eistedd ac yn cuddio'i hwyneb—Distawrwydd.) CAPTEN Evans Da iawn, 'ngeneth i 'Roedd eisiau tipyn go Iew o blwc i ddweud hynyna y mae'r Sais yn ddyn lwcus, goeliaf i. Mr. Jones Clywch Clywch (Distawrwydd, a phawb yn edrych ar y Llywydd.) Mr. REEs (yn codi a siarad yn araf) Gyf- eillion, y mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi cael ergyd go drom. Y mae'n debyg mai fi ydyw'r unig un yma i'w chael. Yr wyf yn deall yn awr ystyr eich geiriau ar y dechrau, Mr. Humphreys. Pwy fuasai'n meddwl y buasai Olwen, o bawb, yn mynd trosodd at y gelyn Sais ? OLWEN (yn wylofus) O, Mr. Rees— peidiwch CAPTEN Evans Y fi, yn un, Mr. Llywydd. Pan gewch-chwi enethod prydferth mewn lle fel hwn, lle y mae cymaint o fechgyn nwyfus yn dyfod o Loegr, heb ddim i'w wneud ond syrthio mewn cariad, beth arall ellwch-chwi ddisgwyl, yn enw rheswm ? Ydwy-i wedi bod mewn perygl fy hun cyn hyn, gyda rhai o'r genethod Saesneg yna. (Mr. a MRS. Jones a MR. HUMPHREYS yn cael gwaith peidio â chwerthin.) MR. REES Ie ond Olwen ydyw hon. Ni fedraf-i ddim meddwl am Olwen yn troi'n Saesnes. OLWEN (yn eiddgar) 0, Mr. Rees, coeliwch fi, Cymraes fydda i tra bydda-i byw. Sut y medra-i beidio ? A wyddoch-chwi,— maen'-hw'n dweud bod mwy o Gymry yn Birmingham, lle 'rydwy' i'n mynd i fyw, nag sydd yn yr holl gylch yma i gyd. Ac mae Harry-Mr. Lee—wedi dechrau dysgu Cymraeg. ac 'rydym ni am gychwyn cangen o Undeb y Cymdeithasau Cymraeg os medrwn. MR. Jones Clywch Clywch Dyna beth yw Dwyn y gad i fysg y gelyn." (Cnoc ar y drws. Mrs. Jones yn ateb ac yn dychwelyd â thelegram, a'i roi i OLWEN.) Mr. Jones Dic oedd yna. Yr oedd yn dweud bod hwnna wedi cyrraedd gyda'ch bod- chwi'n mynd o'r ty. (OLWEN yn ei agor a'i ddarllen ac yna'n ei basio i MRS. JONES.) Mrs. Jones (yn darllen yn uchel) "Newydd brynu'r Towers heddiw. Modryb am fyw gyda 'Mam yn Birmingham. Tell Committee Cymru am byth for us both.—Harry." (Yn chwifio'r telegram.) Dyna ichwi Sais Mae hwnna'n werth gwneud Cymro ohono (LLEN.) Ffasiynau byd Athroniaeth (o dudalen 65) Nid oes yma ofod i fanylu ar y bennod feistrolgar hon. Prin, hwyrach, fod y gofod roddir i'w ddisgybl a'i olynydd, Hegel, yn gyfartal â'r dylanwad oedd i'r meddyliw hwnnw yn y 19eg ganrif ond diau gennym fod yr athro yn hyn o beth, fel mewn llawer i beth arall, yn delweddu'n gywir y newid ym marn athronwyr diweddar parthed pwysigrwydd cyfundrefn athronyddol Hegel. Y mae'n bleser digymysg argymell llyfr cyhyrog fel y llyfr hwn. Caiff pob athron- ydd sylw manwl, a llwyddir mewn modd eithriadol i roddi cnewyllyn ei athroniaeth gerbron ac ar yr un pryd dadlennir ei gwendidau amlycaf.