Byd y Ddrama. NOSON olaf y tymor diwethaf, yng Ngholeg Aberystwyth, torrwyd tir newydd ym mudiad y ddrama Gym- reig. Er mai yn Saesneg yr ysgrifennodd Mr. J. O. Francis ei ddrama newydd. Howell of Gwent," y mae'r cefndir a'r hanes yn Gymreig iawn, a bydd byd y ddrama yng Nghymru'n gyfoethocach bellach. Cwmni drama'r Coleg a berfformiodd hon, a chynhyrchwyd hi gan Dr. T. Campbell James a Mr. P. K. Baillie Revnolds. Daeth Mr. J. O. Francis ei hun i gynorthwyo yn y cynhyrchu am yr wythnos cyn y perfformio. Drama hanes mewn tair act ydyw, wedi ei seilio ar hanes anawsterau Gwent yn erbyn y Normaniaid. Y mae'r elfen drasiedi'n gryf, yn arbennig pan yw Cadfan (Edwin Davies), Arglwydd De Gwent, yn aberthu ei fab Idwal (Gwenallt) a'i ferch Gwyneth (Grace Harris) yn ei wlatgarwch dwfn. Y munudau mawr. Nid arbedodd y cwmni gost na thrafferth yngljn â'r dillad a'r golygfeydd. Yr oedd y rhain yn rhagorol a chystal â dim a welwyd erioed yn Aberystwyth, gan unrhyw gwmni. Cariai hyn ni i'r cyfnod ar unwaith, a gallsai rhywun feddwl oddi wrth y gwisgoedd ein bod yn edrych ar un o ddramâu hanes Shakespeare. Y mae'r clod yn fwy pan gofir mai yn adran Gelfyddyd y Coleg y paratowyd y cwbl ond un o'r golygfeydd. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn arbennig i'r ddrama gan yr Athro de Lloyd, a chanwyd Cân Gwent ar delyn y cyfnod gan Enid a Madog (Irfonwy Jones a Dr. Matthew Williams). Un o funudau mawr y ddrama yw honno pan dorrir ar draws cân Enid gan leisiau'r llys, pan ganfyddent gorff Gwyneth yn y llyn. Teimlwn ambell dro y gallasai'r cwmni fan- teisio mwy ar y rhannau cynhyrfus, e.e., pan ddaw Marian i mewn i sôn am frad y mab Idwal, a phan benderfyna'r tad, Cadfan, ddial trwy ladd ei fab ei hun yn y twr, a gwneuthur hynny er gwaethaf erfyn ei wraig a'i ferch. Gwnaethpwyd y rhan hon yn dda iawn eto, credir bod lIe i gynhyrfu mwy ar y gynulleidfa. Diwedd gorfoleddus. Er ei byrred, y mae golygfa gyntaf y drydedd act yn un o rannau mawr y ddrama ­pan wêl y tad ei ferch a Howell yn cusanu, pan orfoda hi i wneuthur llw i beidio â gweld ei chariad mwy, a phan benderfyna'i hanfon hi i ffwrdd. Erbyn yr olygfa olaf, y mae problem Howell (R. J. Lloyd-Jones) yn anodd beth a wna-caru Gwyneth, ynteu achub Gwent ? Cred Gwyneth mai'r unig ffordd i ddatrys y broblem yw iddi hi ei boddi ei hun, a gedy'r llwyfan i wneuthur hynny, a'i morwyn yn canu a chwarae'r delyn iddi. DRAMA NEWYDD Mr. J. O. Francis Gan RHYS PUW Ceir diwedd gorfoleddus i'r ddrama pan edy Howell gorff marw'i gariad Gwyneth yn yr ystafell, a rhuthro allan i ateb galwad lleisiau ei filwyr, a'u harwain yn erbyn y Normaniaid i ryddhau Gwent. Boddhau'r awdur. Wedi galwad brwd gan y gynulleidfa am air gan yr awdur, dj-wedodd Mr. Francis ei fod wedi ei foddhau'n fawr yn y perfformiad a'r chwaraewyr. Arbrawf oedd y ddrama," meddai, "ac fel pob arbrawf, cyfyngwyd hi'n fawr. Credaf ei bod yn amser cyfoethogi mudiad y ddrama yng Nghymru trwy durio i hanes Cymru am gynnyrch ddrama, a gall hanes ein gorffennol roddi inni ddramâu rhagorol." Edrychaf ymlaen yn fawr at berfformiad Cymraeg o'r ddrama newydd hon, ac am ei gweld mewn print. Ond bydd yn anodd iawn, os nad yn amhosibl, i gwmnïau bychain ei pherfîormio'n llwyddiannus. Yn ystod y tymor, fe berfformiwyd tair drama fer arall yn y coleg Y Potsiar (J. 0. Francis), Incident in an Inn (Jack Griffith), a The Crimson Cokernut (Ian Hay). Y tymor nesaf perfformir Dros y Dŵr (W. J. Gruffydd) a Chanmlwydd Oed," gan chwaraewyr y Coleg. "Ty Dol" yn uchaf. Trefnwyd cystadleuaeth ddrama Llan- debie eleni yn ôl awgrymiadau'r British Drama League, ac ni roddwyd gwobrau mewn arian. Rhoddwyd tair noson i ddramâu Cymraeg, a thair i rai Saesneg. Cwmni enwog Mardy, Rhondda, a enillodd y Ue cyntaf gyda llawer o ganmol am Y Tý Dol (Ibsen), yn yr adran Gymraeg, a chafwyd chwarae rhagorol ganddynt. Yr oedd siarad y cymeriadau'n naturiol, a chelfyddyd y mynd-a-dod yn dda iawn. Dyma ddiffyg y ddau gwmni Cymraeg arall, -Maesteg, a chwaraeai Gwraig y FfermwT" (Eden Phillpots—cyf. D. Mathew Williams), a Bethel, Aberdâr, a chwaraeai Y Pwyllgor- ddyn (J. Ellis Williams). Yr oedd gwaith cynhyrchu da ar Wraig y Ffermwr," a chafwyd perfformiad da ar y cyfan o'r Pwyllgorddyn." Ychydig ddyddiau cyn hynny, gwelsom berfformiad cyntaf o Mwg "-ffars newydd Leyshon Williams mewn tair act, gan gwmni Gunstore Jones yn Rhydaman. Y mae'r cwmni hwn yn brysur iawn yn y Deheudir, ac y mae ganddynt nifer o ddramâu ar dro. Y mae llawer o hwyl a difyrrwch yn y ffars hon, a gwnaeth y chwaraewyr waith da ar eu perfformiad cyntaf, er y teimlem yn aml mai Mr. Jones ei hun yw prif ysgogydd y cwmni ac allwedd y llwyddiant. LLYFRAU'R FORD GRON Y Llyfrgell Gymraeg rataf erioed Trysorau r Iaith Gymraeg Chwe cheiniog yr un. Ugain o deitlau. ≁ 1. PENILUON TELYN. 2. WILUAMS PANTYCELYN: Temtiad Theomemphus. 3. GORONWY OWEN: Detholiad o'i Fardd- oniaeth. 4. EMRYS AP IWAN Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, L 5. EMRYS AP IWAN Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, IL 6. DAFYDD AP GWILYM: Detholiad o'i Gywyddau. 7. SAMUEL ROBERTS: Heddwch a Rhyfel (ysgrifau). 8. THOMAS EDWARDS (Twm o'r Nant): "Anterb'wt Tri Chryfion Byd." 9. Y FICER PRICHARD: Cannwyll y Cymry. 10. Y MABDMOGION: Stori Branwen ferch Uyr, a Stori Lludd a Uefelys. 11. MORGAN LLWYD: tUythyr at y Cymry Cariadus, a Barddoniaetb. 12. Y CYWYDDWYR Detholiad o'a Barddoniaeth. 13. ELIS WYNNE: Gweledigaeth Cwrs y Byd (Y Bardd Cwsg). 14 EBEN FARDD: Detholiad o'i Farddon iaeth. 15. THEOPHILUS EVANS: Drych y Prif Oesoedd (Detholiad). 16. JOHN JONES, GLAN Y GORS: Seren Tan Gwmwl. 17. SYR JOHN MORRISIONES: Salm i Famon, a Marwnad Gray. 18. GWILYM HIRAETHOG Bywyd Hen Deüiwr (Detholiad). 19. SYR OWEN EDWARDS: Ysgrifau. 20. ISLWYN: Detholiad o'i Farddoniaeth. ≁ 6d. yr un, trwy^bob llyfrwerthwr HUGHES A'I FAB, WRECSAM.