Stori gan ANATOLE FRANCE Off èreii y Meirw TORRWR beddau oedd fy nhad, druan, pan oedd ef byw, meddai'r clochydd. Yr oedd o dymer siriol,effaith ei alwedigaeth yn ddiamau, oblegid y mae'n ffaith bod y rhai sy'n gweithio mewn mynwentydd yn llawen eu hysbryd. Nid yw angau'n eu dychryn, ni feddyliant byth amdano. O'm rhan i, syr, cerddaf i mewn i fynwent yn y nos mor ddi-gyffro â cherdded o dan y bwa dail yma. Ac os dichon imi gyfarfod ysbryd, nid wyf yn anesmwytho dim, ond meddwl y gall ei fod ef, fel finnau, yn mynd o gwmpas ei bethau. Yr wyf yn deall arferion y meirw, a'u natur, ac mi wn rai pethau ar y pwnc yma nad yw hyd yn oed yr offeiriaid yn gwybod dim amdanynt. Ped adroddwn y cwbl a welais i wrthych, synnech yn fawr ond nid yw'n ddoeth dywedyd y cwbl a wyddom, ac ni ddat- guddiodd fy nhad mo ugeinfed ran yr hyn a wyddai, er ei fod mor hoff o adrodd straeon. Ond yn dâl am hyn, fe ail-adroddai'n aml yr un hanesion, ac fe ddywedodd hanes rhyfedd Catrin Fontaine ganwaith i'm cof i. HEN ferch oedd Catrin Fontaine y cofiai ei gweld pan oedd yn blentyn. 'Synnwn i ddim nad oes eto 0 leiaf dri hen ŵr yn y wlad a gofia glywed sôn amdani, oblegid yr oedd yn adnabyddus iawn, a chanddi enw da, er ei bod 'hi'n dlawd. Yr oedd hi'n byw yn y tŵr bach a welwch ar gongl yr ystryd yna, y tŵr sy'n pwyso ar yr hen blas wedi hanner adfeilio sy'n wynebu gardd y Lleiandy. Y mae ffigurau ac ysgrifen, wedi eu hanner ddileu, ar y tŵr, a dywedai diweddar offeiriad yr eglwys yma mai geiriau Lladin am Y mae cariad yn drech nag angau sydd yno. Cariad dwyfol y mae'n feddwl, meddai ef. Yr oedd Catrin Fontaine yn byw ar ei phen ei hun yn y ty yma. Gwneuthur eddi (laes) oedd ei chrefIt-chwi wyddoch fod eddi'n gwlad ni yn enwog gynt. Ni wyddai neb am berthnasau na chyfeillion iddi. Fe ddywedid ei bod wedi caru marchog ieuanc pan oedd hi'n ddeunaw oed, a bod y ddau wedi eu dyweddïo ond ni fynnai'r bobl fawr gredu dim o'r fath. Dywedent hwy mai chwedl ydoedd wedi ei dychmygu gan rywun am fod golwg fonheddig yn hytrach na gwerinol arni; a bod olion prydferthwch mawr o dan ei gwallt gwyn, a'i bod yn edrych yn drist, ac yn gwisgo un o'r modrwyau hynny ar ei bys ag arnynt ddwy law ymhleth, modrwyau a roddid gan gariadon i'w gilydd adeg dyweddïo. Cewch glywed beth oedd y fodrwy yn y man. "Yr oedd Catrin Fontaine yn byw'n dduwiol. Mynyehai'r eglwysi, ac âi bob bore, beth bynnag fyddai'r tywydd, i glywed yr offeren chwech o'r gloch yn eglwys Sant Eulalie. Un noson ym mis Rhagfyr, pan oedd hi'n cysgu yn ei hystafell fechan, deffrowyd hi gan sŵn clychau. Gan feddwl mai clycjiau'r offeren gyntaf oeddynt, dyma'r ferch ddefosiynol yn gwisgo amdani a disgyn i'r heol, oedd mor dywyll fel na welid dim o'r tai, na'r golau lleiaf yn yr wybren chwaith. YN y tywyllwch yma fe deyrnasai distawrwydd mor llwyr fel na chlywid yr un ci'n cyfarth yn y pellter, a theimlai Catrin Fontaine fel pe bai ar ei phen ei hun yn y byd. Ond yr oedd yn adnabod pob carreg y gosodai ei throed ar ni, a gallsai'n hawdd fynd i'r eglwys â'i llygaid yngháu. "Cyrhaeddodd hyd at gongl yr ystrvd heb anhawster, Ue y mae'r tý pren a phlan- higyn Jesse wedi ei gerfio ar drawst mawr iddo. Oddi yno, gwelai fod drysau'r eglwys yn agored a golau llawer o ganhwyllau i'w weld trwyddynt. Parhai i gerdded, ac ar ôl mynd i mewn trwy'r porth, cafodd ei hun yng nghanol cynulleidfa fawr a lanwai'r eglwys. Ond nid oedd yn adnabod neb yno, a synnai weld yr holl ddynioh mewn dillad melfed wedi ei frodio, a phlu yn eu hetiau, yn cario cleddyf yn null yr hen amser. Yr oedd yno arglwyddi yn cario ffyn hir a dwrn aur arnynt. a boneddigesau'n gwisgo eddi ar eu pennau a chrib fel coron yn ei ddal. "Rhoddai marchogion Sant Louis eu llaw i'r boneddigesau a guddiai, y tu ôl i'w ffan, wynebau wedi eu peintio, a rhan uchaf yr wyneb oedd y cwbl a welid yn bowdr i gyd, ag ysmotyn du wrth gil y llygad. Aent oll i'w Ue yn hollol ddi-stwr ac ni chlywid swn eu traed ar y cerrig pan gerddent, na siffrwd eu dillad. Yr oedd yr ochrau ym mhen pellaf yr eglwys yn llawn o weithwyr ieuainc mewn cotiau Uwyd, clos cotwm, a hosanau glas, a'u breichiau am ganol merched ieuainc gwritgoch, prydferth iawn a edrychai i lawr yn yswil. "Ac yn ymyl y cawgiau dŵr swyn, eisteddai gwragedd o'r wlad mewn peisiau cochion a charrai yn cau rhan uchaf eu gwisg, mor dawel ag anifeiliaid dof, a throai'r bechgyn, oedd yn sefyll ac yn rhythu y tu 61 iddynt, eu hetiau yn eu dwylo. Ac i bob ymddangosiad yr oedd yr holl bobl ddistaw yma wedi ymgolli yn yr un meddyliau mwyn a thrist. PAN oedd hi ar ei gliniau yn ei Ue arferol, gwelodd Catrin Fontaine yr offeiriad yn cerdded tua'r allor y tu ôl i ddau gurad. Nid oedd hi'n adnabod yr un ohonynt. Dechreuwyd yr offeren, ac offeren ddistaw ydoedd. Ni chlywid yr un sŵn o'r gwefusau oedd yn symud, na sŵn canu'r gloch a ysgydwid yn ofer. Cyfieithiad GWENDA GRUFFYDD Teimlai Catrin Fontaine ei bod dan lygad a dylanwad rhywun dirgel oedd yn ei hymyl, a phan edrychodd arno gyda chil ei llygad, canfu mai'r marchog ieuanc, d'Aumont-Clery ydoedd, a'i carasai ac a fuasai farw ers pum mlynedd a deugain. Adnabu ef oddi wrth farc bychan oedd o dan ei glust chwith, ac yn anad dim oddi wrth y cysgodion a wneid ar ei ruddiau gan ei amrannau hirion, tywyll. Yr un wisg hela goch, gydag addurn aur arni, oedd amdano yn awr ag a wisgai'r diwrnod hwnnw pan gyfarfu hi ag ef, yng Nghoed Sant Léonard, pan ofynnodd iddi am ddiod, a chymryd cusan. Cadwasai ei ieuenctid a'i olwg hardd. Pan wenai, dang- osai fel cynt ddannedd fel dannedd blaidd ieuanc. Meddai Catrin wrtho yn isel Syr, chwi a fu'n gariad imi ac a gafodd gennyf gynt yr hyn sydd werthfawr iawn i ferch, maddeued Duw i chwi! Bydded iddo blannu ynof innau edifeirwch am y pechod a gyflawnais gyda chwi, oblegid y gwir yw, er bod fy ngwallt yn wyn, a'm dydd yn dirwyn i ben, nad yw yn ddrwg gennyf eto fy mod wedi eich caru. Ond, f'arglwydd hardd, dywedwch wrthyf pwy yw'r bobl hyn, yng ngwisg yr hen amser, sydd yn gwrando ar yr offeren ddistaw yma ATEBODD y marchog d'Aumont-Clery mewn llais oedd wannach nag anadliad ac eto yn gliriach na'r grisial Catrin, eneidiau o'r purdan yw'r dynion a'r merched yma, a ddigiodd Dduw trwy bechu fel ninnau, a garodd yn drachwantus, ond nid ydynt am hynny wedi eu torri ymaith oddi wrth Dduw gan fod eu pechod, fel yr eiddom ninnau heb falais. Y maent wedi eu gwahanu oddi wrth y rhai a garent ar y ddaear, a thra'r ymburant yn .nhân poeth y purdan. dioddefant boenau creulonaf hiraeth. Y mae eu cyflwr mor druenus fel y tosturia angel o'r nefoedd wrth eu poenau serch, a chyda chaniatâd Duw fe aduna, bob blwyddyn, am un awr o'r nos, y cariadon yn eu heglwys blwyf, lIe y caniateir iddynt ddal dwylo'i gilydd a gwrando ar offeren y meirw. Dyna'r esboniad ar hyn oll. Os rhoddwyd imi dy weld yma, Catrin, cyn dy farw. ni wnaed hyn heb ganiatâd Duw.' Ac atebodd Catrin Fontaine iddo Dymunwn yn wir farw er mwyn fy ngwneuthur yn brydferth eto, fel yn y dyddiau hynny pan roddais ddiod iti, fy arglwydd marw, yn y goedwig.' TRA y siaradent fel hyn yn isel, daeth hen ganon o gwmpas i gasglu. Cyf- lwynai blât mawr copr i'r gynulleidfa a rôi ynddo, un ar ôl y llall, hen arian na fuasai mewn cylchrediad ers talwm, a syrthiai'r darnau arian mewn distawrwydd. I dudalen 72