Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Am nad oedd gennyf i brofiad o samona penderfynodd Wil mai gwell fuasai i mi gario'r ffagl a gadael iddo ef fachu, gan fod codi'r samon yn gryn dipyn o gamp. Cyrraedd glan yr afon a phwll Dôl Ystrad. Dyma Wil yn tynnu'r botel o'i boced, arllwys y paraffin ar y dorch, a rhoddi matsen ynddi, a'r funud nesaf llosgodd yn fflam goch ffyrnig, a thawch y paraffin yn treiddio'r holl awyr, a su'r fflamau fel su cragen ar glust. Gafaelais ynddi ac aethom ein dau i lan y dŵr a minnau'n dal y ffagl mor agos i'r wyneb ag y medrwn. Cerdded a cherdded heb sôn am samon. Gwelsom ambell frithyll yn gorwedd yn dawel, a gwelsom un llysywen yn nyddu fel neidr trwy'r dwfr tawel. O'r diwedd, dacw fe, yn gorwedd mor urddasol â brenin ar ei orsedd. Yr oedd fel darn byw o arian yn y dwfr, ac yn gorwedd yn hollol ddiymwybod o'i berygl. Rhoddodd Wil y bach ynddo, ond 0 yr ym- drech a'r ymladd cyn ei gael i'r wyneb, a'r ymdrech a'r ymladd i'w ladd drachefn. oblegid yr oedd yn glampyn o bysgodyn a nerth nid bychan yn ei gynffon bywiog. Llwyddasom i'w ladd a'i roddi yn y ffetan a chychwynasom adref yn ofalus a distaw rhag ofn bod rhywrai wedi gweled goleuni ein ffagl ar y dwfr. Nid ydoedd Wil, fwy na minnau, am syrthio i law'r gyfraith. Yn ôl drwy'r caeau a thros y gamfa i'r ffordd fawr, a ninnau'n canmol ein lwc gan na welsom yr un enaid byw ar ein taith anghyfreithlon. Yr oedd tipyn o bwysau yn y samon, ac yr oeddwn i yn ei gario bob yn ail â Wil. Pan ydoedd gennyf i, a minnau'n cerdded yn frysiog a thawel i gyfeiriad Glanteifi, dyna lais sydyn o'n hôl yn gweiddi. Troais, a dychmygais weled botymau gleision yn disgleirio yng ngolau'r lloer. Dyma fi'n gollwng y sach ac i ffwrdd â mi cyn gynted ag y gallai fy nhraed fy nghario -3 a Wil yntau yr un modd i gyfeiriad arall. Cyrhaeddais adref a'm hanadl yn fy ngwddf, a methais gysgu'r un llygedyn. JJRANNOETH disgwyliwn Jones y Plismon heibio bob munud, ac yr oedd gormod ofn arnaf i fentro allan tros garreg y drws. Nid oedd gennyf air i neb, ac nid oedd flas at damaid o fwyd. Wedi iddi nosi mi euthum i'r gweithdy ac, er llawenydd i'm calon. yr oedd Wil yno o'm blaen. Dyna'r tro cyntaf i mi deimlo'n hapus y dydd hwnnw. Holai Deio lawer iawn ynghylch y samona, ac yn lIe dangos iddo fel yr oeddem wedi colli'n hysglyfaeth dywedodd Wil nad oeddem wedi gweled yr un, er chwilio a chwilio. Ond yr oeddwn i ar binnau ac eisiau cael Wil ar ei ben ei hun a chael gwy- bod a glywodd ef rywbeth. Dywedais fod yn rhaid i mi fynd, a winciais ar Wil. Cododd Wil hefyd. 'Rhoswch," ebe Deio, 'rwyf am i chwi aros gennyf i swper eich dau." Ni wnai'r un esgus y tro. Yr oedd yn rhaid aros, a ffwrdd â ni i'r gegin. Yno yn ein disgwyl yr oedd y tri platiaid o'r samon neisiaf a welsoch erioed! Edrychais i ar Wil, edrychodd Wil arnaf innau, ac edrychodd Deio arnom ein dau, YR HEN WEITHDY Etsiad o waith Llywelyn ap Gwynn, mab yr Athro T. Gwynn Jones, Aberystwyth. a thorrodd allan i chwerthin yn iachus, a ninnau gydag ef oblegid yr oeddem yn rhy falch wrth feddwl ein bod yn ddynion rhydd i gofio'n profiad chwerw. Chwarae teg i Deio hefyd, Wil a minnau gafodd y rhan helaethaf o'r samon. Dyna'r unig dro y bûm i yn samona. ANGEN CYMRU. GWEIDDI yr ŷm, gweddw yw'r iaith, Am ŵr yn medru mawrwaith- Rhyw Daleisin, bin byw, aur Neu Lywarch Hen a'i loywaur; Campwr o nerthi­cydnerth cu, Mab Cynin ym mhob canu; A thelynwr coeth luniad, Un mor fyw â Nanmor fad; Homer o lin Cymru lannerch Yn medru iawn edmygu merch, A chanmol, ddwyfol ddyfais; Achel o Gelt uchel gais; Clerwr a wnai ddisgleirwaith Yn neuaddau duwiau'r Daith. A gwirbrin ŵr âi gerbron Iau Ym Mhalas y Cymylau. WILLIAM EVANS. Pentraeth, Sir Fôn.