Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD Y MERCHED: Y "Llyfr Bwyd" ar ei brawf Gan MEGAN ELLIS. YR wyf am droi'n lleidr y tro yma, ac am ladrata fy recipes o'r llyfr bwyd Gymraeg newydd-y Llyfr Prydiau Bwyd gan Myfanwy Eames. Bûm yn pitïo lawer tro nad oedd dim un "nyfr bwyd" modern i'w gael yn Gymraeg. ac mi fûm yn meddwl am wnend un fy hun. Qnd dyma Myfanwy Eames wedi achub y blaen arnaf. Wel, croeso i'r llyfr, a llon- gyfarchiadau calonnog i'r awdures. Mi gefais y llyfr ddechrau'r mis, a byth er hynny yr wyf wedi bod yn ei roddi ar brawf. I frecwast, i ginio, i de, ac i swper. Myfanwy Eames sydd wedi bod wrth fy mhenelin i'm helpu i borthi fy nheulu. VN BAROD AT YR HAF: Gwisg ysgafn syml. Hawdd fyddai gwneud un fel hyn, yn organdi, foil cotwm, neu georgette sidan, gan dycio'r hem a chael llewysau bychain pwff. Y mae'r llyfr wedi dyfod trwy'r prawf yn llwydd- iannus. Ac yn awr dyma a finnau'n d w e u d wrthych chwithau — ceis- iwch hel deuswllt cyn gynted ag y gellwch i'w brynu. Cadwch ef wrth eich penelin, dilynwch ei gyngor —fe fydd pob pryd yn fwy diddorol, ac fe fyddwch chwi- thau toc yn feistres ac yn frenhines ar fwyd! "Tybed na fedrwn ni wneud pryd o fwyd yn ein hiaith ein hun- ain?" ebe'r awdur. Wel ie, yn wir, tybed? Y mae'r llyfr hwn yn profi y medrwn. 1 mae 22 o benodau yn y llyfr, set: 1, Nodweddion Ymborth Da; 2, Swyn y Gegin; 3, Cynllunio'r Prydau; 4, Ciniawau; 5. Cawl a Photes; 6, Pysgod; 7, Cigoedd; 8, Adar; 9. Llvsiau Gardd; 10, Sawsau; 11, Pwdin; 12, I'r Bwrdd Te; 13, Seigiau Blasus i Swper; 14, Melysfwyd at Swper; 15, Borefwyd; 16, Salad; 17, Bara Enllyn (Sandwiches); 18, Ymborth i'r Claf; 19, Teisenni; 20, Bara; 21, Stiwio Ffrwythau; 22, Diodydd. Syniad da oedd rhoi, ym mhennod 3, gyn- llun o brydau am bob dydd o'r wythnos, a'r rheini'n wahanol am bedwar tymor y flwyddyn. Yn wir, y mae dau gynllun, y naill yn rliatach na'r llall. Hoffaf y llyfr am ei fod mor ddefnyddiol —y maes yn ddigon mawr, ond heb fod yn rhy fawr. Y mae'n llyfr y gall pawb ohonom ei feistroli, o un pen i'r llall. Y mae llawer o'r "seigiau at swper" a wnai at ginio, a llawer o'r "melysfwyd at swper" ac "i'r bwrdd te" a wnant yn iawn yn felysfwyd i ginio. Hynny yw, wedi i chwi ddyfod i adnabod y llyfr, nid oes dim rhaid glynu'n gaeth wrth y penodau. Gellwch sboncio yma ac acw. Peth arall y carwn ei weld ynddo—myn- egai A.B.C. ar y diwedd. Pan ddaw'r adeg i ail-argraffu gobeithiaf yr ychwanegir hyn. Dyma i chwi esiamplau o'r hyn sydd ynddo. (Y mae'r cyfan mewn print bras G WISG GERDDED Stocinét gwyrdd emrald y bodis yn cael ei gau gan fotymau gwyrdd tywyll a choler, gwregys a llewysau is wedi eu gwneud o stocinét tywyllach i gyfateb â'r botymau. Het wyrdd dywyll wedi ei thrimio á rhuban emrald. yn llyfr. Pan fydd ein dwylo yn y blawd gallwn ei osod i sefyll o'n blaenau, a'i ddar- llen heb drafferth): CACEN AFALLON. DEFNYDDIAU— Hanner puys o flawd. Hanner peint o afalau 2 wy. wedi eu stiwio. 2 owns o gnau Ffrcngig. Llond llwy de o carbon- 4 owns o gyrains. ate of soda," a'r un 4 owns o resins. faint o bowdr cin- 5 owns o fenyn. namon. 6 owns o siwgr. Sunsur a speis. Croen lemon. Dwy owns o 'mixed peel.' B ATHRWM ORAENS A MELYN.