Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL II, RHIF 7 MAI 1932 MAY Yn y Rhifyn Hwn DYFFRYN MAETHLON A'R CAPEL. (tudalen 10). CYMRU'N DDARNAU MAN (E. D. Rowlands). DWEUD WELE NI WRTH Y BYD (J. C. Griffith Jones). HEICIO YN Y BRYNIAU (Margaret Davies). EIN TEML YN OGOF LLADRON (John Rhys). BARDDONIAETH DAU DRAMP (R. Williams Parry). PERFFORMIAD CYNTAF "HYWEL HARRIS" (Rhys Puw). BETH OEDD SAFONAU SYR JOHN MORRIS-JONES? (J. Vendryes). CANRIF FAWR CYMRU (Edward Francis). Pentrefi Cymru, Cymdeithas Henry Richard. Y Ffasiynau, Ymysg Pobl, Ein Barn Ni, Hanes Cymry'r Byd, etc., etc. The Popular Monthly of Wales and the Welsh People throughout the World PRIS 6_9. Y mae Gwynfyd mewn Iechyd Y MAE plant iach yn ogoneddus o fyw. Mwyn- JL hant bob munud o bob dydd. Ar fwydo cywir a maeth iawn y dibynna'r iechyd sy'n dwyn dedwyddwch. Pwysicach na faint o fwyd a fwyteir ydyw faint o faeth a dynnir ohono. Dyna paham y dylai Ovaltine fod yn ddiod- fwyd beunyddiol i bob plentyn. Y mae'r diodfwyd blasus hwn wedi ei gynhyrclu'n wreiddiol o frag haidd, Haeth newydd, ac wyau ffres. OVALTINE' DIODFWYD SY'N CRYFHAU Ymennydd, Nerf a Chorff. Prisiau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, 1/1. 1/10 a 3/8 y tun. F678