Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron HWB I'R DDRAMA. At Olygydd Y FoRD Gron. P LESER digymýsg oedd darllen syl- wadau Rhys Puw yn Y Ford Gron. Os llwydda pwyllgor Eisteddfod Genedl- aethol 1933 (Wrecsam) i gario allan raglen mor uchelgeisiol, dyna gychwyn pennod newydd yn hanes y Ddrama a'r Eisteddfod. Er bod y syniadau yn ymddangos yn chwildroadol, mae'r gwaith yn sicr o lwyddo ond cael cefnogaeth a chydweithrediad llwyr y pwyllgor lleol. Y mae mudiad y ddrama Gymraeg yn gweiddi am gymorth a chynorthwy y Brif- ysgol a'r Eisteddfod. Meddylier am wyth- nos gystadlu Treorci—diwedd Ionawr—у pwyllgor yn trefnu dwy gystadleuaeth. Cymraeg a Saesneg, a gwobrau anrhyd- eddus ym mhob un, ond yn methu cael cystadleuaeth yn yr adran Gymraeg. Bu raid troi'r wythnos ar ei hyd yn Saesneg- a'r gynulleidfa'n awyddus am glywed y Gymraeg. Xid yn unig "Lie mae'r bai yn gorwedd?" ond Beth ellir ei wneuthur i symud y rhwystrau? yw'r broblem sydd yn fy mlino i. Y mae bwriadau pwyllgor Wrec- sam yn gam pendant i'r cyfeiriad iawn. Rhwydd hynt iddynt ddywedaf i. a phob bendith ar vr ymdrech. D. HAYDN DAVIES. Macrdy, Rhondda. Newyddion Rhys Puw. At Olygydd Y FoRD GRON. ER holl ddiddordeb Y Ford Gron ym mis Chwefror, teimlaf fod y cyfan o'i gyn- nwys yn gwelwi wrth ochr llith y brawd Rhys Puw," a theimlaf chwant i weiddi Hwrê ar ymgais ardderchog Pwyllgor Drama Eisteddfod Genedlaethol 1933 (Wrecsam) i fentro ym mhlaid y ddrama erbyn mis Gorffennaf nesaf. Mawr nerth fo iddynt yn eu hymdrech; bydded i bob un a garo'r ddrama led-led y deyrnas eu cefnogi er gwneuthur Gŵyl Ddrama'r Cyhoeddi eleni yn llwyddiant ymhob ystyr. Gan mai Gŵyl sydd i fod, heb arlliw cystadleuaeth ami, ceir gweld yno, mi obeithiaf, gwmnïau nas adwaenir gan Gymry'n gyffredin, yn arddangos y gallu a'r medr a ddaeth iddynt trwy hir brofiad. Caredigion celf y Ddrama ydyw'r rhain, heb blygu erioed i offrymu gerbron allor Elw. Oes, mawl a fo, y mae cwmniau felly hyd yn oed yng Nghymru! Cefais brofiad go faith ynglyn â Gŵyl Gystadlu yn Lloegr. Penderfynasom un flwyddyn i beidio â chynnig gwobrau y flwyddyn nesaf. Petrusem yn hir cyn pen- derfynu, a phryderu a wnaethom wedyn. Ond. ddiwrnod cau rhestr y cystadleuwyr, mawr fu'n llawenydd. Yr oedd y rhestr bron wedi dyblu mewn nifer! Y mae'r ŵyl honno ymysg y gorau yn y wlad heddiw, a rhif y cystadleuwyr yn cynyddu o hyd. Pe deuai gwmni neu gôr gwledig ymysg y lleill, ac ennill safon weddol yn eu mysg, byddem yn estyn cyf- raniad iddynt tuag at y treuliau; heddiw nid oes gymaint ag un a ddisgwyl gymorth felly. Eto, ar gychwyn Gŵyl Ddrama'r Cyhoeddi, ac yn enwedig pan gofiom ddir- wasgiad masnach ein bro, meiddiaf awgrymu'r peth yn garedig i sylw'r Pwyllgor effro. JOHN RHYS (Hymyr). Congleton, Sir Gaer. Ymfalchio. At Olygydd Y FoRD Grox. G WN ani dref sy bron mor agos i'r Iwerddon ag ydyw i Loegr, lle y mae llawer o Gymry ieuainc. yn methu siarad Cymraeg yn rhwydd. Tref yw hon a llawer o Wyddelod yn byw ynddi, a rhai o'r Cymry yn dueddol i anwv- byddu pethau Cymraeg. Gwn am eraill penwan sy'n mynd i Loegr ac yn cymryd arnynt eu bod wedi colli eu Cymraeg. Y gwir yw na fedrant Gymraeg na Saesneg yn gywir, ac felly y maent yn ddirmygus yng ngolwg Cymro a Sais. Paham na fedrwn ní oll ymfalchio yn ein gwlad, a siarad ein hiaith ein hunain bob amser? Talwrn, Sir Fôn. 1 DY DEYRNAS DOED, O DDUW. H Pan oedd Mr. Lloyd George ar ei fordaith tuag adref o Ceylon yn ddiweddar,fe I ganwyd yr emyn Thy Kingdom come, O God," mewn gwasanaetb yn y llong. Fe gyjfyrddodd ag ysbryd Mr. Lloyd George. Aeth ar y dec, a throi'r emyn i g Gymraeg, fel hyn DY Deyrnas doed, 0 Dduw, Gwatwarant D'Enw Mawr, Boed Crist yn Llyw yn awr; Difrodant 'nawr Dy wyn, A'th wialen haearn tor Gweithredoedd llawn o warth j Holl ormes uffern fawr. Sy'n darth dros gariad mwyn. ] P'le mae teyrnasoedd hedd Ein gweddi beunydd yw- < A'r wledd 0 gariad byw ? Doed Duw yn ei holl rym Pryd derfydd dieter du I nerthu'r enaid gwan j Fel fry yng ngwyddfod Duw ? O dan ddrycinoedd llym. Pryd daw yr hyfryd Ddydd Tros diroedd maith di/gred Pan na bydd rhyfel lem, Y caddug led 0 hyd, A thrawster a phob chwant O Seren Wen y Wawr, Yn dianc rhag Dy drem Goleua'r llawr i gyd. T. W. E. "Gŵr Pen y Bryn." At Olygydd Y Ford GRoN. GOFYNNAIS yn ddigon pendant ac eglur i Mr. G. O. Williams brofi ei bwnc mai Paid â chael dy ddal yw gwers y nofel Gŵr Pen y Bryn." Ei ateb yw bod crac yn y cynllun a bod troedigaeth yn beth araf. Digrif iawn wir! I Nid yw'n cynnig hanner brawddeg i gyfiawnhau ei osodiad. Y mae'n hollol fel petaswn i wedi ei gyhuddo ef o fod yn llygadgroes, ac wedyn yntau'n gofyn imi brofi'r pwnc, ac i minnau, fel ateb, roi hanner colofn o'r Ford Gron i haeru ei fQd yn gloff yn ei goes chwith. Os temtir ef eto i roi barn ar lyfr heb ei ddarllen i'r diwedd, efallai y bydd hyn yn wers iddo ofalu na thyrr yr unfed gorchymyn ar ddeg-" Paid â chael dy ddal —fel y tro hwn. E. TEGLA DAVIES. Gwynant, Bangor. Y Ford Gron" mewn cas. At Olygydd Y FoRD GRoN. F Y null i o rwymo'r deuddeg rhifyn cyntaf Y FoRD GRON ydyw eu cau mewn syring-back file. Awgrymaf hyn i ddarllen- wyr eraill Y FoRD GRON fel moddion da i gadw'r rhifynnau wrth ei^gilydd. W. J. WILLIAMS. Niwbwrch, Sir Fôn. Ysgrifenna darllenydd arall: Yr wyf newydd weld Cyfrol I, Y Ford GRON wedi ei rhwymo mewn Iliain. Dyma miscellany Cymraeg godidog." D. LLOYD GEORGE.