CYFROL II. RHIF 6. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. London Manager: Hr. E. Greenwood, 231-2 Straud. "Dewch i Gymru." UNWAITH eto fe garai'r Ford Gron bwyso ar Gymru i ddweud wrth y byd amdani hi ei hun. Fe ddaw'r haf toc, a chydag ef, os heuwn yn ofalus, fe ddaw cynhaeaf. Mawr yw'r cymell sydd ar drigolion Prydain i aros gartref eleni, a pheidio â gwario arian y tu allan i'r ynysoedd hyn. Cymell doeth a chall ydyw, yn wyneb gostyngiad y bunt ar y Cyfandir a led-led y byd. Y mae Lloegr yn hollol effro i'r cyfle a ddaw am fasnach newydd yr ymwelwyr o bob rhan o'r deyrnas. Tyst o hynny yw'r hysbysiadau mynych a welir yn newydd- iaduron y wlad, a hysbysebu gwych ydyw hefyd gan mwyaf. Ond ni welsom un hysbysiad yn gwa- hodd pobl i Gymru. Paham? Pwyswn ar fasnachwyr a thrigolion pentrefi glannau'r môr i ddeffro i'w cyfle. Mynner hysbysebu, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd ym mhapurau'r Deyrnas hon ac America. Bydded y gwahoddiad yn gynnes, testun yr apêl yn ddeniadol, a'r testun yn cael ei egluro gan ddarluniau celfydd o ogoniannau'r fro y cymhellir pobl i ddod iddi. Pe sicrheid llawlyfr a'i hysbysebu i'r byd, fe ddeuai mwy o ymwelwyr i Gymru eleni nag odid un adeg o'i hanes. Oher- wydd cyflwr y bunt, y mae'n bosibl i bobl o wledydd eraill dyrru i'n gwlad os cânt eu denu atom. Gallai'r awdurdodau lleol uno i gyhoeddi llyfr felly, gan gynnwys ynddo holl atyniadau Cymru, dde a gogledd. Y mae'n hen amser inni foli prydferth- ion Cymru yng ngwydd y byd. Byddai'n rhaid inni wrth lawer o baratoi cysuron ar gyfer y dieithriaid, a chyfle gwych fyddai inni ddangos mai cenedl ydym sy'n haeddu ei lIe cyfiawn ymysg cenhedloedd y byd. Mawr fydd ein colled oni fyddwn yn barod i'n cyfleustra ym misoedd y gwanwyn a'r haf nesaf. Cyfle'r Ffermwyr. FE welir yn ddigon buan mai annoeth fu gosod tollau yn erbyn y pethau a ddygir yma 0 wledydd tramor. Ond eu gosod a wnaethpwyd, ac ymhlith y pethau a dollir y mae tatws cynnar a bwydydd cyffelyb a gyfrifir yn foethus. Bellach nid fel tollwyr a masnach- wyr rhydd y dosberthir ffermwyr Cymru, ond yn ôl maint eu penderfyniad a'u gallu i fanteisio ar y cyfle i gael tipyn rhagor o elw o'r tir. Fe ddanfonai ffermwyr gwledydd eraill werth cryn wyth miliwn o bunnau bob blwyddyn i'r wlad hon o datws cynnar, moron, brocoli, a'u tebyg. Yn ôl tystiolaeth prifathro coleg amaeth Madryn, y mae can- noedd o aceri o dir yn siroedd Gogledd Cymru, sy'n hollol gymwys at dyfu'r pethau hyn, a chan y bydd y llysiau tramor bellach yn rhy ddrud oherwydd y doll fe ddaw cyfle eithriadol i gael gafael yn y farchnad. Tir ysgafn, cynnes, yn ymyl y môr ac yn wyneb yr haul yw'r tir gorau i'r pwrpas. Fe delai'n dda i ffermwyr y glannau gymryd golwg eang, eofn ar y mater. Fe gyfyd pwnc y marchnata yn ei dro. ac fe rydd gyfle rhagorol i'r cymdeithasau cydweithredu brofi eu gwerth. Digon, i gychwyn, yw cael yr hadyd i mewn yn brydlon-ac nid rhyw geiniogwerth chwaith. Rhagrith cenhedloedd. y MAE Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, America, Norway, a Poland yn gwerthu arfau rhyfel wrth y llwyth i Japan a China. Dyna un o'r ffeithiau an- nifyr sy'n ein hwynebu pan yw gwladwein- wyr y byd yn Geneva yn trafod diddymu arfau rhyfel a heddwch y byd. Pa les ydyw i Gynghrair y Cenhedloedd gondemnio'r rhyfel yn y Dwyrain pell, pan yw'r cenhedloedd sydd yn y Cynghrair yn gwerthu gynnau a shells i'r ymladdwyr? Fe aeth gwerth jEl.557,854 o arfau i mewn i China y llynedd; yn ystod y chwe mis diwethaf fe laniwyd gwerth £ 353.679 ym mhorthladd Shanghai yn unig. Fe werthodd Prydain fwy o arfau i Japan nag i China. Dywed Llywydd y Bwrdd Masnach i Brydain werthu gwerth e202,811 o ddefnyddiau rhyfel i Japan y llynedd, o'i gymharu â gwerth £ 45,748 i China. Esgus y Bwrdd Masnach ydyw: Os na chawn ni'r busnes, fe gaiff rhywun arall ef." Y fath ragrith ydyw condemnio rhyfel ac yna brysio i elwa arno! Gwreichion. PA un bynnag a lwydda Cynghrair y Cenhedloedd i dawelu'r storm yn China ai peidio, fe erys yn y Dwyrain wreichion a all unrhyw adeg gael eu chwythu'n fflam brwydro poeth. Dyna Rwsia hefyd. O'i rhan ei hun, nid yw Rwsia mewn unrhyw fodd yn peryglu heddwch y byd; y mae hi'n rhy brysur yn adeiladu ei chyfundrefn newydd ac yn cychwyn ar ei hail Gynllun Pum Mlynedd. Ond a oddefir i gyfundrefn sy'n her i bopeth sy'n gysegredig gan wledydd y Gorllewin lwyddo heb i gweryl dorri allan yn hwyr neu hwyrach? Neges o Affrica. Y MAE neges yr Athro John Hughes- neges o Ddeheudir Affrica i Gymru- yn un â'i hergyd yn gymwys iawn i Ddydd Gwyl Dewi. Nid yw dathlu gwyl fel hyn yn nemor les i wlad oni wneir hi hefyd yn gyfle i sefyll ac edrych ar y pethau hynny yn ein gwlad sy'n ddrwg i ni fel cenedl-edrych arnynt, a dechrau gweithio i'w symud. Fe wnaethpwyd pethau rhyfedd ac ofn- adwy yng Nghymru yn enw Education." Nid oes ond llai na miliwn ohonom yng Nghymru a wyr ddim am y gair addysg. Tybed a fydd yn rhaid i rywrai geisio dehongli breuddwydion addysg Cymru Fydd i'r miliwn a hanner arall yn Saesneg, cyn y gall y Gymru well gyfodi? Diolch, sut bynnag, am ambell fudiad fel Undeb Athrawon Cymreig, sy'n gweithio mor ddewr dros yr iaith Gymraeg a gwir addysg. Yn y De y mae'r mudiad yn blodeuo (y De sy'n cychwyn a'r Gogledd yn cadw, bob amser. onide?) Gobeithiwn y daw'n fudiad cryf yn y Gogledd hefyd. Nid yr un ydyw'r problemau yno ag yn y De. Y mae mwyafrif y plant yno yn gwybod Cymraeg, mae'n wir. a'r perygl yno ydyw bod yn rhy sicr o'r Gymraeg, nes ei hesgeuluso, ac esgeuluso hefyd greu ym meddyliau'r plant yr awyrgylch Gymreig a'r sadrwydd diwyll- iant sy'n eu gwneuthur yn ddinasyddion goleuedig a chryf.