BEIRDD Y LLYFRGELL- (0 dudalen 95). Ond cyn troi at ei waith fel llenor ac ysgolhaig rhaid troi at ei farddoniaeth, canys y mae twf honno o ddiddordeb mawr i'rneb a astudio lên Cymru a Lloegr yn y ganrif Y mae'n ddiamau mai gwaith Goronwy Owen a William Wynn oedd ei batrymau mewn Cymraeg ddiweddar, ac ni ellid disgwyl i ddisgybl i Edward Richard fod heb wybod am feirdd clasurol y ddeunawfed ganrif yn Lloegr- Pope a Dryden. Ond cawn nid yn unig eu dylanwad hwy ond dylanwad Milton (bardd nad oedd ei fri bryd hynny mor uchel ag y mae'n awr ym- hlith y Saeson) ac yn ddiweddarach mae ôl gwaith Goldsmith a Gray i'w weled arno. Llinellau Gwych. Ni ellir cymharu Ieuan Fardd â Goronwy Owen neu, dyweder, â Dafydd ap Gwilym. Nid oedd ffrwd fawr eu barddoniaeth hwy ganddo ef yn hytrach ei gymharirâ'i athro, Edward Richard, sydd orau. Bardd prin, ysgolheigaidd, oedd, yn tueddu at efelychu mewn rhai o'i gywyddau. Ond nid efelychu yr oedd bob amser ychwaith. Yn ei gywydd Hiraeth y Bardd am ei Wlad cawn lif o deimlad nerthol a roddodd inni rai o'r llinellau gorau yn holl gorff ein bardd- oniaeth ac a ddeil eu cymharu â gwaith gorau Goronwy Owen: 0 Gymru lân ei gwaneg, Hyfryd yw oll, hoewfro deg. Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwêl Ac iachus yw ac uchel. A'i pherthi yn llawn gwiail A gweunydd a dolydd dail. A'i dwr gloew fal dur y glaif O dywarchen y dyrchaif. Afonydd yr haf yno Yn burlan ar raian ro A redant mewn ffloew rydau Mal pelydr mewn gwydr yn gwau. Hiraeth. Yn ail i'w hiraeth am ei wlad (canodd y cywydd uchod pan oedd yn Lloegr) prif sym- byliad barddoniaeth Ieuan Fardd yw ei gariad at hanes Cymru, ac yn enwedig at ei hen feirdd a'r traddodiad barddonol. Gwelir hyn yn ei farwnadau i'r Morrisiaid ac yn ei gywydd i annerch John Griffith, o Gefn Amwlch, Lleyn, oedd yn parhau i noddi'r hen draddodiad Cymreig. Ond yn anad dim gwelir ef yn ei englynion enwog i Lys Ifor Hael, lle mae myfyrdod dwfn ar hanes ei wlad a gogoniant diflanedig ei gorffennol yn troi yn ei linellau yn farwnad gyffred- inol ar ddynion: Llys Ifor Hael, gwael yw'r gwedd-yn garnau Mewn gwerni mae'n gorwedd; Drain ac ysgall mall a'i medd, Mieri lle bu mawredd. Yno nid oes awenvdd-na beirddion Na byrddau Hawenydd, Xac aur yn ei magwyrydd, Na mael na gwr hael a'i rhydd. Er bri arglwyddi byr glod-eu mawredd A'u muriau sy'n darfod; Lle rhyfedd i falchedd fod Yw teìau yn y tywod. Daeth Ieuan Fardd yn fuan, fel y dywed- wyd, tan ddylanwad Lewis Morris, ac fe Arwydd Ysgolheictod yn Sir Aberteifi heddiw. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. ddechreuodd edrych i mewn i hen lawysgrif- au ac astudio gwaith yr hen feirdd oedd yn ei ddydd ef bron wedi eu anghofio'n gwbl. Yn 1759 cawn ef yn ysgrifennu at Richard Morris fod ganddo draethawd Lladin ar waith hen feirdd Cymru, a'i fod wedi cyfieithu peth o waith Milton a Chyn- ddelw, a darnau o'r Gododin o lyfr Aneurin. Hir y llafuriodd ar hyn o waith, a llawer o anhawster a gafodd i gael hyd i'r defnydd a ddeisyfai, canys yr oedd yn ysgolor rhy ofalus i gyhoeddi dim heb gael gweled y testun mewn cymaint o hen lawysgrifau ag y gwyddai amdanynt. Barn glir. Gellir gweled ysgolhaig mor drwyadl ydoedd wrth gymharu ei farn am "Osian Macpherson â barn gyffredin Saeson diwyll- iedig yr oes. Tua 1760 cyhoeddodd Mac- pherson gerddi a alwai yn gyfieithiad o hen benillion beirdd yr Alban ac Iwerddon, a daethant yn un o'r dylanwadau mwyaf ar fudiad rhamantaidd diwedd y ddeunawfed ganrif. Ffug oeddent, ond ni cheir neb o lenorion Lloegr y pryd hwnnw yn eu drwg- dybio, ond gwyddai Evans ddigon am natur a dull hen farddoniaeth Gymraeg i amau yn fawr ddidwylledd Macpherson, a phan sonia am gyhoeddi ei gyfieithiadau o waith y beirdd Cymreig mae'n penderfynu argraffu'r cerddi Cymraeg yn ogystal â'r cyfieithiad. I ddangos rhagor rhyngof i ac yntau, llyma fi yn danfon yr originals, y peth yr wyf yn ei amau pa un ai medr ef ei wneuthur ai peidio." Ei ddylanwad ar Gymru. Nid oes ofod i helaethu ar waith Ieuan Fardd ond yn unig grybwyll ei ddylanwad ar Thomas Gray a Thomas Percy, dau o wyr blaenllaw'r ganrif yn Lloegr. Yr oedd yr olaf, a gyhoeddodd y gyfrol enwog Religues of English Poetry, tan ddyled drom i'r bardd am wybodaeth a help ar lawer o faterion hynafiaethol, ae y mae rhai o'i lythyrau ato i'w cael. Daeth Thomas Gray hefyd i wybod am waith y bardd yn cyfieithu hen farddoniaeth Gymraeg, canys y mae lle i gredu i'w draethawd ar y beirdd ffeindio'i ffordd i ddwylo Gray ymhell cyn iddo gael ei gyhoeddi yn 1764. Defnyddiodd Gray bedwar o'r darnau i'w hail ysgrifennu yn Saesneg. Heblaw'r cyfieithiadau gwnaeth Ieuan Fardd waith mawr yn casglu a chopïo hen lawysgrifau Cymraeg, ac y mae'r un ysgol- heictod i'w weld yn ei driniaeth â hwy ag sydd yn ei waith arall. Y mae dylanwad Ieuan Fardd ar fardd- oniaeth Cymru yn fychan, ond y mae ei safle ymhlith beirdd a llenorion Cymru yn sicr a phwysig iawn. DYDD SUL. (Santos, Brazil, Hydref 1931.) MAE rhywrai heddiw'n rhywle, Ianto bach, Dros lwybrau mân y brwyn, dros dwyn a dôl, Yn mynd i gapel llwyd, ac awel iach Y bore'n troi i ganlyn ar eu hôl. Daw cordiau'r hen harmonium wynt i'w clyw, A hwythau eto ryw led cae o'r Tŷ; — Sawl gwaith cest ti y profiad hwn, fel rhyw Nefolaidd iâs i'th swyno â'i alwad cry' ? Mae hwythau, gwyn eu byd, â thô uwchben, A muriau'n gaer, yn canu gyda blas; Ac am wn i na rydd rhyw rai ) Amen Ar ôl y weddi am noddfa'r Iôr a'i ras I ni, sy'n alltud yma 'nghanol stecs Y baw a'r glo sy'n gorwedd dros y tlecs! GERALLT JONES. Talybont, Ceredigion.