Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAM AT RYMUSO BYWYD CYMREIG LERPWL. Gan W. EILIAN ROBERTS. Y MAE rhai o Gymry'r cylch yn teimlo'n bur anfodlon ar ein sefyllfa yn y ddinas hon. Bu adeg, er enghraifft, pryd y cyfrifid v Welsh Vote yn fater i'w ystyried adeg etholiad, ond collasom ein dylan- wad. Bwriedir felly sefydlu cylch bychan i drafod materion perthynol i fywyd Cymreig y ddinas, ac os teimla rhai o frodyr y glannau ddiddordeb yn y mater ac anfon gair ataf i 26, North John-street, fe ofelir am yrru'r llyth- yrau ymlaen at gyfeillion sy'n ystyried posibilrwydd cynnal cyfarfod yn fuan yn y flwyddyn newydd. Y Nadolig. Dengys Cymry Lerpwl eu bod yn gallu mwynhau'r Nadolig mewn ffordd ymarferol iawn. Er enghraifft, gwa- hoddodd Cymdeithas Bobl Ifainc Edge Lane (M.C.) blant yr eglwys genhadol yn Earle-street atynt am dè parti a chyngerdd Nadolig. Dyma'r pumed tro i blant Earle- street gael eu gwahodd i Edge Lane, a mawr y mwynhaent garedigrwydd y cyfeillion yno. Nid yw Cymdeithas Cymru Fydd," ar 61, chwaith, gyda gwaith da. Trefn- ant hwy ar gyfer y Nadolig yr hyn a elwir yn Poor Kiddies' Treat." Y merched a dirwest. Y mae dirwest yn cael cryn sylw yn Lerpwl y dyddiau hyn, a threfnwyd cyfarfodydd yng nghapeli Stanley-road, Bootle, a Princes-road, Lerpwl, gan Undeb Dirwestol y Chwiorydd. Cymerir diddordeb mawr iawn yn y cwestiwn hwn gan amryw o chwiorydd blaenllaw y glannau, megis Mrs. E. R. Jones, a theimlir colled ar ôl Mrs. Eiddig Jones, priod cyn-weinidog eglwys Park-road, yn y cylch hwn yn arbennig. Dr. Courtenay Weeks oedd y prif siaradwr yn y cyfarfodydd, a chafwyd cyfarfodydd lluosog a llwyddiannus. Drama. Wedi perfformiad o'r Pwyllgor- ddyn gan gwmni Mr. J. Ellis Williams, cafwyd chwarae o'r un ddrama gan gwmni Maescrug (Heath- field-road). Daeth cynulliad da ynghyd, a gresyn i'r cwmni golli un o'i gymer- iadau trwy iddo gyfarfod â damwain ddiwmod y perfformiad. PATAGONIA'N COLLI UN 0'1 SEFYDLWYR. [ODDI WRTH OHBBYDD.] YN ei gartref, "Maes Llaned," yn ardal Drofa Dulog, bu farw y gwladf&wr adnabyddus Edward Owen, yn 85 mlwydd oed. Meddai ar allu fel cynllunydd a threfnydd, a diau mai i hynny yn bennaf y gellir priodoli y rhan fwyaf o'i lwyddiant yn y Wladfa ac yn Choele Choel. Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel? Hen pioneert y Wladfa-cymeriadau wedi eu tym- heru ar ddechrau eu gyrfa Wladfaol mewn ymdrech a brwydro caled a.di-dor am fara beunyddiol, » thrwy ymdrech- ion a phenderfyniad di-ildio wedi dringo i safleoedd o barch nid yn unig ymysg eu cyd-sefydlwyr ond hefyd gyda- phrif swyddogion y Llywodraeth, fel ag y gwnaeth y diweddar Edward Owen. Gedy ei ddiflaniad fylchau a cholled anadferadwy yn ei deulu, ei eglwys, a'r Wladfa. Daearwyd ei weddillion y dydd canlynol ym mynwent Trelew yng ngwydd tyrfa enfawr. GORNEST Y MAES CHWARAE. Gan LLUDD. Bu Cymry Llundain, yn ystod yr wythnosau a aeth heibio, yn dilyn chwaraeon y maes, ac yn eisteddfoda. Cawsant hefyd gymanfa ganu, ac y maent yn awr yn paratoi ar gyfer dathlu Gŵyl Ddewi. A GORNEST Y CORAU HEFYD. EFALLAI i mi gyfleu y syniad yn y nodiadau hyn fod Cymry Llundain yn treulio'u holl amser yn y gaeaf mewn cyfarfodydd, ac nad oes ganddynt fawr o duedd at adloniant. Os do, nid cywir hynny. Hoff gan y Cymro chwarae, a bu clustiau rhai miloedd ohonom yn gwrando'n astud ar adrodd hynt yr ysgarmes Rygbi yn Abertawe rhwng De Affrig a Chymru. Gresyn i'r hen wlad golli, a ninnau'n diolch am y glaw a wnaeth y cae yn fwd ac, yn 61 ein tyb ni, yn fwy man- teisiol i ddull ein bechgyn ni o chwarae. Y Prifysgolion. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach gwelid amryw Gymry yn Twickenham yn gwylied bechgyn Prifysgolion Caer- grawnt a Rhydychen yn eu gornest flynyddol. Clywais weled yno 0 leiaf un hen gyfaill o Gaerdydd, a hwnnw'n wein- idog parchus a'i fod gymaint, os nad mwy, ei frwdfrydedd na neb. Yr oedd o leiaf dri Chymro yn nhim Rhydychen, ac un neu ddau gan Gaer- grawnt ac, yn bennaf oll, yr oedd Bill Roberts yn arwain bechgyn y Glas Tywyll." Dyma ei flwyddyn ddiwethaf yn y Brifysgol, a'r tro olaf iddo weithredu fel capten, a llawenydd i bawb ydoedd iddo ennill. Yn wir, cydnebydd pawb mai diwrnod Bill Roberts ydoedd, ac mai efe ydoedd arwr yr ysgarmes. Deallwn ei fod a'i fryd ar efrydu'r gyfraith, ac y cawn y pleser cyn hir iawn o'i weled yn chwarae gyda'r London Welsh." Eùteddfodau. Bu dwy eisteddfod bwysig gennym yn ddiweddar, a'r wlad a blundain yn cynorthwyo i sicrhau eu llwyddiant. Llanwyd y Central Hall gan dair mil o eisteddfodwyr pybyr, a chafodd y Llywydd (Elfed) groeso cynnes gan- ddynt. Cafwyd canu gwych yng nghystadleuon y corau, a dwsin o gorau o Gymru, gwlad y Sais a Llun- dain yn ymgiprys am wobrwyon anrhydeddus. Aeth bechgyn Pontypridd â'r maen i'r wal yng nghystadleuaeth y corau meibion, a chipiwyd y wobr arall gan gôr cymysg Eglwys Annibynnol y Borough, Llundain. Enillwydv cadair yr Eisteddfod am y bedwaredd waith gan Gwilym Myrddin, bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Côr y Borough a orfu hefyd yu Eisteddfod Jewin, ac yma eto aeth mwyafrif y gwobrwyon i Gymru. Syr Percy Watlcins. Gwneir gwaith da gan Lywydd Undeb y Cymdeithasau (Syr Percy Watkins) trwy ymweled â phob Cym- deithas unigol, ac amheuthun i bawb ydyw ei anerchiadau byr a chynhwys- fawr ar yr achlysuron hyn. Bu Miss Ellen Evans, Barri, yn dar- lithio i Gymdeithas Sir Forgannwg ar Fro Morgannwg," ei hanes, ei thlysni, ei chyfoeth, ei thraddodiadau a'i gwyr mawr, ac ymwelodd Crwys â Chymdeithas Sir Fôn i draethu ar Tom Ellis." Bu aelodau'r Gym- deithas ddiwethaf hefyd yn dadlau, o dan lywyddiaeth Mr. R. Hopkin Morris, A.S., â Chymdeithas Sir Gaer- narfon, a thrin yn ddeheuig y testun Bod cyfundrefn addysg ganol-radd yng Nghymru yn fethiant." Yr Enwadau'n Un. Bu mynd mwy nag arfer ar y Gym- anfa Ganu Undebol eleni, ac arddeliad amlwg ar y canu o dan arweiniad Dr. T. Hopkin Evans, Lerpwl. Y Parch. Enoch Jones (Isylog), ficer newydd St. Benet, a lywyddai. Anaml y gwelsom well set fawr mewn unrhyw cynhulliad nag a fu yn y Tabernacl, King's Cross, yng nghyf- eillach gyffredinol yr Annibynwyr ar ddechrau eu Cymanfa Undebol. Bu Cymanfa Undebol o'r blaen a hynny yng ngwyliau'r Sulgwyn, ond edwinodd-er y parheir i gynnal cyf- arfod pregethu yn flynyddol ar yr adeg honno gan ein cyfeillion yng Nghapel y Borough, lle y llafurio tad holl weinidogion Cymreig y ddinas," y Parch. D. C. Jones. Eleni unodd saith eglwys yr enwad i drefnu Cymanfa, ac agorwyd yr ŵjl gyda chyfeillach, a Mr. B. J. Bees, Carthusian-street, yn Llywydd. Siarad wyd yn y gyfeillach gan y Parch. T. Eirug Davies, Llanbedr; y Parch. R. G. Berry, Gwaelod-v-garth, a'r Parch. T. Rhondda Williams. Gwyl Ddewi. Y mae gan y Methodistiaid hefyd Gymanfa, a honno dros 120 mlwydd oed, a'i chyhnal bob Pasg yn flynyddol. Ar hyn o bryd, yr hyn a flina'r Corff yn Llundain ydyw'r Mesur Seneddol,' a chynhaliwyd eisteddiad arbennig o'r Henaduriaeth i'w drin. Deallaf bod trefniadau eisoes ar droed i ddathlu Gáy1 Ddewi gyda'r cinio arferol. Cadeirydd y Pwyllgor ydyw Mr. J. B. Sackville Evans, gŵr cerdd- gar o Forgannwg, a ddaeth i Lundain dros hanner can mlynedd yn 61. MR. JOHN RHYS YM MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. PAN fethodd Mr. W. Ambrose Bebb ddyfod yma i draddodi darlith ar Datblygiad Gwleid- yddiaeth Cymru i Gymdeithas y Ddraig Goch, fe lanwyd y bwlch am y tro gan Mr. John Rhys (Hymyr). Cafwyd anerchiad hapus iawn ganddo, ar ychydig funudau o rybudd. Clywir llais Mr. Rhys eto yn y Gymdeithas hon ar Ionawr 10, pryd y darlithia ar Beth a allwn ei wneuthur er mwyn Cymru? Ni phetruswn ddweud y bydd ganddo atebiad hollol ddifloesg i'r cwestiwn. Pepys Cymreig. Cafodd y Gymdeithas Genedlaethol foddhad mawr yn narlith yr Athro Owen Parry, Bangor, ar William Bwclai o'r Brynddu." Fel y dywedodd y darlithydd, yswain ym Môn yn y 18 ganrif oedd William Bwclai, a gadwodd ddyddiadur manwl ani gyfran dda o'i oes. Beth amser yn ôl darganfuwyd dwy gyfrol ohonynt ac y mae eu cynuwys yn amhrisiadwy ar gyfer hanes Cymru yn yr hanner cyntaf o'r ganrif honno. Yr oedd yn eglur oddi wrth y dyfyn- iadau a roddwyd fod Bwclai yn sylw- edydd mor graff â Pepys, ac ar rhyw gyfrif yn fwy deallus. Yr oedd Mr. Parry yn nodedig o feistrolgar wrth draethu ar bwysigrwydd y dyddlyfr, a'i ganfyddiad o'i werth. Edrychir ymlaen yn eiddgar at ym- weliad Dr. T. H. Parry Williams â'r Gymdeithas Genedlaethol ar Ionawr 29. Ei destun fydd Hen Benillion." I Lerpwl i ddadlau. Cynhelir dadl yn y Royal Institution, Colquitt-street, Lerpwl, ar Ionawr 15, rhwng Cymdeithas Genedlaethol Man- ceinion a Chymdeithas Genedlaethol Lerpwl, ar y testun Fod llên ac addysg Cymru er y ddeunawfed ganrif yn fwy dyledus i Gymry ar wasgar nag i'r Cymry gartref? Llywyddir gan Lywydd Cymdeithas Lerpwl (Mr. H. Humphreys Jones). Cymdeithas y Ford Gron. Y mae Cymdeithas y Ford Gron yn cael bias ar ei maes llafur newydd, Cymru a'i Phobl (Iorwerth C. Peate). Yn ffodus, y mae dau neu dri o aelodau'r Gymdeithas yn dra hy- ddysg mewn rhai pynciau yr ymdrin Mr. Peate â hwy; a gwych ydyw cael arweinydd cyfarwydd mewn tiriogaeth anhysbys. Profa Mr. E. Price Evans ei hun yn arweinydd gwych ym myd daeareg, hinsawdd ac amaethyddiaeth; a phan ddaw yr oesoedd bore o dan sylw, bydd ef mor gartrefol yno ag ydyw yn yr oes oleuedig hon. MR. BOB OWEN YN OLDHAM. Bu Mr. Bob Owen, Croesor, yn annerch Cymdeithas Cymry Old- ham yn ystod y mis diwethaf. Fe siaradodd am awr a hanner ar Thomas Jones yr Almanaciwr a'i Oes. Cawsom noson ddifyr dros ben gydag ef: ei Gymraeg bywiog a'i sylwadau gafaelgar yn bleser i'n clustiau. Diolchwyd i'r darlithydd gan y Parch. Edward Owen a Mr. William Jones. Mr. John Hughé's oedd yn y gadair. Bydd y cyfarfod nesaf ar y 8 0 Ionawr, pryd y ceir anerchiadau ar Henry Richard a Robert Owen gan y Parch. Idris Jones a Mr. Joseph Hesketh.