Llythyrau: Y Gymraeg yn America. At Olygydd Y FORD Gbon. BYDDAI'N dda gan amryw o garwyr yr iaith Gymraeg yn yr America fedru cytuno â phopeth a ysgrifennodd eich gohebydd am fri'r Gymraeg yma. Nid oes gennyf i na'r hawl na'r wybod- aeth i sgrifennu am bobman trwy'r wlad eang hon, ond mi wn gryn dipyn am Chicago a rhannau eraill o'r wlad o gylch. Y mae rhannau helaeth o dalaith Wis- consin, a fu'n Gymraeg flynyddoedd yn ôl, yn hollol Saesneg heddiw; hynny yw, cyn belled ag y mae addoli yn y Gymraeg yn y cwestiwn, a heb ddylanwad yr eglwysi, marw y mae'r iaith a phopeth arall Cymreig. Ceir hanner dwsin o eglwysi o gwmpas Wales (Wisconsin) nad oes dim Cymraeg ynddynt heddiw, ac ym mhentref Wales, un gwasanaeth Cymraeg y mis a geir, a hwnnw yn y prynhawn-rhyw gyfarfod dros ben, megis-ac nid yw i ymyrryd â'r oedfäon Saesneg. Yn y genhedlaeth gyntaf. Y mae pregethu Saesneg yn Randolph a Cambria a Racine bob Sul, ac y mae ardal Oshkosh yn Saesneg i gyd, ac felly Colum- bus (Ohio) a llawer lle arall. Gwir y dywed eich gohebydd mai un bregeth Saesneg a geir yma yn y mis, ond y ffaith alaethus yw hyn: y mae'n gofyn cymysgu rhyw ychydig bob Sul os ydyw'r gynulleidfa i gyd i ddeall! Awgrymir bod y Cymry'n cadw eu hiaith yn hwy na'r cenhedloedd eraill-y Polwyr a'r Slafiaid, etc.-a bod y cenhedloedd hyn wedi eu cwbl Americaneiddio yn y drydedd genhedlaeth. Cyn belled ag y gwelaf i, nid yw'r Cymry'n wahanol yn hyn o beth. Yn wir, y mae amryw o deuluoedd yn Chicago a ddaeth yma o wahanol rannau o Gymru yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf a'u plant wedi eu geni yng Nghymru, ond y plant hyn erbyn heddiw y genhedlaeth gyntaf, cofier-wedi colli en Cymraeg! Dau deulu. Ar wahân i un teulu a ddaeth yma o Ystradgynlais lai na blwyddyn yn ôl, ein plant bach ni ydyw'r unig blant yn yr eglwys hon sy'n ymgomio â'i gilydd ac yn chwarae â'i gilydd yn y Gymraeg Er pan ddeuthum yma, yr wyf yn ceisio gwneud fy ngorau i gael y rhieni i siarad y Gymraeg ar yr aelwyd, ond ychydig o response sydd hyd yma! Sonia eich gohebydd am U tica-y gallech dybio eich bod yng Nghaernarfon ar adegau. Ni wn i ddim am yr Eglwys Gynulleidfaol yno, eithr tybiaf y ceir peth Saesneg ynddi, ond am yr Eglwys Bresbyteraidd-Moreia- y bu'r Parch. Llewelyn Jones yn weinidog arni am y pum mlynedd diwethaf (efe yn troi yn ôl i Gymru yn awr), ceir 0 leiaf un oedfa Saesneg bob Sul, a cherir gwaith yr eglwys yn ei flaen bron yn hollol ar linellau Americanaidd. Yn ôl Y Cyfaill yn ddi- weddar, dyna'r unig ffordd y cedwir yr ifainc mewn cysylltiad â'r eglwys. E. CYNOLWYN PUGH. Chicago. Profiad arall. At Olygydd Y FORD GRON. yN ysgrif eich gohebydd arbennig ar Gym- reictod America, cyfeirir at Eglwys Los Angeles fel yr eglwys newydd Gymreig, yn lIe'r eglwys fwyaf Cymreig. Hi ydyw'r eglwys Gymreiciaf yn America. Yr wyf wedi clywed plant yno-pytíau ifanc 10 neu 14 oed-yn dweud eu hadnodau, a'r rhan fwyaf ohonynt mewn Cymraeg mor ddi-lediaith ag a fuasai'n peri corddi calon hen bererin o Wlad y Gân newydd ddyfod i'r lle. AP RAMBLER. Gary, Indiana, U.S.A. Beichiau Crefyddwyr. At Olygydd Y FORD GRON. DIDDOROL oedd ysgrif y Parch. R. H. Pritchard yn rhifyn Mehefin, a thestun gorfoledd lawer ydyw fod arweinwyr cref- yddol Cymru yn dechrau sylweddoli yr anhrefn a'r aneffaith yr ydym ynddo. Y ffaith fwyaf amlwg yn ein bywyd cref- yddol ydyw ein bod yn perthyn i ryw enwad neu'i gilydd heb wybod y rheswm-os na chyfaddefwn mai damwain ydyw, oherwydd dilyn ein rhieni. Bu gan saint Môn ym Mehefin amlder o uchelwyliau: Sasiwn y Methodistiaid, Cymanfa'r Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, a'r cwbl oll yn cyhoeddi'r un Efengyl. Oni ellir ein perswadio bellach y gwnâi un Gymanfa Bregethu y tro mewn man canolog-tua chanol y sir, dyweder-a gwahodd yno un gweinidog o'r gwahanol enwadau ? Gymaint llai o faich dianghenraid fyddai ar ysgwyddau crefyddwyr y tir. Dywedir wrthym beunydd a byth am sêl y Cymro dros Undeb Cynghrair y Cenhedloedd, a da hynny; ond mae'n hen bryd inni sylweddoli gwerth undeb crefyddol yn ein plith ni'n hunain, ac ymlid y culni crefyddol y sonia Mr. Pritchard amdano ymhell o'r tir. Edrychaf ymlaen am y cydweithrediad gogoneddus a awgrymir gan Mr. Pritchard. Diolch am Y FoRD GRON. Y mae'n agor llwybr newydd i'r ifanc, ac yn dysgu inni feddwl yn genedlaethol yn hytrach nag yn enwadol. D. A. WILLIAMS. Marianglas, Môn. Capelau-a chlybiau. At Olygydd Y FORD GRON. ONID yw'n bryd i'r siarad am gapelau di-alw-amdanynt ddod i ben? Trefnir clybiau chwarae o bob math ym mhob tref a llan a chwmwd trwy'r wlad. Cyst y rhain, yn ôl y gyfartaledd isaf, ryw £ 2/10/- y flwyddyn i'r cefnogwyr distadlaf, ac ategir y cyfan â bonllef fyddarol o Hwrâ sy'n diasbedain trwy'r wlad o Ionor i Ragfyr heb fod na llef na llais, pin na phen nemor neb a ddywed ddim i'w herbyn. Pam y rhaid i grefyddwyr yn fwy na neb ddilorni crefydd ar bob llaw ? Hawyr bach! Deffro, Sion, gwisg wisgoedd dy ogoniant." WRTH Y FORD GRON. Abernant, Aberdâr. Bai cerddorion. At Olygydd Y FORD GRON. DYWED cyfaill imi mai bai mawr cerdd- orion yr oes hon yw eu bod yn ym- boeni llawer gormod â thechnêg, a phethau mân felly, i gael amser i'w hanghofio eu hunain a chyfansoddi miwsig gwerth ei ddysgu a'i glywed. W. R. JONES. Wrecsam. O New Zealand. RHAID imi godi archwaeth angerddol yn fy nghyfeillion i ymborthi'n gyson ar Y FORD GRON. Pe llwyddwn i gael ond hynny byddai mwy o gorff iachus Cymreig yn bod ym mhobman. JOHN TUCKER. Trades Hall, Wellington, New Zealand. Megan Ellis. At Olygydd Y FORD GRON. OS goddefwch i mi, un y gofynnwyd iddi wneud tipyn yn yr un cyfeiriad â Megan Ellis yn yr hen fyd 30 mlynedd yn ôl, hoffwn eich llongyfarch am ei darganfod hi. Daw ei henw yn fuan yn un teuluaidd yn y wlad. ANNIE C. PRICHARD. Mochdre, Colwyn Bay. Ei derbyn a'i darllen. DERBYNNIR a darllenir Y FORD GRon gan lawer yn yr ardaloedd hanner- Seisnigaidd hyn. DAVID JAMES. Llanelen, Ger y Fenni, Sir Fynwy. Clwcdra. At Olygydd Y FORD GRos. ONID da fuasai mynd i 'r Iwerddon a dyfod yn ôl â gwybodaeth am ganlyniad yr adeni-" perchen eu fferm eu hunain a'i hysbysebu drwy ein papurau Cymraeg? Beth am gynllun afon Shannon? Beth am y dofednod brîd piwr, yr anifeiliaid bras -a dumpio y scrub bulls (ac felly ymlaen) yng Nghymru a Lloegr? Beth am eu harian a llun yr iâr ar y geiniog, gyda'i chywion bach? Fel y casgl yr iâr ei chywion ynghyd." Gymru, ymddeoraist ddigon. Dere allan o'th glwcdra i ddodwy rhywbeth! L.E.D. Caerfyrddin.