Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFIEIDDGERDD. Cyflwynedig i'm landlady. (Gydag atgof am Bieingerdd Syr John Morris-Jones.) DAU lygad tanbaid croesion cas Sydd i'm lletywraig i, Ond na bu llygad gwraig erioed Mor groes â'i llygaid hi. Am wawr ei gwddf dywedyd wnawn Mai'r parddu duaf yw, Ond bod rhyw lewych gwaeth na du, Atgasach yn ei liw. Mae holl ffieiddiaf liwiau'r byd Yn glwstwr ar ei grudd, Mae'i gwefus fel pe'n chwyddo'n fawr Wrth glebran nos a dydd. Ac atgas gryglais ar ei min A glywir, dyn a'i gŵyr, Yn rhygnu'n ddibaid ddydd a nos Nes bron â'm drysu'n llwyr.. A main y seinia'r Saesneg sur Yn nhôn ei chryglais hi, Mae iaith atgasa'r ddaear hon Gan fy lletywraig i. A synio'r wyf mai swn yr iaith Wrth lithro dros ei min A roes y fath afluniaidd dro I'w llygaid croesion blin. Cwyn Dafydd ap Gwilym yn y Nefoedd. (Ceisiodd Mr. G. J. Williams, Coleg Caerdydd, brofi bod Iolo Morgannwg yn dwyllwr, ac mai gwaith Iolo ei hun ydyw Gorsedd y Beirdd a nifer o gywyddau a briodolid i Ddafydd ap Gwilym.) 'D OES dim cysur yn y Gwynfyd, Fel oedd yma'r dyddiau gynt, Er pan ddaeth 'r hen Iolo ynfyd Mewn, ar gwthwm mawr o wynt. Ar y llawr sgrifennai pseudos 0 dan enwau beirdd diri; Yma mae e'n mynd â'r Kudos Am bob dim sgrifennais i I Fe a wnaeth y gerdd i'r eira Ac i Forfudd deg ei phryd- 'D own i ddim i'm cael, fe daera, A 'sgrifennais i ddim byd. Aros dipyn bach, 'r hen Iolo, Nes daw Griffith John i'r lan­ Fe ddaw terfyn ar dy solo Yn ddisymwth yn y fan. WALDO WILLIAMS. Hiraeth Môn am Oronwy fel Rhamant Hero a Leander. Mal Hero, wrth gerth ryferthwy Helas Yn holi a thramwy; Gwylio'r môr mewn galar, mwy, Mae'r ynys am Oronwy. *\VIL IFAN O FÔN. URI. O Glust i Glust (" Prif Gythraul y cyhoedd yng Nghymru.YB ATHRO W. J. GRUFFYDD, amdano'i hun, yn Y Llenor," Gwanwyn, 1931.) PWY a feiddiai godi carreg, Dybliw Jê, Ac anelu saeth gwatwareg Tua thre? Oni welsom y Sheceina Pan oedd niwloedd nos dros Gymru Yn llewyrchu o Riwbeina Lle mae'r Sais yn bwyta llymru? Onid i bangfeydd tragywydd, Dybliw Jê, Yr aeth pawb fu ar eich trywydd- Onid e? Daeth gormesdeyrn archesgobol,* Dybliw Jê, 'Fynnai Seisnigeiddio pobol Daear a ne'. Rhoesoch chwithau bin ar ddalen (Un o ddail melyna'r Llenor), Ac fel un â'i friw mewn halen Troes Ei Ras o fas i denor; Ninnau'r cyhoedd sy'n edmygu Dybliw Jê, A phob sant a diawl yn plygu Iddo Fe. Y Llenor, Hydref, 1929. Ai Gŵyl Ddewi ai Gẃyl Dewi, t Dybliw Jê, Sydd yn peri i'r Cennin ddrewi Ym mhob lle? Ynteu clywed dynion prysur Anffaeledig y colegau Yn defnyddio yr achlysur I roi bythol daw ar gegau Pawb o Fethel i Dregaron, North a De, Er mwyn gwrando Rhosyn Saron- Dybliw Jê ? Plaid, ac Achos Mawr, a Chyngor, Dybliw Jê, Byddent oll heb lyw nac angor Right away Oni bai fod rhuo cyson Sergeant-Major y cythreuliaid Fyth ar flaen pob gwyllt ymryson Yn 'sbardynnu pawb o'i ddeiliaid. Beth a wnelai Cymru hebot, Dybliw Jê? Pwy a godai'r stormydd tebot, Dŵr a thê? CYTHRAUL BACH. t Y Llenor, Gwanwyn, 193L