Y GYSTADLEUAETH STORI FER. DYMA restr o stoñau a anfonwyd i gystadleuaeth Y FoRD GRON ac y bwriedir eu cyhoeddi fesul un neu ddwy bob mis. Rhoddwyd y wobr gyntaf i Mr. Waldo Williams am Toili Parcmelyn," a gyhoedd- wyd yn rhifyn Mai. Cyhoeddir Nychdod a'r Gwahaniaeth yn y rhifyn hwn. Nychdod, gan J. Gwilym Jones. Y Gwahaniaeth, gan Miss Cissie Griffiths. Gwraig y Pregethwr, gan Huw Morris Jones. Hel Gwichiaid, gan Miss L. A. Richards. Lli Rhydyfelin, gan Miss L. A. Richards. Mynwent Llangannog, gan E. B. Byron-Jones. Yn Efail y Wlad, gan Miss May Davies. Noswylio, gan R.E.O. Y Ddraig Goch Ddaru Gychwyn, gan O. J. Williams. Broc y Mor, gan Miss E. Watkin Jones. Trychineb y Cefndir, gan Carrog. Y Gwanwyn, gan O. Williams. Cwm-yr-Eryr, gan D. O. Parry. Helynt y Gloch, gan Mrs. M. S. Roberts. Edifeirwch, gan Henry D. Edwards. Ted, gan William Davies. Y Syrcys, gan Idwal M. Roberts. Y Tramp, gan Alun Lewis. Ar y Daith, gan Alun Lewis. Derw Du, gan Mrs. John Mostyn. Mynd i'r Odyn Galch, gan William Rees. A'i Wyneb tuag Adre, gan Caradog Williams. Y Cyw Hwyaden, gan Rowli. Y Pladurwr, gan W. O. Thomas. Peniel Siaci Brynllwyd, gan Proskairon. Wil y Foel, gan Awena Rhun. Pawb a'i beth ei hun, gan M.E.W. Ianto'r Potsiar, gan Ogmor. Y mae awduron y storiau a ganlyn hefyd yn haeddu clod arbennig: — Ystori'r Hen Fugail, Helynt y Llwynog Llwyd, Yr Hen Ffatri, Benza, Rhy Hwyr, Dan y Garreg, Nedw'r Fron, Y Camgymeriad, Yr Hen Dorrwr Beddau, Corddi Cwnlan, Helyntion, Byddin Buddug, Y Ledi Wen, Helynt, Y Marw Byw, Y Tair Chwaer, Siencyn Abednego, Olwen, Y Bil wedi ei Dalu, Cyfrwystra fy Nhaid, Enlliw Vaughan, Pentref Hynafol, Y Tang- nefeddwr, Digwyddiad Hynod, Ffolineb Cariad, Breuddwyd Bob y Gwas, Yr Arran Ghief, Y Maid of Rheims, A fu Golledig ac a Gafwyd, Marchell mam Brychan, a Gwiber Llandriìlo. A fydd R.E.O., Carrog, Rowli, Pros- kairon, ac Ogmor mor garedig ag anfon «»' T' a'ii cyfeiriadau i Olygydd Y Ford Gron ? Capelau di alw amdanynt. Sut i atal ein gwastraff ar arian a doniau. FE ddywedodd Mr. D. Seaborne Davies yn un o rifynnau cyntaf Y FoRD GRON fod Crefydd Cymru yn rhy ddrud." Y mae'r mater yn dyfod i fwy a mwy o sylw, ac ofnwn fod mwy o lawer nag y mae arweinwyr crefyddol Cymru heddiw Y Parch. R. H. Pritchard. yn fodlon ei gyd- nabod, wedi colli diddordeb yn yr eglwysi oherwydd y culni crefyddol sy mor amlwg. Dywedwyd yn Y Gwyliedydd Newydd yn ddiweddar fod 12 o gapelau ym Methesda, Arfon, a 24 ym Mlaenau Ffestiniog. Y mae hyn, mewn ardal- oedd lle y mae cymaint o ddiffyg gwaith, yn ddifrifol, a dweud y lleiaf. Gall rhywrai ddadlau, pe bai'r bobl yn mynychu'r addoldai, nad oes ormod o Ie ar eu cyfer. Y mae modd i hyn fod yn wir am rai ardaloedd, pe bai'r fath wyrth yn digwydd, ond am y rhan fwyaf o bentrefi Gogledd Cymru nid oes dim rhithyn o angen am lawer o'r capelau sydd ynddynt. Hawdd fyddai enwi pentrefi ac ardaloedd 11e y ceir tri a phedwar o addoldai, a'r un nifer o bregethwyr yn gwasanaethu ynddynt ar y Suliau, lle y buasai dau addoldy a dau bregethwr yn hen ddigon. Y mae nifer fawr o'r bobl ieuainc ac eraill yn colli cydymdeimlad â'r eglwysi oherwydd y gwrthuni yma. Teimlir i'r byw oherwydd y gwastraff ar arian a doniau, ac oherwydd afreswm pethau. A oes ymwared? Credaf i fod ffordd i wynebu'r broblem heblaw uno'r enwadau. (Rhaid aros yn hir cyn y sylweddolir y delfryd hwnnw yng Nghymru, yn ôl pob argoel.) Awgrymaf fod ysgrifennydd Undeb Eglwysi Efengylaidd Gogledd Cymru (a'r De yr un modd) yn casglu'r ffeithiau o bob ardal, sef nifer yr addoldai, cyfartaledd mynychwyr, nifer yr ysgolion Sul, cyfar- taledd mynychwyr a nifer yr ysgolorion yn y dosbarthiadau. Pe ceid y ffigurau hyn fe welid maint yr angen am ddiwygio. Fel y mae pethau, cynhelir tair neu bedair o ysgolion Sul yn y mân bentrefi, nes ei gwneud yn amhosibl cael dosbarthiadau o'r un oedran a safon. Agoriad llygad. Dylid, hefyd, gael y ffigurau am gyfarfod- ydd yr wythnos, nifer a natur y cyfarfodydd a gynhelir ym mhob addoldy, a chyfartaledd mynychwyr. Byddai'n agoriad llygad i weled nifer yr addoldai na chynhelir cyfarfod o gwbl ynddynt ar nosweithiau gwaith, a'r nifer na chynhelir ond un cyfarfod ynddynt. Y Parch. R. H. Pritchard, II Aberdyfi. Yna gellid penodi pwyllgor cyd-enwadol i ystyried ac i awgrymu sut y gellir, yn y gwahanol ardaloedd, gydweithredu i uno yn yr ysgolion Sul ac yng nghyfarfodydd yr wythnos ac ar fore Sul, etc. Y mae gan bob enwad i ystadegau blyn- yddol am yr aelodau a gwaith yr eglwysi a'r ysgolion Sul, a gallai ysgrifennydd yr Undeb ohebu ag ysgrifenyddion y cyfundebau, a hwythau ag ysgrifenyddion y gwahanol adrannau, fel cyfarfodydd misol a chwarter y gwahanol gyfundebau. Anhrefn ac aneffaith. Wedi cael adroddiad fel yr un a awgrymir, gellid galw cynrychiolwyr yr eglwysi lleol yn y gwahanol ardaloedd at ei gilydd i drefnu yn eu ffordd eu hunain i achub eglwysi Cymru rhag yr anhrefn a'r aneffaith y maent ynddo ar hyn o bryd. LLYTHYR ODDI WRTH MISS GWEN FFANGCON-DAVIES. Is it Qood? nid Is it Welsh ?" ydyw cwestiwn Llundain. TjTE. ddywedodd Rhys Puw, yn ei nod- iadau ar fyd y ddrama yn Y Foed GRON fis Mawrth, mor anodd i ddramäydd o Gymro oedd cael rhai i berfformio'i waith yn Llundain, hyd yn oed ac yntau'n ysgrif- ennu yn Saesneg. Soniai am ragfarn managers y theatrau. Fe anfonodd Golygydd Y FoRD GRON y sylwadau hynny i Miss Gwen Ffrangcon- Davies, yr actres enwog, sy'n Gymraes o waed, ac fe atebodd hithau fel hyn: DEAR MR. JONES, Thank you for sending me your magazine. About the solution of Welsh plays, I thinh if you could produce a first-rate play of Welsh life you could eastty get people to give up time to do it. But do not forget that its being Welsh is of no particular importance. The vital point is Is it goodî When the answer is Yes" the people are there to do it. Youra sincerely, GWEN FFRANGCON-DAYIES.