CYFBOL I. RHIF 8. Y FORD GRON (Golygydd: J. T. JONES) GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. London Office 47, Gresbam St., E.C.2. Tel. National 8343 (3 lines). Y Gorau yn y Byd. SONIA Mr. W. Eames yn ei erthygl ar dudalen 5 am yr ymadrodd sy'n gyffredin yn y Mabinogion wrth ddisgrifio rhywbeth-sef y gorau yn y byd." Y mae Welsh lanib a Welsh flannel, fel navy coal y Deheudir, wedi mynd yn gyf- ystyr â'r gorau yn y byd ymysg pobl lygadog Lloegr. Tybed na allai cyn- hyrchwyr Cymru roddi rhywbeth arall ar y farchnad gyda gobaith ennill iddo gyffelyb ragoriaeth? Chwi, amaethwyr-onid yw'n bosibl cystadlu ag ymenyn a hufen Dyfneint a Chernyw,. caws Caer, bacwn Denmarc, ac wyau Iwerddon? Campus o beth fyddai clywed bod gwestai a thai bwyta Prydain yn hysbysu gyda balchder mai Best Welsh ydyw'r unig ymenyn, wyau, bacwn a chaws, yn ogystal â chig oen, a geir ar eu byrddau. Efallai y deillia rhywbeth tebyg i hyn o'r treial sy'n cael ei roddi ar hyn o bryd gan gymdeithas gyd-weithredu ffermwyr Clynderwen, Sir Benfro, ar wneud ymenyn mewn ffatri o hufen llaeth y cylch. Bydd craffu mawr trwy Gymru amaethyddol ar yr arbraw hwn. Y mae gorsaf bacio wyau hefyd ym Môn-un o gaerau cydweithrediad-sef yn Llanfairpwll; y mae hon yn casglu a gredio a gwerthu dros filiwn o wyau y cylch bob blwyddyn. Tystia pawb am yr adfywiad a'r gobaith newydd a ddug y cymdeithasau cyd- weithredu hyn i waith a busnes fferm. Y mae rhagor na 60 ohonynt yng Nghymru, ac y mae ganddynt ganolbwynt bywiog ac ymdrechgar iawn yn Aber- ystwyth. Y mae dyfodol Cymru yn dibynnu i fesur mawr ar y weledigaeth a'r medr a roddir i'w ffermwyr, yn neilltuol y rhai ifainc. Delfryd ardderchog i'w osod o'u blaen fyddai cynhyrchu rhywbeth a ychwanegai at enw da Cymru. Eithr nid ar eu pennau eu hunain y gwnant hwy hynny yn wyneb cystadleu- aeth byd bellach, ond trwy gymdeithasu â'u cymrodyr, dysgu oddi wrth ei gilydd, a chadw gwŷr cyfarwydd Aberystwyth a Bangor ar flaenau eu traed yn gwneud arbrofion iddynt er mwyn sicrhau bod y pridd a'r hadau a'r bridiau yn ateb y diben a gofalu, er mwyn i'r gwaith dalu, nad â na Gwyddel na Daniad nac unrhyw gystadleuydd arall ar y blaen iddynt ynglŷn â marchnata'n gall a synhwyrol. Sinemau Sul. Y MAE llawer o bobl fel pe baent yn tybio bod y Mesur Perfformiadau Sul yn gwneud rhyw gam mawr â Chymru. Amcan y Mesur ydyw gadael i bob rhan o'r wlad ganiatáu neu wrthod caniatáu agor sinemâu ar y Sul. Os pesir y Mesur, gan gynghorau sir a chynghorau tref Cymru y bydd yr hawl i benderfynu pa un a gaiff pobl y sir neu'r dref weld darluniau byw ar y Sul ai peidio. Yn lle bod Cymru'n gorfod gwneud fel y gwna Lloegr, dyma ni'n cael y cyfle i ben- derfynu drosom ein hunain. Dyma'r cyf- rifoldeb a'r dewis yn cael ei osod arnom ni. Eto i gyd, y mae rhai yn ei wrthwynebu am resymau cenedlaethol. Tybed nad ydym-ni'n rhy barod i achwyn cyn ein bod wedi hanner deall yr hyn y cwynwn o'i blegid? Safbwynt crefyddwyr. /ND y mae safbwynt y crefyddwyr tuag at y Mesur yn fwy rhesymol. Fel hyn y mynegwyd ef gan Mr. D. Caradog Evans (Pwllheli): Y mae'r cwestiwn ynglŷn â'r Mesur hwn yn mynd o dan wraidd y dydd mwyaf cysegredig a feddwn, ac yn bygwth mynd â'r canllawiau yr ymladdodd ein tadau gymaint er eu mwyn." Gellir deall safbwynt Mr. Evans. Y mae ef yn dymuno cadw deddf sy'n gwarchod y Sabbath, gan fod yn well ganddo sicrwydd y ddeddf nag ansicrwydd beth a ddewisai Cymru drosti ei hun. Ond fe ddywedodd un gweinidog: Os na ellir llenwi fy eglwys trwy ryw ffordd heblaw am nad oes gan y bobl unlle arall i fynd iddo, y mae'n well gennyf fod hebddynt." Dyna ddangos ffydd yng nghrefydd a'i hapêl. Pe'n gadewid ni allan. PE gadewid Cymru o'r Mesur newydd, ym mha le y byddem? Dan awdurdod deddf a basiwyd gan Senedd Prydain yn 1780, pan oedd y wlad yn hollol wahanol i'r hyn ydyw heddiw, a chyn bod sôn am sinemâu. Pwrpas deddf 1780 oedd ceisio lladd Ymneilltuaeth. Yr oedd peidio â mynychu addoldy yr adeg honno yn drosedd yn erbyn cyfraith gwlad. Yr oedd anghydffurfwyr yn cyfarfod ar y Sul i drafod pynciau crefyddol, a daliai Dr. Porteus, Esgob Caer. fod syniadau gwrth- grefyddol neu anuniongred yn cael eu mynegi yn y cyfarfodydd hvnny. Heb drafodaeth o gwbl, fe basiwyd deddf 1780 i atal cyfarfodydd anghydffurfwyr oedd yn rhy dlawd i godi capeli ac eglwysi eu hunain. Yr oedd y ddeddf honno hefyd yn amcanu atal tai anfoesol-arwydd o'r modd vr edrychai Senedd 1780 ar Anghydffurfwyr. Dyma'r ddeddf sy'n annwyl gan Gymru yn 1931. Cyfwng Ewrob. Y MAE'N gyfwng peryglus ar Ewrob. Ceir arwyddion da. megis symudiad Awstria a'r Almaen i wneud cytundeb masnach, ac arwyddion drwg. megis ysbryd cas Ffrainc. Y mae holl areithiau diweddar y Ffranc- wyr yn llawn pendantrwydd, gerwinder, ac anhaelioni. Gan fod yr Almaen wedi ei darostwng (dyna'r gri) rhaid ei chadw dan draed, a dwyn ar gof iddi, mewn cyngor a thrwy arfau, ei bod hi'n orchfygedig. Clywir adlais o'r syniadau hyn yn Czecho- blovakia, gan y Dr. Benesh/wrth sôn am Awstria. Y mae'r Eidal hefyd, er nad ydyw hi ddim yn cydnabod unrhyw arweiniad meddyliol o'r tu allan, yn sylwi ar y ffasiwn ac yn dilyn esiampl Ffrainc trwy basio deddfau i ganiatáu byddino ei holl bobl os daw rhyfel. Dylanwad Ffrainc hefyd sydd wedi rhwystro'r ymgais i wneud cytundeb masnach rhwng yr Almaen â Rwmania. Dyma arwyddion sy'n bygwth dinistr Cyn- hadledd Ddiarfogi y flwyddyn nesaf. Yn yr Almaen y mae'. ysb^ '"п ar y cyfandir heddiw, a Ffrainc sy'n''llochesu• galluoedd y tywyllwch.