CYNGERDD MAWR BIEMINGHAM. Bu cyngerdd Cymraeg nos Sadwrn, y lOfed, yn y Central Hall, Corporation-street, Birmingham. Darparwyd y rhaglen gan Gymry'r ddiuas, ac fe ddaeth nifer fawr o Saeson a Chymry ynghyd. Mae bri mawr ar ganu Cymraeg yn Birmingham, a theg yw dweud na ostyngwyd y safon y tro yma. Y prif artistiaid oedd Miss Gwladys Naish (soprano) a Mr. Rhys Davies (bass-baritone), a Miss Nellie Williams yn canu penillion. Cymerwyd rhan hefyd gan ddau gôr Cymraeg y ddinas, sef v v Cymric Costume Choir, o dan arweiniaeth Mr. J. Jenkyn Richards, a'r Birmingham Welsh Gleemen. o dan arweiniaeth Mr. D. M. Hopkins. I agor y cyngerdd, unodd y ddau gôr gyda'i gilydd i ganu Hen Wlad fy Nhadau," a theimlwyd yn fuan iawn fod yno ddigon o sêl a hwyl yn y canu. Golygfa hardd oedd gweled merched y côr yn eu gwisgoedd Cymreig yn canu hen alawon Cymraeg. Canodd y côr meibion Dewrion Sparta (Dan Protheroe), Croesi'r Anial (T. Maldwyn Price), a Com- rades' Song of Hope (Adolphe Adams). I derfynu, ail unodd y corau i ganu Abervstwyth a Chwm Rhondda," a methwyd"â dod at yr Amen hyd nes i'r gynulleidfa i gyd uno yn y gân. Cyfeiliwyd ar yr organ gan Mr. George Plant, ac ar y piano gan Mr. Leslie Hunt. JOHX GRIFFITHS JONES. GWOBRAU UTICA I GYMRU. BU Eisteddfod y Calan yn Utica, New York (y ddegfed a thrigain o'i bath) yn llwyddiant mawr. 0 ran rhif cystadleuwyr a safon y cystadleuaethau yr oedd yn well na'r un a fu yma ers llawer blwyddyn. Mr. Thomas P. Jones, Bodorgan, Sir Fôn, oedd y buddugwr ar yr awdl, Tangnefedd." Y Parch. James Jones, Barmouth, Meirionnydd, oedd orau am ddau hir-a-thoddaid, a rhan- nwyd y wobr am delyneg, Min y Ffordd," rhyngddo ef â Mr. Richard Hughes, Birkenhead. Mr. Richard Hughes a gafodd y wobr am englyn i Amod." Y gorau o 17 yng nghystadleuaeth cyfansoddi araidd ar Gymru oedd Mr. E. M. Evans, o Dde Cymru. Mr. Taliesyn W. Morgan (Ap Thalamus), Cleveland, Ohio, oedd y gorau yng nghystadleuaeth y stori fèr, a Mrs. John M. Edwards, Utica, am draethawd. Mr. John Phillips, Morris- ton. gafodd y wobr am gyfansoddi darn i'w adrodd, cyfaddas i blant. Eisteddfod Granyille. Llwyddiant llwyr hefyd oedd Eistedd- fod Granville, ddiwedd Rhagfyr. Mr. S. J. Phillips, o Scranton, oedd yr arweinydd, a Mr. Glanville Davies, Burlington, oedd beirniad y canu. Mr. Lincoln Owen oedd unawdydd y dydd, a chanwyd ganddo unawdau o weithiau'r meistri. Nid ydyw Mr. Owen ond pedair ar hugain oed, ond y mae ganddo nid yn unig lais melodaidd a disgybledig ond grym personoliaeth hefyd. GLASGOW'N GALW! Gan WILLIAM JONES (Alltud o Degeingl). GWELL hwyr na hwyrach! Wele fi, felly, ar ran Cymry Glasgow a De-orllewin Sgotland yn ymwthio i fysg brawdoliaeth Y Ford GROS gan ymddiheuro am oedi cŷd. Yn ôl y papurau cyfri' diwethaf, y mae tua mil o drigolion yr Ail Ddinas yn honni mai Gwalia yw gwlad eu geni. Ond yn ôl llyfr-enwau y Gym- deithas Gymraeg, a'r oedfaeon misol Cymraeg, sydd yn fy meddiant i fel- ysgrifennydd y ddau fudiad, nid oes mo'u chwarter yn chwannog i ym- ffrostio yn y ffaith. Y brif ddolen gydiol rhyngom à'n hen gysylltiadau ydyw'r oedfa Gymraeg a gynhelir ar y nos Sul olaf o'r mis yn y Christian Institute, Bothwell-street. Cyrddau Cymraeg. Agorwyd tymor y gaeaf ddiwedd Hydref-Mr. T. Marles Thomas (Tal- garreg) yn pregethu, a Mr. J. E. Edwards (Amlwch) yn canu solos. Efrydydd diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow ydyw Mr. Thomas, ac yn ei flwyddyn gyntaf. Ddiwedd Tachwedd fe gawsom wasanaeth Mr. J. E. Evans (Tyddewi), yntau hefyd yn astudio am y weinidog- aeth yn y Brifysgol uchod. Nos Nadolig bu Gwasanaeth Cerdd- orol, gydag adroddiadau a darlleniadau. Datganodd Miss Olive Mitchell, sy'n adnabyddus i'r Alban wrth teitl the Welsh soprano"; adroddwyd darnau cymwys gan Helen (fy merch 10 oed) a Mr. J. Alban Griffíths, is-lywydü y Gymdeithas Gymraeg; a dai'ientus innau Hiraeth," stori fèr ragorol Miss Kate Roberts, allan o Gors Bryniau (Hughes a'i Fab, Wrecsam). Y Swyddogion. Dyma swyddogion y Gymdeithas Gymraeg am eleni Llywydd: y Dr. Edward Lloyd, Stawarton, Ayrshire. Is-lvwydd Mr. J. Alban Griffiths (Scottish Farmers' Dairy Co.). Trysorydd: Mr. Evan Edwards (cereal merchant). Ysgrifennydd: Mr. Wm. Jones. Ym Mlaenau Ffestiniog y ganwyd y Dr. Lloyd, yn fab i'r diweddar Edward Lloyd, Iorwerth House. Yr oedd Dafydd Llwyd, Tyddynisaf, a roes fenthyg beudy i Ddaniel Rowland. Llangeitho, pan bregethodd gyntaf yn y Penrhyn, yn hen daid i'w dad. Llundain a Gwyl Ddewi. Gŵyl Genedlaethol y Cymry yn Eglwys Gadeiriol St. Paul's nos Iau. Chwefror 26, fydd digwyddiad arbenicaf y mis ymhlith Cymry Llundain, yn ddiamau. Capt. Andrew Harries, cyfarwyddwr cerdd y Welsh Guards, fydd yr arwein- ydd, ac fe bregethir gan y Gwir Barchedig F. Lloyd, Esgob Maenan. Fe geir hefyd y Cinio Gŵyl Ddewi arferol yn y Connaught Eooms ar yr ail o Fawrth, gyda Mr. T. J. Evans, golygydd Y Celt gynt, yn gadeirydd. Yr oedd cyngerdd Capel Jewin ar y 22 o Ionawr yn un cofiadwy iawn, a gobeithio'r ydym yn awr y bydd cyngerdd Eglwys Rhystyd Sant y Tnis hwn cystal. Fe'i cynhelir yn y People's Cafodd addysg yn Ysgol Sir Ffestin- iog a Choleg y Brifysgol, Bangor. Bu'n ddarlithydd mewn gwyddoniaeth yn Kent Coast College, a bu am dymor yn y Glasgow Royal Infirmary. Practis- iodd yn y Bala am chwe blynedd. Y mae yn Stewarton ers 1926. Fegafwyd wistreif (whist drire) a dawns o dan nawdd y Gymdeithas ar y 31 o Ionawr. Daeth nifer go lew i gefnogi y tô ifanc ac i'w helpu i gael mwynhad yn null poblogaidd yr oes. Mr. Llew. Hughes (Bangor) oedd y trefnydd. Mrs. G. Wynne Hughes. The Lloyd Morris Memorial Church ydyw enw eglwys Gynulleid- faol Hutchesontown er Ionawr 1. Y mae hyn, wrth gwrs, er cof am eu cyn- weinidog, a chyn-Iywydd y Gymdeithas Gymraeg am flynyddoedd lawer, sef y diweddar Barch. E. Lloyd Morris (Lerpwl). Da gennyf gofnodi fod y Parch. G. Wynne Hughes, Penmaenmawr gynt, yn gwneud yn rhagorol gydag aelodau eglwys Wesle St. Thomas, Coatbridge. Y pregethwr gorau ers talwm," ebr dau wrthyf ryw nos Sul pan ymwelais â'r eglwys am y tro cyntaf erioed. Y mae Mrs. Hughes hefyd yn cael ei chanmol yn uchel am ei hymdrech i geisio gwneud pawb a ddaw i'r gwasanaeth yn gartrefol. A pha ryfedd? Y mae Mrs. Hughes yn ferch i Mr. G. W. Jones, Llywydd Cym- deithas Gymraeg Caer. Cymry Amlwg. I derfynu, dyma restr o Gymry amlwg y cylch: Major Boderiek,3isgynnydd o'r Cad- fridog Picton. Yr Athro Dewis Ellis, Royal Tech- nical College, brawd maer Aberystwyth. Yr Athro E. Taylor Jones, darlithydd yn y Brifysgol. Mr. Emrys Hughes, golygydd y Forward, yr wythnosolyn Sosialaidd. Y Parch. D. D. Rees, gweinidog Eglwys Unedig yr Alban, Ardrossan. Y Parch. W. Newman James (Welsh- pool), Eglwys Blwyf Rutherglen. Y Parch. W. Vaughan King, Eglwys Goffa Coats. Paisley. Y Parch. John Edwards, Eglwys Esgobol Ioan, Johnstone. Y Parch. J. D. Lewis (Brynaman), Eglwys y Nasaread, Parkhead. Y Parch. C. Vincent Williams (Llan- elli), Eglwys Hamilton (Eglwys Unedig yr Alban). Y Parch. J. F. Evans (Lerpwl), Eglwys Wesle St. Thomas, Gallowgate. Palace, Mile End-road, nos Iau, y pumed. Bydd Madame Novello Davies a'i chôr yno, a hefyd Miss Thea Phillips a Mr. Norman Williams, o opera Covent Garden. Ar Chwefror 4 a 5 fe fydd Cwmni Drama'r Tabernacl, King's Cross, yn perfformio The Beaten Track (J. 0. Francis) yn Neuadd King George, Great Russell-street, ac ar y deunawfed fe fydd Mr. Saunders Lewis, y Parch. L. E. Valentine, a'r Parch. Fred Jones yn annerch cyfarfod yn Neuadd y Cymry Ieuainc ar ran y Blaid Genedlaethol. Ar y deuddegfed fe geir eisteddfod yn y Kingsway Hall dan nawdd Cyngor yr Ysgol Sut (Henaduriaeth Llundain). GWEITHGARWCH YN SWYDD STAFFORD. FE fu gan Gymdeithas Gymraeg Gogledd Swydd Stafford a'r cylch ddau gyfarfod ym mis Ionawr. pryd y darllenwyd papurau rhagorol ar Emynyddiaeth Cymru," Diarhebion Cymru," Hanes Griffith Jones, Llanddowror," a Swyn y Gymraeg." Edrychir ymlaen at ddarlith Mr. J. Rhys (Hymyr) ar Feirdd Cymreig Heddiw yn ystod mis Chwefror. I ddathlu GØ1 Ddewi Sant bwriedir cael drama gan gwmni Cymraeg y Gymdeithas. Gwen Rhosfawr. Sefydlwyd y Gymdeithas bresennol bum mlynedd yn ôl. Y llywydd am y ddwy flynedd gyntaf ydoedd Mr. John Davies, Chesterton, gwr a fu'n ffyddlon iawn i bob symudiad ac achos Cymraeg. Llywydd y drydedd flwyddyn ydoedd Mrs. W. M. Johnson (Gwen Rhosfawr), o Longton. Y mae'r enw barddonol yn awgrymu sêl ac yn gwirio'r dywediad mai Gorau Cymro, Cymro oddi cartref." Y mae'r wraig hon yn hanfod o deulu Ehosfawr, ger Aber- ystwyth; ac yn chwaer i'r diweddar Eeithor Burslem, a hefyd i'r Dr. Peter Edwards, Market Drayton, caredigion achosion Cymraeg. Y Llywydd. Llywydd y ddwy flynedd ddiwethaf ydyw Mr. W. Rees Jones, Blythe Bridge, gwr o Fôn sydd wedi ym- sefydlu yn Hanley ers llawer o flynyddoedd, ac yn Gymro i'r carn. Y mae'n adnabyddus fel un o oreuon Swydd Stafford. Y mae'n caru ei wlad a'i iaith ac yn barod bob amser i dreulio amser ac arian tuag at bob peth a fyddo'n cynorthwyo-ymdrechion Cym- reig. Y mae Mr. Rees Jones yn gerddor gwych,-wedi arwain corau Cymreig y cylch yn yr amser a fu ac wedi bod yn llwyddiannus fel cantor yng nghyfarfodydd a chyngherddau mwyaf yr ardal. Y mae'r Gymdeithas hefyd yn ffodus iawn fod Mr. O. Williams, Basford, yn drysorydd, a Mr. i. E. Williams, Walstanton, yn gyfeilydd,-y ddau yn hynod o ffyddlon a phawh yn gwerth- fawrogi eu gwaith. J. G..JÎONES (Ysgrifennydd). DAWNSIAU GENETHOD DERBY. FE gynhaliodd Cymdeithas Gymreig Derby barti Nadolig, a gwahoddwyd iddo tua 30 0 blant yr aelodau. Dechreuwyd gyda chwaraeon a chystadlu i'r plant, a chafwyd dawnsiau gan rai o'r genethod mewn gwahanol wisgoedd. Cafwyd arwyddion o benderfyniad cryf mewn rhai ohonynt mewn cystad- leuaeth am y gorau i beidio chwerthin; methodd wynebau gosod ac amryw ystrywiau godi gwên ar wyueb pedwar ohonynt! Ar ôl swper, daeth Father Christmas a rhannu anrhegion oddi ar y goéden,— rhodd y Llywydd, y Capten H. Rawlings, Prif Gwnstabl Derby (gwr o Abertawe). Wedyn, fe gafwyd unawdau lleisiau, unawdau offerynnan, a drama fèr. Bu cyfarfod amrywiaethol ar y 14 o Ionawr, ac ar y pedwerydd o Chwefror fe fydd dadl ar y testun: Fod cenedl- aetholdeb yn niweidiol i heddwch." Derbyniwyd gwahoddiad i ymweled à, Chymdeithas Caerltr. (Leicester) ar 29 o Ionawr.