CREWE YN DYSGU AM Y DDRAMA. DL Mr. J. Ellis Williams, Blaenau Ffestiniog, yn dar- lithio i Gymdeithas Cymry Crewe ar y 13 o Ragfyr. Dylid gofyn tri chwestiwn wrth feirniadu drama, meddai: A oes rhesum iddi? A oes cynllun iddi? A oes enaid iddi ? "Rheswm. cynllun, enaid, a'r mwyaf o'r tri hyn yw enaid." Y mae eisiau enaid i lunio gwaith mawr." meddai Mr. Williams, ond gan fod mynegi'r enaid hwnnw yn dibynnu ar reolau'r cyfrwng, rhaid cael cynllun i'w drosglwyddo i arall; rhaid efrydu'r cyullun cyn rhoddi'r enaid ar Iwyfan. Ond cyn y caiff y ddrama gartref arhosol yn y galon, rhaid iddi hefyd apelio at y rhesum. Disgwyliwn i'r drainäydd lwyfannu ei waith fel y gall ein llygaid a'n clustiau ei gredu. Disgwyliwn ddilladu rhesymol, ym- ddiddan resymol, awyrgylch resymol, symudiadau rhesymol. Fe gyhoeddwyd beth amser yn ôl ddrama Gymraeg hanesyddol lle'r oedd dau o'r hen Gymry gynt yn ysmygu pibell 0 leiaf ddwy ganrif cyn i dybaco ddod i'r wlad hon. Gwn hefyd am ganu cân gomic ddiweddar mewn drama am y bymthegfed ganrif, a bùm yn gweld perfformiad o Beddau'r Proffwydi' lle'r oedd hen wraig yn y tloty â dwy neu dair o fodrwyau aur ar bob llaw a phâr o emau'n crogi wrth ei chlustiau Rhaid wrth reswm ym mhethau allanol y Ilwyfan rhaid wrth reswm yn y digwyddiadau—yn enwedig osgoi defnydd anheilwng o ddamweiniau; a rhaid wrth reswm yn y cymeriadau-a bod yn oialus iawn sut i drin pethau mor ddyrys â thröedigaethau sydyn." Awgrymodd Mr. Williams y dylai Prif Ysgol Cymru sefydlu Cadair mewn Dramatir Art and Theory yu y pedwar coleg. fel y gwnaeth Prif Ysgol Llundain. GAIR 0 GANADA. PENDERFYNODD Cym- deithas y Cambrian, Yan- eouver. Canada, gynnal Eistedd- fod eto ar ddydd Gwener y Groglith. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu ganddi'r wythnos o'r blaen. Ymhlith yr anthemau a ganwyd yr oedd Dyddiau Dyu sydd fei Glaswelltyn," a Phan lesmeirio fy Nghalon." Cafwyd canu ardderchog ar "Awn Ymlaen dan Ganu ac 0 Dduw, rho im' Dy hedd." Cynhaliodd C'ôr Merched Cymreig Yancouver eu hail gyngerdd ar yr 8 0 Ragfyr. Yr unig Gyrnro ymhlith 24U aelodau seneddol yn Nhy'r Cyffredin, Ottawa, Canada, ydyw Mr. John Frances Buckley. Yu West Parade, Rhyl, y ganwyd Mr. Bucfcley, ac yn swyddfa Mr. Roberts-Jones, cyfreithwyr, Rhyl, y dechreuodd ei yrfa. Daeth Ganada yn 1914, ond yn fuan wedyn ymunodd â'r fyddin ac aeth drosodd i Ffrainc. Daeth yn ôl i Ganada i 1919, ac y mae'n awr yn far- gyfreithiwr yma. Yng nghyfarfod diwethaf Cymdeithas Dewi Sant Toronto, penodwyd un o bob sir yng Nghymru i roddi i'r Gymdeithas hanes eu sir. Cymry Llundain a'u Côr. PAN ganwyd Hen Wlad fy Nhadau ar ddiwedd per- fformiad Cymdeithas Gorawl Gymreig Llundain o Elijah ar y 11 o Ragfyr, yr oedd yn unlwg fod y rhau fwyaf o'r gynulleidfa'n Gymry. Onid yw'n bosibl i Gymry, gyda'u lawn gerddorol a'r enw da sydd gan- idvnt fel cantorion, ddenu'r Saeson i gyngerdd ? Onid yw'n bosibl gwneud y Gym- ieithas yma mor adnabyddus â'r London Choral Society a'r Phil- harmonic? Y mae hyn o fewn cyrraedd caredigion cerdd yn Llundain ond iddynt helpu naill ai trwy ganu yn y côr neu trwy fynychu'r cyngherddau. Y maer Gymdeithas Gorawl yn cerdded rhagddi. Yr oedd ei pher- fformiad o Elijah yn well o gryn dipyn na dim a wnaeth o'r blaen, ac EGLWYS GYMREIG DONCASTER. Y MAE cryn lawer o Gymry yn Doncaster (Yorkshire) a'r cylch—у rhan fwyaf yn lowyr ac athrawon. Sefydlwyd eglwys Gymreig yma tua thair blynedd yn ôl, ac y mae hon yn cynnal ei gwasanaethau bob nos Sul yn ysgoldy'r Eglwys Annibynnol Saesneg, Hallgate. Bob rhyw fis, fe anfonir pregethwr arbennig atom gan Undeb Annibynwyr Lerpwl, ac ar y Sul hwnnw fe geir gwasanaeth yn y prynhawn yn ogystal ag yn yr hwyr. Eisteddfod Chwefror. Y mae paratoi mawr yn ein plith ar gyfer yr Eisteddfod Gadeiriol sydd i'w chvnnal yma ym mis Chwefror. Ein beirniad canu fydd y Dr. Hopkin Evans, a'n beirniad llên Pedrog. Y maen ddrwg gennym ein bod ar fin colli'n hysgrifennydd, Mr. J. I. Edwards. Bydd ef yn symud i swydd newydd yn gynnar yn 1931. Yr ydym, hefyd, yn gobeitbio cael cinio ar Ddydd Gwyl Ddewi. Dechreuwyd tymor y gaeaf y nos Sadwrn olaf yn Nhachwedd, trwy gael ymgomwest hwyliog, a Mr. Jones, Bally-road, yn gadeirydd. Bwriadwn drefnu ymgomwest arall ddechrau'r tìwyddyn. A. O. HUMPHREYS. CWRDD CANU CYMRY NEWCASTLE. pETH newydd ymhlith Cymry Newcastle yw math o gwrdd canu bob wythnos i ganu tonau ac alawon Cymreig. Yr oedd yna leisio go lysti yn y cwrdd cyntaf, ond achwyn yr oedd rhai ei bod yn chwithig i ganu'r geiriau yn Saesneg. Pur anaml y clywir am bobl yn dyfod ynghyd fel hyn i ganu, a dim ond canu, ac ni synnwn i ddim nad oes Côr o Gymry Glannau'r Tein ym mynwes rhywun. Un o wragedd selog y Cymrodorion yw Mrs. Griff Evans, a dywedir ei bod yn llinach Twm o'r Nant. Tomos Edwards oedd enw fy nhad, ae ydynt, y maent yn dweud ei fod yn perthyn i Dwm o'r Nant," meddai. "Ond 'wn i ddim. Yr oedd fy nhad yn un o ddeg o blant, a gadawyd ef yn amddifad yn ifanc iawn, ac felly, ychydig a wyddai ef ei hun o hanes y teulu. Aeth i'r 'Stiniog pan oedd yn nid oes dim amheuaeth nad ydyw'n cyrraedd ei hamcanion, sef cefnogi dysgu cerddoriaeth a chadw traddodiad cerddorol Cymru yn Llundain. Er bod eu darlleniad o Elijah" yma ac acw yn anuniongred, yr oedd y cyfan yn ddiddorol a'r stori'n byw. Yr oedd y canu'n nodweddiadol Geltig yn ei ynni a'i frwdfrydedd. Cyrhaeddodd ddiweddglo nerthol yn y gytgan olaf, ond fe fuasai tipyn mwy o ysgafnder cyffyrddiad ac o bianissimo gwir mewn rhai mannau wedi gwella perfformiad oedd, ar wahân i hynny, yn dda iawn. Yr oedd Mr. Horace Stevens, fel Elijah, yn ddisglair fel arfer. Miss Gwladys Naish, Miss Ann Hughes a Mr. Trefor Jones oedd y cantorion unigol eraill. Ceid cerddorfa symffon o ddeg offeryn ar hugain yu cyfeilio, a'r cyfan dan arweiniad Mr. Horatio Davies, a wnaeth ei waith yn feistrolgar. I.R.D. CYMDEITHAS GREF DERBY. CYCHWYNNWYD Cymdeithas Gymreig Derby ym mis Mawrth, 1929, drwy sêl rhyw hanner dwsin o Gymry. Hysbyswyd cyfarfod yn y Wasg leoi, a daeth dros gant iddo,-rhif ymhell y tu hwnt i ddisgwyliad yr hyrwyddwyr. Erbyn hyn, y mae rhif yr aelodau yn 150, a chynrychiolant rhyw adran o bron bob diwydiant yn yr ardal. Daw rhai ohonynt o belltër o" 12 i 15 milltir i cyfarfodydd. Cynhelir cyngerdd, dadl ueu gyfarfod cystadleuol unwaith bob mis. Croesawyd plant yr aelodau i gyfarfod Rhagfyr, a darparwyd Coeden Nadolig iddynt. Dethlir Gwyl Dewi gyda chiuio. Ceir hefyd gyfarfodydd unedig â Chymdeithasau Leicester a Nottingham, ac y mae côr yn perthyn i'r Gym- deithas. Teilwng o sylw ydyw fod ymhlith yr aelodau Sais na fu erioed yn byw yng Nghymru, sydd wedi meistroli yr iaith Gymraeg. Y mae Mr. J. H. Thomas, yr A'.S. dros Derby, yn Is-lywydd ar y Gym- deithas. ddeg oed, ac yno y cwrddodd â mam,— ac o ardal Llansannan y daeth, betl bynnag." Cymry Eraill. Y mae'n bleser clywed Mrs. Evans yn siarad Cymraeg. a meddwl ei bo wedi bod yn Newcastle am dros ugair mlynedd. Cymry glân yw Mr. a Mrs. Tudoi Williams, Cartref, Milvain, hefyd, sydt newydd ddyfod yma o Fanceinion Brodor o St. Clears, Sir Gaerfyrddin yw Mr. Williams, ac un o ferchet Abergele yw Mrs. Williams, a threul iasant flynyddoedd yn Llanelli ac yn Nghwm Rhondda cyn mynd i Fan ceinion. Gwyr pawb yng Nghapel Moss Sidi am groeso a charedigrwydd Mr. a Mrs Williams, a dymunol, yn wir, yw ei croeso Cymraeg lond tý eto yn New castle. HAYDN MORGAN. EISTEDDFODAU AMERICA. r'YFARFU Cymdeithas yr Ushers yn nhy Mr. a Mrs. John M. Thomas, Fairmount Avenue. Philadelphia. Casglwyd £ 8 yn y cyfarfod a'i drosglwyddo i bwyllgor yr Eisteddfod sydd i'w chynnal yn y Capel Cymreig ar Ionawr 1. Y mae Miss Kitty Lewis, merch Syr J. Herbert Lewis, y cyn-aelod seneddol, yn dal i deithio o fan i fan yn y Taleithiau gan bregethu mewn rhyw eglwys Gymraeg neu Gymreig bob Sul, bron. Y mae'r Parch. Ddr. R. H. Jones, gweinidog eglwys Gymreig Los Angeles (California) wedi ymddiswyddo. Bu'r efengyles, Miss Rosina Davies, yn siarad a phregethu mewn amryw eglwysi Cymreig yn y Taleithiau yn ystod y ddeufis diwethaf. Bu farw y Parch. Edwyn Aubrey, brodor o Bembre, Deheudir Cymru, yn Oak Park, Illinois. Cynhaliwyd Cymanfa Bresbyteraidd Gymreig yng nghapel Nazareth, Columbus, Wisconsin. Parhaodd am dridiau. Bu cystadlu brwd yn Eisteddfod yr Eglwys Bresbyteraidd Gymreig Gyntaf, Heights, Wilkes-barre, ddydd y Cad- oediad. Cynhaliodd Annibynwyr Cymreig Talaith Ohio eu cymanfa yn Cincinnati. Etholwyd y Parch. J. Tudno Williams, Cincinnati, yn gymedrolwr, a'r Parch. Harry Morgan yn is-gymedrolwr. Dr. T. Teifion Richards, gweinidog yr Eglwys Fedyddwyr Gymreig gyntaf, Scranton, oedd y pregethwr gwâdd yng ngwasanaeth y Cad-oediad yn eglwys esgobol Sant Luc, Scranton. CYMRY TORQUAY. V MAE Cymdeithas Gymreig Torquay, Dyfnaint (Devon) yn cynnal cyfarfod unwaith bob wythnos. Bu ganddi ddarlithiau gyda llusern, nosweithiau miwsig, drama, dawns- feydd a dadleuon. Y noson o'r blaen fe roddodd Mrs. L. A. Robinson, Paignton, bapur ar daith ddychmygol yng Nghymru, gan gychwyn yn Birkenhead ac ymlaen i Gaergybi. Adroddodd hanes yr hen gestyll a'r llecynnau o ddiddordeb. Croesodd Ddulyn, a soniodd am y croeso a geid gan Gymry y ddinas honno. i Soniodd hefyd am yr arwyddair sydd uwch ben y lle tân yn Neuadd Gloddaeth, cartref Arglwydd Mostyn,— Heb Dduw, heb ddim; Duw a digon."