Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cusanu Modrwy'r Pab. Awdur yr ysgrif hon oedd y myfyriwr cyntaf o Gymro i gael ei dderbyn gan Mussolini. Bu hefyd ym mhresenoldeb y Pab, penlinio o'i flaen, a chusanu ei fodrwy. Bu Mr. Meredith yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifyagolìon Lloegr a Chymru. NID pleser i gyd ydyw treulio haf yn Rhufain. Soniai Gruffydd Roberts, alltud yn yr Eidal yn yr unfed ganrif ar bymtheg, am y gwres anrhesymol hwn." Digon gwir y geiriau, ond er gwaethaf y tes a aflonyddodd gymaint ar esmwythdra pererin o Gymru yn ddiweddar, buan yr anghofid ef wrth aros yng nghyfoeth yr hen, hen ddinas, Mam y Cenhedloedd. Os am yr hedd na fedr gwres Awst a Medi mo'i ymlid, 'raid ond aros am ychydig yng nghwmni ysbrydion llawer murddyn a geir yno neu, pe dymunai'r pererin gael ei welwi gan ysblander, y mae digon ar ei gyfer. Y Pab. Dyna Eglwys Pedr Sant, er enghraifft, yr eglwys fwyaf yn y byd. Yno, y mae'r afradlonedd o uchder yn rhy lethol i ddyn addoli, bron Gerllaw'r Eglwys gwelir y Vatican, y plas enfawr lle y gorfodir i'r Pab gartrefu. Rhwysg y Vatican. Cofiwn yn dda y dydd y buom drwyddo ar ein ffordd i dderbyn bendith y Tad Sanctaidd. A theg dweud fod yn rhaid i bob un a ddymuno benlinio o'i flaen ef feddu ar hir-amynedd! Ar ôl gwau ein ffordd drwy warcheidiaid y Vatican,-y Swisa Ouards yn eu gwisgoedd amryliw, a phob un ag erfyn milain yn ei law, fe'n harweiniwyd ni trwy nifer fawr o ystafelloedd eang ac ysblennydd i gyfeiriad yr ystafell fendith. Rhaid oedd aros am ysbaid ym mhob ystafell, ac ar ôl cyrraedd man y bendithio, gofynnwyd inni sefyll a'n cefh ar y mur. Talcen llydan, llygaid dwys. Ond fe ddaeth goUyngdod buan. Dyma ŵr mewn gwisg goch yn llithro atom. Yr oedd gryn ffwdan arno, a chan ufuddhau i Gan J. E. MEREDITH, Coleg y Bala. neges ei freichiau, dyma ni'n plygu glin ar y llawr marmor. Canwyd y gloch, ac ar hynny daeth nifer o ddynion mawr eu rhwysg drwy'r drws. Yn dynn wrth eu sodlau, mewn Uaeswisg o liw'r friaUen, a chap crwn, unlliw, ar ei ben, yr oedd gŵr dros y canol oed gŵr o wyneb cryf, asetig llydan ei dalcen a dwys ei lygaid. Dyna'r Pab, Pius XI. Estyn ei law. Gyda'r urddas hwnnw a hawlia harch, cerddodd atom gan estyn ei law dde. Gafael- wyd ynddi, a chusanwyd y fodrwy fawr a'i charreg las. Cododd yntau ei law uwch ein pen, gwnaeth arwydd y Groes, ac â llais clir cyhoeddodd y fendith yn Lladin. Yna trodd, a dilyn gwvr y rhwysg allan o'r cysegr sanctaidd. Mussolini. Ni ellir meddwl am y Pab a'i ddylanwad heb feddwl hefyd am Benito Mussolini, Prif Weinidog ac Unben yr Eidal. Yn ddiweddarach, buom yn ei gwmni yntau. Ffaith gynefin i bawb ydyw mai efe a gododd y blaid Ffasistaidd (cafodd yr enw o fasces," yr enw a roid ar y sypiau o briciau yr arferid eu cario gan yr hen Rufeiniaid yn arwydd o awdurdod), ac iddo ar ôl y rhyfel ddychryn brenin a gwladweinwyr yr Eidal, a mynnu y llywodraeth i'w law ei hun. Gadewch inni weld y rhyfeddod hwn yn ei ystafell yn y Palazzo Chigi, plas y llywodraeth. Y"CrysauDuon." Y Swiss Guards oedd rhyngom â'r Pab. I weld Mussolini rhaid oedd llwybro rhwng rhengau o filwyr y Crysau Duon. Cawsom ein harwain ato ar unwaith, a gwelsom o'n blaen ddyn deugain oed neu ragor, o daldra cyffredin, ond yr ysgwyddau yn ddigon llydan i weddu i ddyn mwy; y pen yn* fawr ac yn bur foel (gresyn bod mastoid y tu ôl i'r glust dde), a'r èn yn sefyll allan yn eofn. Dechreuodd siarad, a gwelwyd mai ei lygaid oedd prif addurn a chryfder ei wyneb llygaid cyn ddued â'r crysau enwog, a chafwyd awgrym yn awr ac yn y man fod holl angerdd a thân Ffasistiaeth y tu ôl iddynt. Dyfod y mae ein mawredd." Braidd yn grapiog oedd ei Saesneg, ond aeth ymlaen mewn llais isel, dymunol, i sôn am fawredd Rhufain gynt. Eto," meddai, yn y dyfodol y mae gwir fawredd ein pobl. Sefwch i edrych ar y gogoniant a fu, ond peidiwch ag aros. Cedwch eich llygaid ar Rufain heddiw, ac fe welwch ogoniant mwy yn taenu drosti." Siaradodd yn hir am Ffasistiaeth, ei greadigaeth arbennig ef, ac meddai wrth derfynu Dau beth mawr sydd eisiau yn y wlad yma,-disgyblaeth a gwaith, ac i'w sylwedd- oli, rhaid dechrau gyda'r ieuainc. Ynddynt hwy y mae'r gobaith." Rhyferthwy o Berson. Byth ar ôl cyfarfod Mussolini, nid ydym yn synnu dim fod ei ddilynwyr yn ei edmygu'n addolgar, yn ei garu a'i ofni, a bod Ewrop heddiw yn dal ei hanadl o'i herwydd. Rhyferthwy o bersonoliaeth-dyna. ydyw. Y mae yn deyrn heb ei fath ond cofiwn hefyd ei dynerwch wrth sôn am ei wlad, a'i wên garedig wrth ddymuno'n dda inni. Ar ôl ei adael y prynhawn hwnnw, daeth brawddeg o'i eiddo i'n meddwl Gwnaf gampwaith o'm bywyd." Y mae wedi llwyddo yn rhyfedd Gadawsom Rufain a'i gwres gyda llawer darlun i feddwl amdano ar awr dawel; ond daw'r meddwl yn ôl o hyd at y ddau ŵr sy'n Uenwi cymaint lie yng nghalonnau ei phobl. MumoIuu. CAMDDEALL MIWSIG CYMRU (Parhâd o dudalen 10). Fe roddodd y Dr. Vaughan Thomas inni enghreifftiau godidog o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym a beirdd eraiU y cyfnod hwnnw ar fiwsig. Y mae operau'r Dr. de Lloyd, "Tir na-N Og a "Gwenllian," yn weithiau meistr. Ac y mae'r Dr. J. Lloyd Williams, y gŵr a gychwynnodd y Gymdeithas Ganeuon Gwerin ac a weithiodd mor ddiwyd i drefnu caneuon gwerin yn ranganau a chytganau,. wedi cynhyrchu dwy opera werin Aelwyd Angharad," yn darlunio bywyd yng Nghymru wledig 50 mlynedd yn ôl, a Chadifor," opera hanesyddol na pherflormiwyd ond ychydig arni, ysywaeth. Yn ddiweddarach fe drefnodd Mr. W. S. Gwynn Williams ganeuon gwerin yn hynod o swynol, ac fe ellir enwi'r Dr. Caradog Roberts a'r Dr. Hopkin Evans, a Mr. E. T. Davies fel cerddorion amlwg eraill sy'n deall yr ysbryd a'r rhagolwg Cymreig. Ond y mae Vaughan Thomas, de Lloyd, a Lloyd Williams-y tri hyn yn arbennig-wedi gosod seiliau ysgol gerddorol a all (er ei anghofio dros dro) ddyfod â gogoniant eto i Gymru a'i sefydlu hi unwaith yn rhagor fel Gwlad y Gân.