CROESO CYMREIG I BARIS. Gan Mr. T. HUGHES-WILLIAMS. "PjAW llawer o Gymry i Baris; rhai am seibiant ac i fwynhau eu hunain, rhai i weithio mewn masnach, eraill i efrydu. I'r rhai hyn oll egyr y Gymdeithas Gymreig ym Mharis ei breichiau i'w derbyn, i'w croesawu a'u helpu. Dawns yn y Salle Jouffroy ar Ragfyr (i fydd cyfarfod nesaf y Gymdeithas. Sefydlwyd y Gymdeithas i ddechrau er mwyn cynnull y Cymry i ddathlu Gŵyl Ddewi. Un aelod, sef Mr. Gwynne Thomas, oedd gennym ychydig o flynyddoedd yn ôl. Am ei lafur ef y rhaid diolch am gymdeithas gref, sydd yn rhifo oddeutu cant o aelodau heddiw. Rhoddodd Mr. Thomas nodyn yn un o'r papurau newyddion i ddweud y buasai yn falch o gael cwmni Cymro neu Gymry i ddathlu Gwyl Ddewi. Cafodd un atebiad, a chiniawodd y ddau. Ond dyna ddechrau. Estyn y Gymdeithas fanteision hefyd i'r efrydwyr Cymreig yn y Sorborne, y brifysgol. Rhoddir telerau arbennig iddynt er mwyn iddynt ddyfod atom ar Wyl Ddewi. Credwn mai trwy'r efrydwyr hyn y daw Cymru ryw ddydd yn llawer mwy gwybodus ae anturiaethus ym myd masnach nag ydyw heddiw. Gwneir pawb sydd o waed Cym- reig yn aelodau am ddeg ffranc (ls. 8d.). l'r rhai fo'n dyfod i Baris am seibiant bydd yn dda gennyf roddi unrhyw wybodaeth am yr hyn fydd ar dro gan y gymdeithas. Fy nghyf- eiriad ydyw 101, rue de Vaugirard. Y MERCHED YN ARWAIN. AR ochr Seisnig Clawdd Offa y saif Croesoswallt (Oswestry). Y mae Cymdeithas Gymreig hollol anenwadol wedi ffynnu yma am naw mlynedd, a bu rhai o ddarlithwyr gorau'r genedl yno yn eu hannerch o dro i dro. Y tymor hwn bu peth newydd ynglýn â hanes y Gymdeithas hon. Newidir cadeirydd y Gymdeithas bob tymor, a'r cadeirydd eleni yw Miss Pugh, Cymraes ddidwyll ac ymroddgar. Hyhi, felly, a Iywyddai gyfarfod cyiitaf y tymor, i'w agor. Darlithydd y cyfarfod hwnnw ydoedd y Dr. Gwenan Jones, o Aberystwytb-mereh eto. Daeth i feddwl yr Ysgriîennydd­Mr. David Hughes, Bronallt-mai dymuno! a fyddai rhoddi'r noswaith i gyd i'r merched. a chafodd gan Mrs. J. J. Jones. Ferrers-road, a Mrs. E. A. Williams. Ceris. gynnig ac eilio'r diolch i'r darlithydd. a gwnaed hynny mewn dull hollol Gymreig. Y mae argoelion am waith da yn ystod y gaeaf. Darlithydd y cyfarfod diwethaf oedd y Prifathro D. Emrys Evans, Bangor, ar Y Delyneg." Dethlir Dygwyl Ddewi bob blwyddyn â gwledd o seigiau breision, ond heb y gloyw win puredig, oblegid perchir teimladau'r rheini sydd hefvd yn aelodau o Gymdeithas Ddirwest Merched Gu \nedd Ceir hefyd anerch- iadau addas gan lywydd y tymor, a chaneuon a chanu telvn. oymro yayw iwrnai uynreamoi las- mania, sef Mr. Philip Lewis Griffiths, cyn-Iywydd Cymdeithas Gymreig Tas- mania. V vr Disgwyl am Basiant Lerpwl. Gan MR. W. EILIAN ROBERTS. CWN prysurdeb a glywir ym mywyd Cymreig Lerpwl-y cymdeithasau a gwahanol gang- hennau'r eglwysi wedi gafael o ddifrif yng ngwaith y gaeaf. Ymysg eglwysi'r Hen Gorff y Pasiant sydd yn tynnu'n sylw. Bwriedir cynnal hwn yn y St. George's Hall ym mis Mai nesaf i ddathlu 50 mlwyddiant Cangen y Chwiorydd o'r Genhadaeth Dramor, a hefyd i ennyn diddordeb yr eglwysi yn y Meysydd Cenhadol. Yn nwylo Cynan y bydd y Pasiant. Gyda Chymanfa a Seiat Fawr y cychwynnodd yr Annibynwyr a'r Bed- yddwyr ar waith y gaeaf. Gynnau mawr Seiat yr Annibynwyr oedd y Parch. Aman Jones, y Parch. D. Elvet Lewis, a'r Athro J. E. Daniel; a chyda'r Bedyddwyr anerchwyd gan y Parch. D. \Vyre Lewis, y Parch. W. J. Dunstone, v Parch. J. Conwav Davies, a'r Parch. W. R. Watkins. At dymor y gaeaf y daeth tri o weinidogion newydd i'r cylch dau at eglwysi'r Methodistiaid, ac un at y Bedyddwyr. I Southport daeth y Parch. John T. Jones; i Laird-street, Birkenhead, y Parch. Isaac Parry, ac at eglwys y Bedyddwyr yn Earlesfield- road daeth y Parch. W. Hugh Davies. Y mae eglwys Fitzclarence-street (M.C.) wedi galw'r Parch. H. C. Lewis, sydd yn awr yn Fflint, ac yntau wedi ateb. Disgwylir y bydd yn dechrau yn ei gylch newydd ym mis Ionawr. Miss Gwennie Roberts. Datganwyd yng nghyngerdd eglwys Walton Park (M.C.) gan Barti Caer- narfon," a chymerwyd rhan gan Mrs. Mallt Wilson, yr adroddwraig ddall, a Miss Gwennie Roberts yn canu penill- ion. Fel cyngerdd braidd yn siomedig ydoedd, ond ymddengys un peth yn sicr, sef bod Miss Gwennie Roberts yn ffefryn gan Gymry Lerpwl fel datgein- iad penillion. Bu Mr. Ifan ab Owen Edwards yn ein mysg yn annerch cyfarfod Urdd Gobaith Cymru Fach yng nghapel Mynydd Seion, a dangosodd inni ddar- luniau o wersylloedd yr Urdd a gynhal- Y MAE gan Gymdeithas Cymry Caer Lŷr (Leicester) tua 30 o aelodau, a chwrddant bob nos Fawrth o ddiwedd Medi hyd y Pasg. Sefydlwyd y Gymdeithas dros 40 mlynedd yn ôl. Yn Saesneg y cynhelir y cyrddau-ac eithrio'r canu-a hynny am fod nifer o aelodau o'r Dê heb wybod yr iaith Gymraeg. Gresyn ydyw hyn, ond ein prif amcan ydyw hel a chadw y Cymry YR ANRHEG NADOLIG GORAU I'CH CYFEILLION DRAW. Anfonwch Y FORD GRON i'ch perthnasau a'ch cyfeillion mewn gwlad bell am y flwyddyn nesaf. Fe'i gwerthfawrogir ganddynt. Os anfonwch 7s. i swyddfa'r FORD GRON, Fetter House, Fetter Lane, Llundain, E.C.4, ynghyda cyfeiriadau eich ffrindiau, gyrrwn ninnau'r rhifynnau iddynt yn brydlon bob mis. iwyd yn ystod gwyliau'r Haf, a hefyd luniau o'r daith i Geneva. Gyda chyfarfod amrywiaethol y cych- wynnodd Cymdeithas Gymreig Lerpwl ei thymor. Yn hwnnw yr oedd Mr. a Mrs. Pugh, o'r Bala, yn canu penill- ion; Madame Freda Holland gyda'r delyn, a pharti o blant dan arolygiaeth Mrs. R. Vaughan Jones yn dawnsio dawns gwerin. Diweddglo'r cyfarfod oedd perfformiad o'r ddrama, Wyt Ti'n Cofio ? gan Gwmni Maescrug (Heathfield-road) Yr Athro Ifor Williams a gafwyd i annerch cyfarfod Cymdeithas Bootle, ar y testun, Cymru rhwng y Ddau Ficer." Bu rhaid i Brotestaniaeth, meddai, wrth Gannwyll y Cymry y Ficer Prichard cyn y gorchfygwyd Pabyddiaeth yng nghalonnau'r werin. Dangosodd Mr. Williams hefyd ddylanwad y Ficer o Landdowror, a gadwodd yn fyw yr iaith Gymraeg trwy ddysgu'r werin yn ei ysgolion i ddarllen a deall y Beibl yn y Gymraeg. YN Y BRIFYSGOL. At Olygydd Y FORD Gron. Syr,-Yn ei ysgrif ar Lerpwl yn Y FORD Gron ddiwethaf fe anghofiodd Mr. Eilian Roberts enwi, ymhlith Eisteddfodau'r ddinas, un o'r Eistedd- fodau mwyaf llewyrchus a phoblogaidd Glannau Merswy, — sef Eisteddfod Cymdeithas Cymry Prif Ysgol Lerpwl. Sefydlwyd hon ers rhai blynyddoedd bellach, ac erbyn hyn bydd cannoedd yn tyrru bob blwyddyn iddi. Nid bychan, chwaith, fydd rhif y cystadleu- wyr,-a fernir gan feirdd, llenorion a cherddorion mwyaf blaenllaw Cymru. Cynhalia'r un Gymdeithas lu o gyfarfodydd byw iawn eraill ­darlith- oedd, dadleuon, a phethau tebyg. Credaf, felly, mai iawn yw i Gymru wybod bod ei meibion a'i merched ieuainc, mewn Prif Ysgol estron, yn cadw'n fyw iaith a thraddodiadau en gwlad. Y Brif Ysgol, Lerpwl. YNG NGHAER LYR. ynghyd, a chael gan rai sydd ymhell oddicartref ac yn unig yn y ddinas, deimlo bod un noson yn yr wythnos yn werth edrych ymlaen ati pe na bai ond i gael yr awyrgylch yn Gymreig. Trefnwn arwest, neu ddadl, neu noson ddifyfyr. Gwahoddwn siaradwyr o blith ein dinasyddion sy'n feistriaid ar destunau, neu cawn bapurau gan aelodau. Ceir cinio ar Wyl Ddewi heb y rhialtwch cyffredin a heb y Maer. Cawn siaradwyr o Gymru, a chantor neu gantores i godi'r hwyl. EFRYDYDD. HWYL EISTEDDFOD YN OHIO. "DU hwyl fawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Jack- son, Ohio, ac fe ddaeth corau yno o Wilkes-Barre, Utica, Cleve- land, a Columbus. Yr oedd holl ystafelloedd y gwestai wedi eu llogi fisoedd cyn yr Eisteddfod. Dr. Daniel Protheroe (Chicago); Dr. Lewis Watkins (Philadelphia), a Mr. L. Powell Evans (Atlantic City) oedd y beirniaid cerdd. Côr Orpheus, Cleveland, a enillodd y wobr ( £ 300) a gynigid i'r côr meibion gorau (wyth yn cystadlu). Côr Lima a enillodd yng nghystadleuaeth y corau cymysg (gwobr _300), a Chôr Merched Lima oedd yn fuddugol yn eu cystadleu- aeth hwythau. Aeth dwy wobr i Gymru, sef un am gyfieithu'r Concord Hymn i'r Gym- raeg, i Mr. T. Geufronydd Jones. Towyn, Meirionnydd, ac un am ddarn barddoniaeth Cymraeg, Y Bardd Hen," i Mr. Idris B. Williams, Aber- gynolwyn, Meirionnvdd. Llwyddiant a fu cyngerdd yn New York er budd Cronfa Myfyrwyr Ang- henus Cymru. Yr oedd yn un o'r cyngherddau mwyaf clasurol a gynhaliwyd erioed gan y Cymry yma. Canai Mr. Ifor Thomas a Miss Sue Harvard yn ardderchog fel arfer, er bod Mr. Thomas newydd glywed am farw ei dad yng Nghymru. Bu Miss Rosina Davies, yr efengyles o Gymru, yn pregethu yn New York, yn Pittsburgh, yn Philadelphia, yn Slatington, ac mewn mannau eraill yn ystod mis Tachwedd. COR CYMREIG CHICAGO. Oddi wrth Ohebydd Arbennig. Y MAE Côr Meibion Cymreig Chicago 'n cynnwys 60 0 Gymry. Nid oes ond pum mlynedd ers pan sefydlwyd y côr, ond fe'i cyfrifir yn awr ymhlith corau gorau'r Taleithiau Unedig. Yn ystod y pum mlynedd y mae wedi canu cant o ddarnau cerddor- iaeth o radd uchel. Y peth sy'n rhyfedd ydyw mai'r cyfansoddiadau Cymreig sydd orau gan y gwrandawyr, er'bod y cynulleidfaoedd i gyd yn gymysgryw. Bydd yr arwein- ydd, y Dr. Protheroe, yn mynnu caei rhyw gymaint o gerddoriaeth Gymreig ym mhob cyngerdd y cymer y côr ran ynddo, a hefyd bob tro y byddant y:i canu ar y radio. Yr ydym ni yn y Taleithiau Unedig yn gobeithio y bydd arweinwyr corau yng Nghymru roddi rhagor o'u sylw gerddoriaeth arbennig Cymru, a llai i'r 101 rad a genir ganddynt y dyddiau hvn. Y mae Côr Meibion Chicago newydd ddechrau eu pedwerydd dymor o ganu ar y radio o orsaf y Prairie Farmer. Bydd yn canu fel hyn unwaith y mis hyd Ebrill y flwyddyn nesaf. Dyma enghraifft deg o raglen noson: Hallelujah Chorus (Mount of Olives) Mae 'Nghariad i'n Fenws; Dafydd y Garreg Wen: Italian Salad (Richard Gene); Lullaby of Lone (Fletcher) Song of the Marching Men (Protheroe). Y mae'r Dr. Protheroe, hefyd, yn arwain côr yr Eglwys Ganol, Chicago; côr yr Illinois Bell Telephone; côr y Chieago Daily News; y côr Wilson (Packer); côr plant Sherwood; côr Y.M.C.A. Chicago, a chôr y Clwb Arion ym Milwaukee.