TANBEIDRWYDD EDINBURGH. Gan MRS. K. WILLIAMS-GERRARD (Alawes yr Alban). Y MAE gennyf yr anrhydedd o gyflwyno Cymry Caer Edwyn i gwmnïaeth eu cydwladwyr o amgylch Y FORD GRON. Er eu bod yn ychydig eu nifer, y mae pob un yn fawr ei ddylanwad ym mywyd y brifddinas. Ym myd crefydd cawn y rhai hyn Y Parch. T. Hywel Hughes, prif- athro Coleg Annibynwyr yr Alban, brodor o Aberdâr. Y Parch. Dr. Rees Griffiths, gwein- idog capel Annibynnol Augustine, a ddaeth yma o Bontypridd tua dwy flynedd yn ôl. 'Y Parch. Roderick Glyn Davies, a ddaeth yma o Acton, Llundain, brodor o Sir Fryeheiniog. (Y mae Mrs. Davies yn ferch i'Dr. John Morgan, Pontrhydj'groes, Ceredigion.) Y Parch. David Beale, gweinidog capel Annibynnol Duke-street. Y Parch. W. Letlert Lloyd, gwein- idog yr Harper Memorial (Eglwys yr Alban), Coburg-street, brodor o Gaer- fvrddin. Y Parch. Edward Roberts, gwein- idog capel y Mud a'r Byddar, Albany- Ym myd masnach a gwladwriaeth ceir Mr. Rees Griffith Thomas, Rheolydd Banciau Barclay yr Alban, brodor o Gaerfvrddin. Mr." David Jones, Bwrdd y Pysgod- fevdd, o Frycheiniog. Mr. Chas E. Price, cyn A.S. dros ganolbarth Caer Edwyn. Yn anrhydeddu byd addysg ceir y Cymro pybyr, Mr. Thomas Jehu, Athro yn y Brifysgol, brodor o Faldwyn. Yn ein plith hefyd y mae Mr. a Mrs. John Edmunds-Mr. Edmunds yn fab i'r diweddar Mr. Llewelyn Edmunds, a gofir yn Llundain fel arweinydd y gân yn AVUton-square. Y mae'r gantores dalentog o Aber- dyfi, sef Miss Gwyneth Lewis, hefyd yn aros yn y ddinas. Athrawes cerdd yn y Caanan School ydyw hi. Bydd Miss Lewis ar bob adeg yn barod i was- anaethu ei cbenedl trwy gyfrwng ei chân a gyda hynny medda bersonol- iaeth serchus. Llawen gan bawb gael Miss Lewis a'i Chymraeg melys yn ein mysg. Nid oes yma addoldy Cymreig, ond trwy garedigrwydd y Prifathro Dr. Hughes, yr ydym yn cael Cysegrfa ei Goleg i gynnal moddion gras yn iaith ein mamau. Y mae yma Gymdeithas Gymreig, a'r tân cenedlaethol yn llewyrchu ynddi yn ddi-dor. Gw.eichiona hwn yn fflam dymor y gaeaf, yn enwedig wrth ddathlu Gŵyl Ddewi. Un rheswm arall am frwdfrydedd y gaeaf ydyw'r atodiad sylweddol o Gymry ieuainc sydd yn y Brifysgol. Mawr ydyw'r cynhorthwy a rydd y rhain i ffaglu'i awen. Gwelir bod Hen Wlad eu Tadau a'i thraddodiadau yn annwyl i Gymry, Caer Edwyn, a'u bod yn ymdrechu i gadw yn fyw yn eu cof Ei Bethel a'i bwthyn, Ei thalent a'i thelyn, Yr emyn a'r alaw, Ei chrefydd a'i chân. Cymry Diddorol Newcastle. Y MAE rhyw gant o Gymry yn Newcastle-on-Tyne, a barnu wrth restr aelodau Cymdeithas y Cymrodorion. Siopwyr ac athrawon a dynion busnes yw'r rhan fwyaf ohonynt. Hyd y gwn, nid oes yma'r un Cymro yn gwerthu Haeth. Cymdeithas y Cymrodorion yw'r unig sefydliad Cymreig yn Newcastle. Hyd ryw flwyddyn yn ôl, ceid yma ddau wasanaeth CymraBg-un yng nghapel Eglwys Gadeiriol y ddinas, a'r UaU yng nghapel Presbyteraidd Seisnig John Knox yn Westgate-road. Yng nghapel John Knox ceid pregeth Gymraeg a gwasanaeth bob wythnos, ond fe ddarfu'r cyrddau hynny pan dderbyniodd y gweinidog (y Parch. J. Ridehalgh Jones) alwad yn òl i Gymru ­i Ferthyr Tydfil. Tebyg fu hanes y gwasanaeth a gynhelir yng nghapel yr Eglwys Gadeiriol, a phan gofiwn fod tua hanner cant yn dyfod ynghyd i'r naill was- anaeth a'r UaU, gresyn fod y cyfarfod- ydd hyn wedi myned i lawr. Y Parch. D. J. Lewis, brodor o Aber- tawe, a weinyddai yng nghapel yr Eglwys Gadeiriol, a cheffid pregeth achlysurol gan y Parch. E. L. Owen, un o fechgyn sir Feirionnydd. Y mae Mr. Lewis yn awr yn Ficer Allendale, ac apwyntiwyd Mr. Owen i ficeriaeth St. Andrews. Newcastle. CAER A'I PHUM EGLWYS. Y MAE yng Nghaer (Chester) niier fawr o Gymry-gan mwyaf o'r Gogledd-ac y mae'r nifer yn fwy fyth os cyfrifir y rhai sydd yn Gymry o waed ac o ran nodweddion ond heb fedru'r iaith. Y rhwymyn tynnaf i gadw'r genedl ynghyd ydyw'r un crefyddol. Ceir yma bum eglwys Gymraeg, yn perthyn i'r Eglwys yng Nghymru, y Methodist- iaid Calfinaidd, y Methodistiaid Wesle- aidd, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Y mae gan y Methodistiaid Calfinaidd hefyd eglwys Saesneg sydd ag elfen Gymreig gref ynddi. MUDIAD NEWYDD CREWE. Y MAE gan Gymdeithas Genedl- aethol Gymraeg Crewe a'r Cylch 150 o aelodau, ac fe ddechreuwydo ddifrif eisoes ar waith y gaeaf. Bu'r Athro E. Ernest Hughes, Abertawe, yn rhoddi darhth ar Griffith Jones, Llanddowror, yma ar Hydref 4, ac ar Hydref 18 fe fu dadl rhwng Cym- deithas Cymry Gogledd Stafford â Chymdeithas Crewe ar A ydyw iaith yn anhepgor i gadw yn fyw hunan- iaeth cenedl ? Y Prifathro D. Emrys Evanfi, Bangor, oedd gwr gwâdd y wledd Gymreig a fu yn Hanley ar Hydref 11. Dwy Eglwys Gymraeg sydd yng Nghrewe-y naill yn Bresbyteraidd a'r llall yn Annibynnol. Y mae symudiad ar droed i geisio dwyn gwahanol gymdeithaeau cylch- oedd Crewe at ei gilydd a ffurfio adran Gan Mr. HAYDN MORGAN. Llywydd Cymdeithas y Cymrodor- ion heddiw yw Mr. Rhys Williams, brodor o Bontypridd, ac un o Gymry mwyaf adnabyddus y cylchoedd yma. Da y gwyr Cymry Lerpwl a Chaer hefyd am Mr. Williams, canys treul- iodd bymtheg mlynedd yn y parthau hynny fel un o wyr blaen cwmni yswiriant Victoria, LerpwI. Symud- odd i Newcastle ugain mlynedd yn ol, ond reteiriodd bellach ers rhai blyn- yddoedd, ac y mae'n byw yn awr ar tan y môr yn Whitley Bay. Gŵr siriol a chwrtais ydyw Mr. Robinson Jones, yr ysgrifennydd, wedi ei eni a'i fagu yn Nhrallwm, Sir Drefaldwyn. Hoffus ganddo'r cof am Aberystwyth hefyd. Yr hen Aber annwyl meddai. Yr wyf yn cofio mynd yno i chwarae criced. Y mae wrthi'n brysur yn awr yn ein galw ynghyd at gyfarfodydd y gaeaf. Un o is-lywyddion y Cymrodorion yw'r Parch. Alfred Thomas (Cymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llên), ficer St. Barnabas, plwyf Jesmond, ac awdur amryw lyfrau ar bynciau trymion. Brodor o Abertawe yw Mr. Thomas. Y mae gan Gymry Newcastle-on- Tyne hefyd eu cynrychiolydd yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain, sef Alfred Gwalia, a urddwvd fel Derwydd yn Eisteddfod Pwllheli yn 1925. Mr. Thomas yw hwnnw. newydd o Undeb Cenedlaethol y Cym- deithasau Cymraeg. Mrs. Johnson (Gwen Rhosiawr), Longton, Stafford- ehire, ydyw ysgrifennydd yr adran newydd. Mr. John Davies ydyw ysgrifennydd Cymdeithas Crewe. TRIGAIN SELOG NOTTINGHAM. YCHYDIG o Gymry sy'n byw yn Nottingham, ac nid oes achos Cymraeg i'w gael yma. Ond y mae yma Gymdeithas Gymraeg a thua 60 yn perthyn iddi. Cynhelir yn y gaeaf whist drires, cyngherddau, cymanfa ganu (Leicester a Derby yn ymuno yn hon ), parti NadoUg, drama Gymreig a chinio Dygwyl Ddewi. Athrawesau, athrawon, gweinidog- ion (yn y drefn yma) ydyw mwyafrif y Cymry o'n cwmpas. Ceir hefyd ambeîl fasnachwr (lled gefnog fel rheol). Y teulu mwyaf Cymreig ydyw teulu Mr. J. Edgar Jones, Yr Wyddgrug, goruch- wyliwr glofeydd mwyaf y sir—Woll- aston a Radford. Ei fab, Mr. D. Hywel Jones, Bank House, Staplefoid, ydyw ysgi ifennydd y Gymdeitha s. J. R. Thomas. AM BATAGONIA. Y mae deng mil o Gymry yng Ngwladfa Patagonia, ac fe geir ysgrif swynol amdanynt hwy a'u rhamant gan y Parch. W. R. Jones, fu'n weinidog gyda hwy, yn Y FORD GRON y mis nesaf. PRYSURDEB YN AMERICA. CYNHALIODD Cymdeithas Kymry Chicago gyfarfod cyntaf tymor y gaeaf ar y 14 o Hydref. Mr. D. Edward Jones, La Grange, ydyw'r llywydd newydd. Yr un prynhawn bu cyfarfod cyntaf Clwb Merched Cymreig Chicago, ac edrychant ymlaen at dymor prysur. Y mae Côr Meibion Cymreig Chicago hefyd wedi dechrau ar waith y gaeaf. Cynhaliodd y Cantorion Ymherodr- aethol Cymreig gyngerdd mawr yn y Civic Theatre ddechrau Hydref. Can- asant lawer o glasuron y byd. Ymhlith eu datganiadau Cymraeg yr oedd Blodwen a Plant y Cedyrn (Dr. Joseph Parry). Unosêrycôrhwn ydyw Mme. Gwennie Williams-Evans, brodor o Lanelli. Y mae mudiad ar droed yn Seattle, Washington State, i fynd â pharti i Gymru yn 1931 i actio drama Dewi Sant," o waith Mr. Z. Henry Lewis. Fe ymddiswyddodd y Parch. R. Lewis Jones, gweinidog Cymreig Detroit, Michigan, yn ddiweddar, er mwyn mynd am gwrs o addysg i Goleg Diwinyddol y Presbyteriaid yn Chicago. Un o Borthmadog ydyw Mr. Jones. Cyfarfu Cymdeithas Cymry Canton, Ohio, yr wythnos o'r blaen i ethol swyddogion. Bydd y Gymdeithas hon yn cynnal parti Nadolig, gwledd Wyl Ddewi, ac ad-uniad Cymreig. Cynhaliwyd cymanfa ganu yn Niles, Ohio, ar Hydref 5, dan nawdd Clwb Derwyddon Niles. Penderfynodd Cymdeithas Dewi Sant Youngstown, Ohio, gynnal rhagor o gyrddau ysmygu," neu gyrddau cIebran," yn ystod y gaeaf, a hefyd i wahodd côr meibion Cymreig Cleveland atynt. Bu gan Gymry Colorado gymanfa ganu yn ddiweddar, ac y maent vn gobeithio gwneud hon yn ddigwyddiad blynyddol cyson. Bu cymanfa ganu hefyd yn Niagara Falls. ж Cynhaliodd Cymry Atlantic City eu prynhawn cerddorol a'r tê arferol ar gychwyn tymor y gaeaf. Y mae Cymdeithas Cymreigyddion Utica, New York, hefyd wedi cychwyn ar dymor bywiog, ac y mae'r un peth yn wir am Eglwys a Chymdeithas Gymreig Los Angeles, CaUffornia. Daeth meibion Maesteg, Morgannwg, at ei gilydd i Bethlehem, Pennsylvania, yr wythnos o'r blaen. Deuthant o bob man — Scranton, o Wilkes-Barre, o Shenandoah, o Allentown, ac o Phil- adelphia, a chafwyd cyfarfod hwyliog. YNG NGHAERLOYW. YMAE gan Gymdeithas Cymry Caeiloj^w tua 30 o aelodau, a chwrddant bod nos Fawrth o ddiwedd Medi hyd y Pasg. Trefnwn arwest, neu ddadl, neu noson ddifyfyr. Gwahoddwn siarad- wyr o blith rhai o'n dinasyddion sy'n feistriaid ar destunau neu fe gawn bapurau gan aelodau. Ceir cinio ar Wyl Ddewi heb y rhialtwch cyffredin a heb y Maer. Cawn siaradwr o Gymru, a chantor neu gantores i godi'r hwyl. Ivob Jonbs.