Phoio, golchi, a gratio'r rwdins; malu'r onionyn, a'i roddi gyda'r rwdins, gyda halen a phupur a mint mân. Eu cymysgu'n dda. Dodi llwyth o'r gymysgfa yma ar bob sgwâr. Cydio jm y ddwy ochr gyferbyn a'u gwasgu at ei gilydd yng nghanol y top yna pwyso'r ddau ben yn fflat. PWDIN CAROTS. Pwys o garots pupur a halen tri wy llaeth (nid llaeth enwyn) blawd; #ILL E#pwys o iau, ac ymenyn wedi ei doddi. Crafu a golchi'r carots. Eu torri'n slisiau tew a'u berwi nes eu bod bron yn barod. Gwasgu'r dŵr i ffwrdd, a'u gadael i oeri. Cnocio wy gyda thipyn o laeth, rhoi halen a phupur ynddo, a digon o flawd i'w wneud fel defnydd crempog go dew. Trochi pob un o'r slisiau carots yn hwn, ac yna'u ffrïo bob ochr nes bod wedi crasu'n frown. Trefnu haen o'r slisiau mewn dysgl wedi ei hiro. Berwi neu ffrîo'r iau, ei dorri'n slisiau tenau, a threfnu haen o'r rhain ar ben y slisiau earots, a rhoi tipyn o'r ymenyn toddedig hyd-ddynt. Cnocio'r ddau wy arall gyda halen a phupur, a thywallt peth ohono am ben yr iau. Rhoddi haenau eraill o garots ac iau ar ben ei gilydd nes bod y cwbl wedi ei iwsio. Yna dodi'r ddysgl mewn popty cymhedrol boeth a'i gadael yno nes bod y cwstad wedi sadio. Dodi'r cyfan ar y bwrdd yn booth, gyda thatws a saws. POBL GYNTAF LLUNDAIN. Afonydd.. bryniau, a chorsydd oedd nod- weddion y Llundain gynaraf," meddai Mr. Francis H. Mackintosh, y daearegwr, mewn ysgrif yn ddiweddar. Yr oedd de Llundain yn gors i gyd-yn llyn mawr du, ac efallai mai hwn a roddodd i Lundain ei henw. Y Cymry oedd pobl gyntaf Llundain, a hawdd fuasai i'r geiriau Llyn Du '-geiriau anodd ar dafod y Rhufeiniwr-gael eu troi'n Lin-din neu Londinium." YR UCH-GYMRO. Mae e'n dechrau sôn am Ddiwylliant- Rhedwch ar 61 y dryU Neu'r geiriau nesaf a ddaw o'i geg Fydd Y golled i Gymru os cyll Mae popeth modem yn wrth-Gymreig, Mae popeth poblogaidd yn hyll, Ond, hyd angau, Diwylliant, Diwylliant, Diwylliant Diwylliant Di-wyU WALDO WILLIAMS. Mae'r cantwr coch o rywle Yn meddwl ei fod e'n wych, Ond mae ei ddatganiadau Yn annioddefol sych Fe'i clywais ef pwy noswaith Yn rhygnu trwy ei diwn­ 'Dyw Natur wedi ei dorri i ma's Na Dyn wedi ei dorri i miwn. 'Roedd pawb yn gwrando arno Mewn hiraeth am yr awr Y doi i'r nodyn olaf A dod o'r llwyfan lawr; 'Roedd Dai yn ddiamynedd- Clywais e'n dweud wrth Ann 0 na bai'r dyn yn torri i lawr Neu'r cwrdd yn torri i lan." WALDO WILLIAMS. GìRRWCH LYTHYR I'R "FORD GRON." Bydd y Golygydd yn falch o gyhoeddi barn neu brofiad darllenwyr Y FoRD GRON ar unrhyw bwnc. Bydd yr un croeso i bawb fel ei gilydd. Rhoddir croeso hefyd i bob awgrym sut i wneud Y FoRD Gron yn fwy diddorol ac yn fwy defnyddiol. Gwahoddir ysgrifau neu baragraffau ar bynciau byw. Telir am bopeth a gyhoeddir. Y FFORDD ORAU I HELPU'R "FORD GRON ydyw i bob darllenydd ennill tri o ddarllenwyr newydd. WRTH ATEB hysbysebwyr dywedwch mai yn Y FORD GRON y gwelsoch yr Hysbysiad. Cyfrinach gwallt hardd ydyw croen pen iach a gwreiddiau cryf. Y mae Rowland's Macassar Oil yn foddion i sicrhau croen pen iach a chryf. Ue y bo eisiau budd buan, defnyddiwch Oil Shampoo" Macassar.* Os diogelu croen y pen a symbylu ychydig ar y gwallt yn unig sy'n eisiau, rhwbiwch dipyn o Rowland's Macassar Oil yn drwyadl i groen y pen [nid ar y gwallt) o bryd i bryd, ar ôl golchi'r gwallt ydyw'r adeg orau. *"OIL SHAMPOO" MACASSAR. Dodwch dipyn o Rowland's Macassar Oil mewn llestr bychan a'i gynhesu trwy osod y llestr mewn d-wr cynnes. Yna rhwbiwch yr olew i groen y pen yn drwyadl â blaenau'ch bysedd. Ewch dros y pen fel hyn fesul darn. Ar y diwedd, lapiwch dywel cynnes am y pen. Os defnydd- iwyd gormod o'r olew, gellir ei symud trwy gael shampoo da, ond gwell fyddai ei adael hyd fore drannoeth er mwyn i'r olew gael digon o amser i gael effaith da. Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pris 3s. 6ch., 7s., a lOs. 6ch. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 112, GUILFORD ST., LONDON, W.C.1.