Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYNODION HEN GYMERIADAU LLANDDERFEL. 15. Thomas JONES, Y.H., BRYNMELYN. 1836-1906. MAB i Thomas Jones, Brynmelyn, vı gynt o'r Gob a Penybryn, Bethel, ac wedyn Penybont, Llandderfel, oedd y Thomas Jones uchod, a brawd i'r diweddar Dafydd Jones, y Siop,­-David Jones & Co, Lerpwl, ar ôl hynny. Y Thomas Jones hwn oedd prif amaethwr y plwyf, a phrif fasnachwr Penllvn ac Edeyrnion mewn blawd. Cadwai ddwy felin, un yn y Bala, a'r llall ger Corwen. Gwr byr o gorff ond cydnerth oedd ef, trwm ei edrychiad, ond arabus iawn mewn ymgom a chwrdd. Hoff ydoedd o gerdd-dafod a cherdd-dant, a chlywrais ef rai troeon yn canu penillion telyn,- unwaith yn Llandderfel bob yn ail bennill â'r Ellmyn, y Dr. Kuno Meyer, ac nid anghofiaf yn fuan yr hwyl a gafwyd. Pan ddeuai gŵr enwocach na'i gilydd i Brynmelyn, ac os byddai rhyw gyfarfod ar fynd yn y pentref ar y pryd, byddai Mr. Jones yn sicr o ddod a'r gŵr hwnnw i'w ganlyn i'r cwrdd a'i roddi ar waith. Cawsom fel ardalwyr glywed rhai o enwogion Prydain Fawr yn y dull yna. Ond hyd yn hyn nid wyf wedi cyffwrdd â hynodrwydd y g-wr oedd mor anhebgor yn y plwyf. Gan fy mod wedi crybwyll amdano fel masnachwr blawd, nodaf yn awr un hanesyn amdano a ddengys y dyn oedd ynddo fel masnachwr. Mewn un amgylchiad, wedi iddo hir ddisgwyl yn ofer am dâl blawd gan gwsmer, an- fonodd lythyr ato yn ei hysbysu y buasai'n ddiolchgar iddo os deuai a'r arian dyledus iddo i Gorwen y dydd Gwener dilynol. Ni ddaeth neb i'w gyfarfod er iddo ddisgwyl yn hir, a siomwyd ef yn fawr ond, y Gwener d lynol, wele wraig y dyledwr yn ei gyfarfod gan estyn iddo ran o'r arian dyledus. Dywedodd y wraig wrtho ei bod yn gofidio oherwydd ei siomi y Gwener blaenorol, ond nad allasai feddwl am ddod, yr oedd hi mewn gormod o brofedigaeth. Pa beth oedd eich profedigaeth ? ebr yntau. Wel, y bore y derbyniais eich llythyr," ebr hithau, "yr oedd fy mhriod yn ymladd ag angau, ac yn marw pan oedd y Postman wrth y drws." "Beth!" ebr yntau, gadewch i mi weld y bil yna," gafaelodd ynddo a thaflodd ef i'r tân yn ei gwydd hi. Y mae'n wir arw gennyf am eich profedigaeth," ebr Brynmelyn wrthi, a gofidiaf fy mod wedi anfon i'ch trwblo, cymerwch yr arian yma adref i'ch canlyn, nid oes arnoch ddimai i mi mwy, ac mae'n wir arw gennyf fy mod wedi'ch trwblo o gwbl." Dyna Thomas Jones fel masnachwr. Ond yr oedd Thomas Jones yn fwy na masnachwr. Bu am flynyddoedd yn aelod ar y Bwrdd Ysgol, a phan ddilewyd hwnnw cafodd ei osod ar y Cyngor Addysg, a bu yn aelod o hwnnw drachefn hyd ei fedd. Bu am ysbaid yn aelod o'r Cyngor Dosbarth, ond rhoddodd hwnnw i fyny am y teimlai y buasai o fwy gwasanaeth i'w blwyf ar y Cyngor Sir, fel aelod Rhydd- frydol, ac ar y Cyngor hwnnw y bu'n weithiwr ffyddlon weddill ei oes. Pan hunodd cafodd y Sir golled anadferadwy. Yn wobr am ei wasanaeth cafodd ei ddyrchafu i'r Fainc Ynadol, a chredaf na bu gvvr cymhwysach yn eistedd arni erioed, yn herwydd ei farn aeddfed a gonest. Heblaw a ddywedwyd yr oedd hefyd yn fywyd ymhob cwrdd, yn Rhyddfrydwr cadarn, ac yn arweinydd pob symudiad. Credaf mai adeg helyntion y Rhyfel Degwm y gwelwyd ef fwyaf yn ei afiaith, a bu'n arweinydd diogel i'r amaethwyr y pryd hwnnw, a gweithiodd yn galed ac egnïol i geisio dileu'r degwm a thros Ddatgysylltiad yr Eglwys. Amser a balla i mi fynegi'r hanner am y gŵr annwyl o Frynmelyn. Credaf fy mod wedi dywedyd digon eisoes i ddangos ei fod yn ŵr hynod, ac yn wr sydd yn haeddu cadw ei rinweddau vn fvw i'r oesau a ddêl Rhinwedd ydyw mawredd moes, Delw hynod ail einioes. 1 6. ROBERT Thomas, Y Siop. 1835-1007. Un o blant y Llan o'i febyd oedd Robert Thomas. Pan ddaeth i oedran gwr, ac i Dafydd .Jones, y Siop, adael y Llan am Lerpwl, cymerodd Robert