RHYFEDD fel yr awn i gymryd yn ganiataol, bethau cyffredin bywyd, heb feddwl amdanynt mewn unrhyw ffordd o gwbl. Un o'r pethau hynny yw'r papur newydd, sydd, fel ein bara beunyddiol, yn dyfod i ni o ddydd i ddydd. Anodd dirnad byd hebddo, na dychmygu'r chwyldroad a barai ei golli. Eto, bu Cymru unwaith, fel pob gwlad arall, heb glywed sôn am bapur newydd na chyfnodolyn o unrhyw fath. A hanes rhamantus ac arwrol yw hanes dechrau a chynnydd y wasg gyfnodol yn ein gwlad ni. Cyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, nid oedd yng Nghymru gyfrwng i ledaenu newyddion ond trwy faledau a Llythyrau Newyddion. Rhoddai'r baledau hanesion lleol i'r bobl-tân yma, storm acw, llof- ruddiaeth, priodas, neu farwolaeth mewn lle arall-a gwerthid hwy gan bedleriaid ar hyd a lledy wlad mewn ffeiriau, a chyrch- fannau tyrfaoedd. Gwaith y Llythyrau Newyddion oedd lledaenu hanesion tramor a phellennig, ond ni ddeuai y rheini i gyrraedd pawb, ac ni allai y rhan fwyaf eu darllen oherwydd yn Saesneg yr ysgrifennid hwynt. Ond yn 168) dyna'r cofnodolyn Cymraeg cyntaf allan o'r wasg yn y ffurf olaf y disgwyliem ni yn y dyddiau hyn ei weld — seì ar ddelw almanac. I ŵr o'r enw Thomas Jones y perthyn y clod am hyn. Un o Dre'r Ddol, ger Corwen, oedd, ond pan oddeutu un ar bymtheg oed aeth i Lundain, ac oddiyno y cyhoeddwyd ei almanaciau hyd 1695, pan symudodd i'r Amwythig. Yr oedd yn llenor o gryn fri yn ei ddydd, ac wedi ysgrifennu Y Gymraeg yn ei disgleirdeb, Neu Helaeth Eirlyfr Cymraeg a Saesnaeg," heblaw argraffu amryw o lyfrau crefyddol Cymraeg. Cynnwys amrywiol iawn sydd i'r almanaciau hyn. Ceir ynddynt, heblaw'r almanac ei hun, newyddion am y gorffennol, proffwydoliaethau am y dyfodol, barddoniaeth, rhyddiaith, hysbysebu, cyfarwyddiadau i ddarllen, a rhestr o'r ffeiriau. Ond er mwyn cael syniad cliriach o'u cynnwys, wele restr o'r pethau a welir yn y rhifyn cyntaf HEN ALMANACIAU. a welais i, sef yr un am 1683. Ar y ddalen enwol ceir a ganlyn :-Newydd oddiwrth y ser neu Almanac am y flwyddyn 1683 yr hon iw'r drydydd ar ôl blwyddyn naid j 0 wneuthyread Tho Jones myfyriwr yn sywedyddiaeth. Gan imi ddewis yn gynta ddyfod Yn jaith gymru'n wybrenol genad: Heuddwu fy 'nghost am fy nglasiad, Fy 'mhoen yn rhwydd, a rôf yn rhad. Yna ceir darlun ohono, ac odditanodd y geiriau, Eioedraniw 35." Argraph- edig yng Caerludd, ag ar werth gan yr Awdwr, yn Cobbs Court yn Black-friers, Llundain, 1683." Ar yr ail dudalen daw Llythyr at y Gwîr Garedigion Gymru." Yng nghwrs y llythyr dywed, 'Rwifì'n gobeitho, y gwasanaetha yr hyn a ysgrifenais attoch y llynedd, i'ch gwneuthyr yn hyspus, fod yr holl hawl, ag awdurdod, o wneuthyr, ag o roddi allan, bob math o Almanaccau, a chalendarau blynyddawl yn y laith Gymraeg, wedi i wastadlu arnafi yn unig, ag os gwneiff eraill y fath bethau, gwnant gam a myfi, a gwrthwynebiad i'w Brenin os digwydd ir Cymru weled ar werth, y fath Frithoneg ddiwres, na heuddau henw yr Awdwr wrthi, rwi fi yn gobeithio y Gwnant well ysmoneth ai harian, ag ai hamser na ffrynu a darllen y fath bethau." Yna ceir y wyddor Gymraeg, gyda chyfarwyddiadau i ddysgu darllen. Wedyn daw ychydig farddoniaeth- englynion o anerch, a Chynghor i'r Awdwr," han Henry Evans, a cherdd, I annog i ddyn feddwl am farwolaeth, o waith yr un gwr." Bedwellty yn Sir Fynwy, Mawrth 26, 1682, Henry Evans." Yn nesaf ymddengys ffigyrau rhifyddiaeth gyda chyfarwyddiadau sut i'w defnyddio. Dilynir hyn gan Ysbysrwydd i ddeall yr Almanack sy'n canlyn," yna'r almanac ei hun. Ar ôl hyn daw Dechrau a diwedd y Tympor Cyfraith yn Westminster yn y flwyddyn 1683 Diffygiadau'r Goleuadau mawrion yn y flwyddyn 1683"; "Danweiniad Tywyllwch" (Cân fer yn proffwydo diffyg yr Haul yn 1687) Dychmygawl