Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ac erfyn arnynt aros am ddau neu dri diwrnod. Od ymfodlonwch i aros," ebr ef wrthynt, y mae'n debig y cewch weled Owen Glyndwr, y dyn gwaethaf sy'n y wlad. Wedi clywed ei fod yn yr ardal, danfonais fy ngweision i'w ddal ar unwaith. Disgwyliaf ef yma bob munud." Gwrandawai'r ddau ymwelydd yn astud iawn. Wrth ymadael, diolchodd Owen iddo'n galonnog am ei garedigrwydd a mynegi iddo pwy ydoedd. Effeithiodd hyn mor fawr ar Syr Lawrens fel y bu'n fud hyd ei fedd. Yr oedd Owen Glyndwr yn efrydydd hanes. Dichon y credai, fel y dywedodd Abad Glynygroes wrtho, godi ohono'n rhy fore. Sylweddolid ei amcanion mewn oesoedd dilynol. Y mae ei obeithion yn ffeithiau erbyn hyn. Ymladdodd dros ryddid Cymru. Er nad yw Cymru'n annibynnol ar Loegr heddiw, mwynhâ'r un rhyddid â hithau. Yr oedd dau goleg prifysgol yng Nghymru ar ei raglen. Y mae pedwar ynddi'n awr. Hiraethai Sgiwen, Morgannwg. HENAFOL grair, dan fondo'r gwrych Yng ngardd yr Erw Gerrig, Urddasol gadair prifardd cerdd. Yn hen a chysegredig Daw Cymry hofî i'r fro o bell, I weled darn o ramant, O'r dyddiau gynt pan oedd y bardd Yn anterth ei ogoniant. Di-addurn yw ei defnydd hi, Ond drud yw ei chyfrinion; Fe wyr pob iot o hanes coll, Huw Morus, Pont y Meibion. Ni cherddais gynt i weld ei fedd Ym mynwent plwy' Llansilin, Gwell gennyf fyw yng nghwmni'r bardd Ger cadair ei gynefin. Owynfryn, Bwlch Gwyn. CADAIR HUW MORUS. DAEARGRYN. Nodweddion annedwyddwch,-gan orfawr Gynhyrfiad dychrynwch, Llaid y-lle, lludw a llwch Ddadwaddola ddedwyddwch. weled Eglwys Cymru'n rhydd. Sylweddolwyd hyn eto'n ddiweddar. Dibrisir y gweledydd yn ystod ei oes, ond gwyngalchu ei fedd a gwerthfawrogi ei genadwri wedi ei farw. Bu Glyndwr yntau farw mewn dinodedd, a'r Brenin newydd, Harri V, wedi cyhoeddi maddeuant iddo. Cred Mr. A. G. Bradley a haneswyr eraill dreulio ohono hwyrddydd ei oes naill ai yn Llys Kentchurch, ty ei ferch Alis Scudamore, yn Sir Henffordd, neu ym Monington, tŷ ei ferch Marged Monington yn yr un sir. Terfynodd ei yrfa ddaearol Medi 20, 1415, ebe un hanesydd, a'i gladdu ym mynwent eglwys un o'r ddau blwyf. Ymladdodd yn ddewr dros ei wlad, gan aberthu popeth er ei mwyn. Wedi canfod y weledigaeth, bu'n ffyddlon iddi hyd y diwedd. Rhoddodd ddelfrydau uchel i'w genedl. Cadwodd hi rhag anghofio ei hunaniaeth. Heddiw, ar ôl pum canrif, y mae mwy o'i ysbryd yn y tir nag erioed o'r blaen. PHILIP R. THOMAS. Bu'r bardd yn canu ynddi hi Ym murmur mwyn y Geiriog, I Gymru gynt ar newydd dant Mesurau rhydd yn hwyliog; Caneuon serch melysa'r iaith, A chynganeddion trylen, A Uawer Cywydd Gofyn taer I lysoedd am elusen. Yn ymyl hon yn hwyr un dydd Ag arni glustog Hydref, Gan ei chyfaredd denwyd fi I eistedd cyn mynd adref A dyma'i chwyn yng nghri y gwynt Yn gymysg â dail crinion 'Does neb yn adrodd i mi waith Fy mardd, o Bont y Meibion." TOM ROBERTS. EDWARD Gabriel.