Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYR HENRY JONES. i. DICHON fod enw ei gartref yn awgrymu rhywbeth am yr ardal yn ogystal. Cwm, Llangernyw, oedd cartref Syr Henry Jones. Ie, gellir dywedyd, Ei Gartref." Ni freuddwydiodd am ei well, ac ni feddyliodd am ei anghofio. Pentref a Phlwy yw Llangernyw, yn Swydd Ddinbych, ar fin afon Elwy, pan nad yw eto wedi ennill ond digon o nerth i wneud sŵn wrth lithro ymlaen tros y main man. Fel y daw yn îs, gwelir ei nerth mewn distawrwydd tawel a dwfn. Onid yw hyn yn wir am y bachgen a fagwyd ar ei glan yn annedd gyfoethog y Cwm ? Nid mewn arian y ceid ei gyfoeth, ond mewn llafur gonest, ymdrech dêg am fywoliaeth, a gwenau byw bywyd oedd am wneud cartref dedwydd i'r plant. Nyth i'w gywion, ac nid iddo'i hun a wna'r aderyn. Nid cartref iddynt eu hunain. ond i'w plant, oedd gan Elias ac Elisabeth Jones, y Cwm. Yr oedd Henry, mab y Cwm, yn ddigon byw i wneud stfn gyda'i droed, ar y ffordd i'r ysgol, a chyda'i law yng ngweithdy ei dad. Gwyddid ar ei gerdded, mai nid yn ddifeddwl yr âi i'r ysgol, ac ar ei law, mai nid yn ddiathroniaeth yr hoeliai wadn esgid y llafurwr caled ei fyd, nad oedd ganddo fodd i gael un yn aml a chynorthwyai'r gweithdy hwn iddo ei chael mor anaml ag yr oedd modd. Ganwyd ein gwrthrych ar y dydd olaf o Dachwedd, yn y flwyddyn deunaw cant a hanner a dwy. Bu fel hyn byw mewn dwy ganrif, yr oedd cysylltiad arbennig rhwng diwedd y naill a dechre'r llall ac yr oedd ef yn un ddolen yn y gadwyn. Gellir dywedyd am Hanes Cymru" yn y chwarter canrif ar ol 1870, mai hanes addysg oedd, bron. Yr oedd y Genedl Gymreig yn amcanu, nid at gynhyrchu bywyd cenedlaethol, ond at fyw ei chenedlaetholdeb. Cyffredin oedd amgylchiadau ei rieni, ond anghyffredin hwy, er hynny, mewn llawer ffordd. Crydd wrth grefft oedd ei dad, yn meddu ar lawer o asbri a direidi diniwed. Gwnai ddefnydd o'r ddau i gyfarfod a thymherau amrywiol y cym- dogion y deuai eu traed ar y pren mesur. Nid diogel iddo oedd mesur un droed yn unig, os nad oedd yn cofio hanes y troed arall yn weddol dda am y byddai yn cael cwyn ar ol gwneud dwy esgid ar yr un pren, ac felly yr un faint yn union, y byddai un yn esmwyth ddigon, a'r llall yn gwasgu'n greulon. Gwyddai yn weddol dda faint eu traed, eu pen, a'u calon. Yr oedd mam Henry o alluoedd cryfach na'r eyffredin-yn meddu gwybodaeth eang, a barn graff a diogel. Nid hawdd i neb a âi i'r bwthyn oedd cuddio eu nhodweddion o olwg y ddeuddyn hyn a denid hwy gan eu direidi a'u dawn yno drachefn. Dawn cael pobl i mewn oedd sylfaen bywoliaeth Elias ac Elisabeth Jones. Etifeddodd Henry lawn mwy o'r ddawn hon oddiwrth ei rieni na William, John, ac Elisabeth. Un peth lled hynod yw iddo gael ei fedyddio yr un dydd ag y ganwyd ef a hynny yn Eglwys y Plwy. Caed gwybod lawer gwaith ganddo ef mai crydd oedd ei dad, ac mai un o greiriau pennaf ei gartref oedd y llechen y cadwai ei dad gyfrif arni. Beth tybed oedd y cyfrif diweddaf ? A yw hwnnw arni eto ? Nodwedd amlwg ei deulu o ochr ei fam oedd eu crefyddolder. Gweithiwr ar yst�d Mr. Sandbach, oedd ei thad; a deuai adref, meddai un, bob nos Sadwrn gyda hanner coron o gyflog. Dichon mai cyfnod yr anrhydedd oedd wedi ennill, pan oedd yn gallu gwneud mwy na hanner coron yr wythnos, oedd hwn. Coron anrhydeddus oedd yr hanner corón iddo ef. Cael mynd a dyfod pryd y dewisai, a gwneud a fedrai heb neb yn malio dim yn ei gylch. Sicr nad oedd wedi casglu llawer, o'i gyflog prin, erbyn hen ddyddiau, fel mai da oedd cael ychydig gymorth, a llawer o ryddid. Y mae rhyddid i hen ŵr, wedi methu dilyn y gweithiwr," yn nefoedd fach iddo ar derfyn ei oes. Hoffai Henry Jones ganmol ei dad; ac nid anniddorol y ffaith iddo gyflwyno