Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

amhosibl esbonio perffaith ddistawrwydd y cofnodion ynghylch Ap John ar yr adeg hwn. Pe buasai'n cerdded y wlad a phregethu, fe fyddai'n rhwym o gael ei ddal a'i gosbi, tan y gyfres ddeddfau a ddwg enw Clarendon. Prin iawn y gellir credu iddo fod yr adeg yma yn y Deheudir heb ei gynllwyn. Gallai lwyddo'n well, y mae'n ddiau, yn ei wlad ei hun, canys nid oedd sôn amdano yn fynych wedi ei gosbi yno. Anos meddwl iddo fod yn dawel am gynifer o flynyddau, oni bai bod afiechyd a llesgedd wedi peri hynny. Gwyddis bod amryw wedi eu hennill at y ffydd newydd tua'r adeg yma, yn arbennig yn Sir Feirionnydd. Ac am y cymaint profion ag sydd ar glawr, profant mai Ap John ydoedd un o'r cyfryngau. At hyn yr oedd ganddo ei gangen ei hun o'r eglwys i'w hedrych ar ei hol. Yr ydoedd yr Eglwys wedi ei symud yr un pryd ag yntau ei hun o Ben y Cefn i Blas Ifa. Dilynodd y pen, a digona hyn i'n sicrhau bod honno yn disgwyl oddiwrtho ef yn llwyr am arweiniad. Yr oedd yr ail gyfnod yn hanes yr eglwys wedi cychwyn yn awr. Ar y cyntaf, eangu ei therfynau ydoedd ei gwaith, a chael eraill i mewn. Cyfnod yr ennill parhaus ac argyhoeddi rhai o'r newydd ydoedd y cyntaf yn hanes hwn, fel yn hanes pob mudiad. Hwn, gan amlaf, ydyw'r cyfnod gogoneddusaf ym mywyd mudiad. Y mae bob amser yn gyfnod o frwdfrydedd. Y mae'r mudiad yn ieuanc, ac fel popeth ieuanc, a'r dyhead am gynyddu yn elfen gryfaf ynddo. Y mae bywyd yn mynnu ei ddangos ei hun, a phopeth croes yn gorfod rhoi lle iddo. Cyfnod ei ieuenctid ydoedd y llawnaf o ysblander gloyw yn hanes Cristionog- aeth. Yng ngwanwyn ei hanes y bu crefydd Mohamed yntau gryfaf ei allu. Ac felly gyda'r Crynwyr yng Nghymru. Yr oeddid yn awr ar drothwy'r ail gyfnod. Yr oedd hwn wrth y drws, ac anhawsterau lawer yn ei ddilyn. Ni bu bywyd bellach a chymaint o newydd-deb ynddo. Nid oedd pob dydd i fod yn ddydd o ryfedd- odau a gweithredoedd nerthol. 0 hyn allan, ai'r rhamant yn llai, a'r peryglon yn fwy. Bywyd o eistedd i lawr, a meddwl, a gosod i fyny gyfundrefnau, ydoedd yr un oedd yn curo wrth y drws. I wynebu'r cyfnod hwn yr oedd yn rhaid wrth nodweddion rhagor na brwdfrydedd a thanbeidrwydd. Yr oedd galw am lygad y cyfundrefnwr, a deall y gwleidydd. Y nodweddion hyn, yn bennaf, ym Mhroffwyd y Crynwyr, a elwid arnynt i'w arwain ef a'r eglwys i mewn a thrwy'r cyfnod nesaf. Sefydlu eglwys a gosod ei rheolau a'i deddfau i lawr ydoedd ei orchwyl mawr yn awr. Esbonia hyn y ffaith nad oes gyfrif amdano yn y deheudir yn y blynyddoedd hyn. Nid ennill ychwaneg at yr eglwys ydoedd ganddo fwyaf mewn golwg yn awr, ond cadw y rhai a enillwyd a'u cadarnhau. Nid oedd yr elfen gyntaf wedi diflannu, ond cymerth y llall ei lIe, ac aeth hithau, yn ei olwg, yn ailraddol. Tueddir i feddwl mai cam o'r mwyaf ydoedd hyn, ond rhywbeth yn debig y bu yn hanes pob rhyw sefydliad. Ac y mae'n rhaid, fwy neu lai, i bob mud- iad a ddibynno yn y pen draw ar un personoliaeth, bydded honno mor hylaw a medrus ag y bu, ddilyn rhych nid annhebig. Ni ddeil yr undyn yn ieuanc hyd fyth, a hawdd credu bod y blynydd- oedd o lafur caled, ynghyda gwialen gref gwrthwynebiad, ac enbydrwydd carchar- dai wedi effeithio ar John ap John erbyn hyn. Nid allai fod fel arall. Ac yr oedd y gwaith newydd mor anodd a'r cyntaf. Un peth ydyw ennill disgyblion, peth arall ydyw eu cadw wrth ei gilydd. Llwyddodd Ap John, ar y cyntaf, y tu hwnt i'w ddymuniadau. Nid oedd wedi codi yng Nghymru erioed o'r blaen un a gafodd gymaint o ddylanwad arni. Ni fagodd eto yr un a gerfiodd ei bersonol- iaeth yn fwy arni. Ni welwyd o'i mewn un a enillodd gymaint parch, na'r un y bu ei gyd-genedl yn edrych i fyny ato'n fwy am arweiniad. Fe fu i Gymru, cyn ei amser ef, dywysogion rai a allodd osod eu hawdurdod ar y mwyafrif o'i thiroedd, ond trwy rym cledd a gofid gwaywffon y gwnaethant hynny gan mwyaf. Fe welodd ambell wleidydd, a llygad tanbaid i'r dyfodol ganddo, yn llwyddo i ennill clôd prifeirdd a chân penceirddiaid. Ond Ap John oedd y cyntaf i godi o blith y bobl a mynnu iddo ei hun le mwy na thywysog yn serch y werin. Nid ymddiriedodd mewn bidog na chledd, ond ni bu frenin a'i fuddugoliaeth yn sicrach. Ni ddefn- yddiodd fygythiad nac un gallu daearol, ond cenid ei glodydd gan y tlotaf o blant y pridd. WT. A. BEBB.